- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Trethi, Cymru
Gwnaed
26 Chwefror 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mawrth 2018
Yn dod i rym
1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015(2) (awdurdodau llywodraeth ganolog), ar ôl “Welsh NHS Bodies” mewnosoder—
“The Welsh Revenue Authority”.
3. Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(3) (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “other public authorities”, cyn “The Auditor General for Wales or Archwilydd Cyffredinol Cymru.” mewnosoder—
“The Welsh Revenue Authority or Awdurdod Cyllid Cymru.”
4. Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015(4) (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol yn y tabl—
“Awdurdod Cyllid Cymru | Cadeirydd ac aelodau a benodwyd o dan adran 3(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016”. |
5. Mae Deddf Enillion Troseddau 2002(5) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn adran 47A(2)(6) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(b)yn adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(c)yn adran 68(3)(c) (ceisiadau ac apelau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(d)yn adran 290(4)(c)(7) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(e)yn adran 303A(1)(8) (ymchwilwyr ariannol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(f)yn adran 352(7)(9) (gwarantau chwilio ac ymafael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(g)yn adran 353(11)(10) (gofynion pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(h)yn adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad atafaelu), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(i)yn adran 378(3AA)(b)(11) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(j)yn adran 378(3B)(12) (swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; a
(k)yn adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad gwyngalchu arian), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 er mwyn darparu bod Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) i’w drin fel “central government authority” at ddibenion y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn darparu bod ACC i’w drin fel “relevant Welsh authority” at ddibenion y Ddeddf honno.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 er mwyn darparu bod cadeirydd ac aelodau anweithredol ACC wedi eu hanghymhwyso rhag dod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/102, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/275; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2015/1536, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adrannau 47A i 47S gan adran 55(1) a (2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
Mewnosodwyd adran 290(4)(c) gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007 (p. 27), a pharagraffau 1 a 3(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.
Mewnosodwyd adran 303A gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 11 iddi.
Mewnosodwyd adran 352(7) gan adran 80(2) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.
Mewnosodwyd adran 353(11) gan adran 80(4) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.
Mewnosodwyd adran 378(3AA)(b) gan adran 49(b) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), a pharagraffau 24 a 27(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 19 iddi.
Mewnosodwyd adran 378(3B) gan adran 80(8) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys