- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
11th April 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
12 Ebrill 2024
Yn dod i rym
28 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Ebrill 2024.
2. Ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd ac sy’n diddymu Penderfyniad 97/29/EC(2) hepgorer Erthygl 3(3).
3. Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)rheoliad 3 o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(3),
(b)Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021(4),
(c)Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021(5),
(d)rheoliad 3 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(6),
(e)Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022(7),
(f)rheoliad 3 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022(8), ac
(g)Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024(9).
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC (“2000/572/EC”) sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio paratoadau cig o drydydd gwledydd.
Mae rheoliad 2 yn diwygio 2000/572/EC i ddileu’r amod mewnforio bod paratoadau cig o drydydd gwledydd wedi eu rhewi’n ddwfn yn y safle neu’r safleoedd cynhyrchu tarddiad.
Mae rheoliad 3 yn dirymu, o ganlyniad, offerynnau eraill neu ddarpariaethau offerynnau eraill a addasodd yr amod mewnforio hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd paragraff 11A yn Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639) (Cy. 344) ac mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy’n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r broses o gynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl (OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11) (“Cyfarwyddeb 2002”). Mae O.S. 2021/1 (Cy. 1), a ddiwygir gan reoliad 3 o’r offeryn hwn, yn addasu Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd (EUDN 2000/572). Mabwysiadwyd Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC (OJ Rhif L 240, 23.9.2000, t. 19) o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EC sy’n gosod y gofynion ar gyfer cynhyrchu a gosod ar y farchnad friwgig a pharatoadau cig (OJ Rhif L 368, 31.12.1994, t. 10) (“Cyfarwyddeb 1994”), ond mae i’w ddehongli fel pe bai’n cael ei wneud o dan Gyfarwyddeb 2002 yn rhinwedd darpariaeth yng Nghyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33) (“Cyfarwyddeb 2004”). Bu i Gyfarwyddeb 2004, a ddiddymodd Gyfarwyddeb 1994, ddarparu yn Erthygl 4 y dylid dehongli cyfeiriadau at Gyfarwyddebau penodol, gan gynnwys Cyfarwyddeb 1994, fel pe baent yn cael eu gwneud, yn ôl y cyd-destun, at Gyfarwyddeb 2002; yn unol â hynny, mae’r rheol ddehongli honno yn cael yr effaith bod y pŵer ym mharagraff 11A o Atodlen 2 i O.S. 2011/2379 (Cy. 252) i addasu mân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2002 yn ymestyn i addasu Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC.
EUDN 2000/572, a ddiwygiwyd gan O.S 2020/1462 a 2021/1 (Cy. 1).
O.S. 2021/1 (Cy. 1), a ddiwygiwyd gan O.S 2021/376 (Cy. 117), 2021/977 (Cy. 231), 2021/1480 (Cy. 382), 2022/618 (Cy. 140), 2022/1317 (Cy. 266) a 2024/17 (Cy. 6).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys