Adran 15 - cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannau
26.Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth benodedig am ei berfformiad.
27.Mae’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi ar gyfer blwyddyn ariannol yn cynnwys:
asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;
asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o ran gwireddu ei amcanion gwella;
asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o ran bodloni dangosyddion a safonau perfformiad lleol a bennwyd gan Weinidogion Cymru a dangosyddion a safonau hunanosodedig;
asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol o’i gymharu â pherfformiad blwyddyn flaenorol;
asesiad yr awdurdod o sut mae wedi perfformio mewn blwyddyn ariannol ac mewn blynyddoedd blaenorol o’i gymharu â pherfformiad awdurdod gwella Cymreig arall;
manylion sut mae wedi arfer ei bwerau cydlafurio; a
manylion yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 a’r hyn y mae’r awdurdod wedi’i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14.
28.Dylai’r wybodaeth gael ei chyhoeddi gan yr awdurdod perthnasol cyn 31 Hydref yn union ar ôl y flwyddyn ariannol y mae’n cyfeirio ati.
29.O dan yr adran hon mae’n rhaid i awdurdod gwella Cymreig sicrhau ei fod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad sy’n ymwneud ag arolygiad arbennig.
30.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig gyhoeddi ‘cynllun gwella’ sy’n nodi ei gynlluniau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) ar gyfer blwyddyn ariannol ac, os yw’n briodol, ar gyfer blynyddoedd dilynol. Rhaid iddo gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n cyfeirio ati.
31.Mae adran 15(8) yn darparu bod rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru am yr adran hon.