Adran 29 - gweinidogion Cymru: pwerau cyfarwyddo etc
57.Mae adran 29 yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn awdurdod lleol sy’n methu â chydymffurfio â’r Mesur neu sydd mewn perygl o wneud hynny, a rhoi cyfarwyddiadau iddo. Dim ond o dan yr amodau canlynol y caniateir i’r pŵer hwn gael ei arfer:
os yw’r awdurdod gwella Cymreig wedi cael cymorth o dan adran 28, ond bod hynny heb gywiro’r broblem; neu
os yw’r awdurdod gwella Cymreig yn methu neu’n debyg o fethu â chydymffurfio â gofynion y rhan hon o’r Mesur a bod brys y sefyllfa a/neu ddifrifoldeb y sefyllfa yn atal cymorth rhag cael ei gynnig;
os yw’r awdurdod gwella Cymreig yn methu neu’n debyg o fethu cydymffurfio â gofynion y rhan hon o’r Mesur, os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ei bod yn dymuno arfer y pŵer cynorthwyo o dan adran 28, ond na ellir ei arfer am fod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â Gweinidogion Cymru
58.Yna mae’r dewisiadau sy’n agored i Weinidogion Cymru fel y maent wedi’u nodi yn isadrannau (2) i (6). Mae’r rhain yn debyg i’r pwerau presennol yn adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Serch hynny, mae’r pŵer yn mynd y tu hwnt i bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999 a hynny am ei fod yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod i gydlafurio ag awdurdod arall (is-adran (2c)).