Adran 48 - canllawiau
Mae nifer o ddarpariaethau yn y Mesur yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau. Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau gwahanol i gyrff gwahanol, gan ganiatáu hyblygrwydd felly. Mae adran 48 hefyd yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn dyroddi canllawiau, ymgynghori â’r awdurdod neu’r partïon o dan sylw neu’r rhai y mae’n ymddangos eu bod yn ei gynrychioli. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r holl ganllawiau o’r fath.