Adran 5 - Ymgynghori ynghylch yr amcanion gwella
10.Er mwyn bodloni’r ddyletswydd gyffredinol o dan adran 2 a phennu amcanion gwella, mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar awdurdod gwella Cymreig i ymgynghori â chynrychiolwyr pobl sy’n perthyn i gategorïau penodedig:
trigolion ardal yr awdurdod;
y rhai sy’n talu ardrethi annomestig;
defnyddwyr gwasanaethau (gan gynnwys felly y rhai nad ydynt yn drigolion megis cymudwyr); a
chynrychiolwyr yr ymddengys i’r awdurdod bod ganddynt fuddiant.