Adran 12 – Datrys anghydfodau (mewnosod adran 28ID newydd – Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995)
58.Mae is-adran (1) o adran 281D newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau er mwyn osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng plentyn anabl a’r corff sy’n gyfrifol am ysgol.
59.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer penodi person annibynnol i helpu i osgoi neu ddatrys anghydfodau.
60.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau.
61.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau sy’n ymwneud â gwasanaethau datrys anghydfodau.
62.Mae is-adran (5) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant anabl, rhieni plant anabl, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau datrys anghydfodau ar gael.
63.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol hysbysu plant anabl, rhieni plant anabl a chyfeillion achos ar gyfer plant anabl yn eu hardal na fydd cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau’n effeithio ar hawl unrhyw berson i wneud hawliad i’r Tribiwnlys.