Adran 13 – Gwasanaethau eirioli annibynnol (mewnosod adran 28IE newydd – Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995)
64.Mae is-adran (1) o adran 281E newydd yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i drefnu bod gwasanaeth eirioli annibynnol ar gael yn eu hardal, a bod plentyn anabl neu gyfaill achos ar gyfer plentyn anabl yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth pe byddai’n gofyn am hynny.
65.Mae is-adran (2) yn diffinio “independent advocacy services” (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn wasanaethau a fwriedir ar gyfer darparu cyngor a chymorth i blentyn anabl sy’n ystyried p’un ai i wneud hawliad i’r Tribiwnlys ai peidio, sydd wedi gwneud neu sy’n bwriadu gwneud hawliad, neu sy’n cymryd rhan neu’n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfodau.
66.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol, pan fyddant yn gwneud trefniadau gwasanaethau eirioli, roi sylw i’r egwyddor bod yn rhaid i’r gwasanaeth eirioli fod yn annibynnol ar unrhyw berson sy’n destun hawliad neu y mae a wnelo ag ymchwilio i’r hawliad neu ddyfarnu ar yr hawliad.
67.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy’n ymwneud â threfniadau gwasanaethau eirioli.
68.Mae is-adran (5) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod plant anabl, rhieni, penaethiaid ysgolion a pherchenogion ysgolion yn eu hardal, a phersonau eraill o’r fath y mae’r Awdurdodau o’r farn eu bod yn briodol, yn ymwybodol bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael.
69.Mae is-adran (6) yn caniatáu i Awdurdod Addysg Lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer talu person, neu mewn perthynas â pherson, sy’n darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plentyn anabl neu gyfaill achos.
70.Mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru pan fydd yr Awdurdodau’n gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer plant neu gyfeillion achos.