Search Legislation

Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 675 (Cy.72)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Y DIWYDIANT PYSGOD MÔR

FFERMIO PYSGOD, CYMRU

Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Mawrth 2002

Yn dod i rym

13 Mawrth 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Mawrth 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “amodau perthnasol” (“relevant conditions”) yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7 isod;

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr;

  • ystyr “buddiolwyr” (“beneficiaries”) yw ceiswyr y mae eu ceisiadau wedi'u cymeradwyo a dehonglir “buddiolwr” (“beneficiary”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais fel y'i disgrifir yn rheoliad 3(1) a dehonglir “ceisydd” (“applicant”) yn unol â hynny;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • mae i “cwch bysgota Gymunedol” yr ystyr a roddir i “Community fishing vessel” yn erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3760/92(3) sy'n sefydlu system Gymunedol ar gyfer y pysgodfeydd a dyframaethu;

  • ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt (gan gynnwys unrhyw amodau a ddiwygiwyd neu a ychwanegwyd) a dehonglir “cymeradwyo” (“approve”) ac “a gymeradwywyd” (“approved”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw unrhyw swm ar ffurf cymorth Cymunedol neu grant;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth tuag at y gwariant cymwys sydd ar gael o'r Offeryn Ariannol Cyfarwyddyd Pysgodfeydd ac sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “diwygio” (“amend”) yn cynnwys diddymu;

  • ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw—

    (a)

    Rheoliad y Cyngor 1260/1999(4);

    (b)

    Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1263/1999 ar Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd(5);

    (c)

    Rheoliad y Cyngor 2792/1999(6);

    (ch)

    Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/501(7)) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n pennu dyraniad dangosol ar gyfer ymrwymiadau'r Aelod-wladwriaethau ar gyfer Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;

    (d)

    Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/502(8) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n llunio'r rhestr o ranbarthau sy'n dod o dan Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;

    (dd)

    Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1685/2000(9)) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1260/1999 o ran cymhwyster gwariant gweithrediadau sy'n cael eu cydariannu gan y cronfeydd strwythurol;

    (e)

    Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 yng Nghymru;

    (h)

    Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 dyddiedig 27 Rhagfyr 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1;

    (ff)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 438/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch systemau rheoli ar gyfer cymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol (10); ac

    (g)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 448/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cywiriadau ariannol i gymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol (11)

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;

  • ystyr “gwariant cymwys” (“eligible expenditure”) yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i geisio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;

  • ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithrediad perthnasol” (“relevant operation”) yw buddsoddiad, project neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;

  • ystyr “LIBOR” (“LIBOR”) mewn perthynas ag unrhyw ddydd penodol o'r mis, yw'r gyfradd llog yn y cant y mae Banc Lloegr wedi rhoi gwybod amdani i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis hwnnw, wedi'i dalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;

  • ystyr “offer perthnasol” (“relevant equipment”) yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i geisio neu wedi'i dalu;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1260/1999” (“Council Regulation 1260/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 sy'n nodi darpariaethau cyffredinol ynghylch cronfeydd strwythuro(12));

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 2792/1999” (“Council Regulation 2792/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd(13);ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig i fod yn swyddog

    (a)

    gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu

    (b)

    at ddibenion arfer unrhyw swyddogaethau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddynt gael eu harfer ganddo o dan reoliad 11 isod, gan yr Awdurdod;

    ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn sydd wedi'i benodi'n briodol ac sy'n mynd ynghyd â swyddog awdurdodedig o'r fath.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, yr un ystyron ag yn y ddeddfwriaeth Gymunedol.

(3Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(4O dan amgylchiadau lle bo hynny'n briodol, rhaid trin unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y gellir ei wneud neu y tystir iddo yn ysgrifenedig neu fel arall drwy ddefnyddio dogfen, hysbysiad neu offeryn o dan unrhyw reoliad, fel pe bai'n cynnwys drwy gyfrwng electronig os oes trefniadau wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi defnyddio cyfrwng electronig neu i ddarparu ar gyfer defnyddio cyfrwng electronig.

Cymorth Ariannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth Gymunedol a'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth Cymunedol ac, os yw'n penderfynu felly, grant i unrhyw berson—

(a)sydd wedi gwneud cais, er mwyn cael cymorth ariannol o'r fath, yn unol â rheoliad 4, am gymeradwyaeth—

(i)i weithrediad perthnasol; a

(ii)i wariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw; a

(b)y mae ei gais wedi'i gymeradwyo felly.

(2Wrth benderfynu o dan baragraff (1)—

(a)a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol; a

(b)swm unrhyw grant o'r fath y mae wedi penderfynu ei wneud,

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth fel y'u nodir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor 2792/1999.

Ceisiadau

4.—(1Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar unrhyw ffurf, mewn unrhyw fodd ac ar unrhyw adeg, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a chan gael eu cyflwyno mewn unrhyw gyfeiriad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt o dro i dro.

(2Heb ragfarnu paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, bennu categorïau penodol o weithrediad perthnasol y gall ceisiadau gael eu gwneud mewn perthynas â hwy dros unrhyw gyfnod o amser a bennir ganddo.

(3Rhaid i'r ceiswyr roi'r holl wybodaeth a'r holl ddogfennau pellach sy'n ymwneud â'r cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdanynt.

Cymeradwyo ceisiadau

5.—(1Yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth Gymunedol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)wrthod cymeradwyo cais at ddibenion cael cymorth ariannol; neu

(b)ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol a hynny naill ai yn ddiamod neu o dan unrhyw amodau y gall benderfynu arnynt.

(2Gyda chydsyniad y ceisydd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)hysbysu'r ceiswyr yn ysgrifenedig am ganlyniad eu ceisiadau;

(b)hysbysu buddiolwyr am unrhyw amodau y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu sydd wedi'i hamrywio yn unol â'r rheoliad hwn.

(4Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu ceisydd ei fod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr ei fod wedi rhoi cymeradwyaeth o dan amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddo roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath—

(a)rhesymau ysgrifenedig am ei benderfyniad; a

(b)cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o fewn unrhyw amser sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ac sydd wedi'i hysbysu i'r ceisydd neu'r buddiolwr.

(5Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael unrhyw sylwadau yn unol â pharagraff (4), rhaid iddo eu hystyried a chaiff gadarnhau ei benderfyniad neu roi penderfyniad gwahanol yn ei le.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd neu'r buddiolwr yn ysgrifenedig am unrhyw benderfyniad a gadarnheir neu y rhoddir un arall yn ei le yn unol â pharagraff (5).

Y cymhwyster a cheisiadau i gael taliadau cymorth ariannol

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod ac i reoliad 15, bydd buddiolwr yn gymwys i gael taliad cymorth ariannol.

(2Ni thelir unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â chais a gymeradwywyd oni bai bod y canlynol wedi'u rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)tystiolaeth foddhaol bod swm y gwariant y gwneir cais am gymorth ariannol ar ei gyfer wedi'i dynnu, gan gynnwys manylion unrhyw ddisgownt a gafodd y ceisydd; a

(b)tystiolaeth foddhaol bod y gweithrediad a gymeradwywyd, neu'r rhan o'r gweithrediad y mae'r taliad yn gysylltiedig â hi wedi'u cyflawni'n briodol.

Dull talu'r cymorth ariannol

7.  Gall taliadau cymorth ariannol gael eu gwneud—

(a)ar unrhyw bryd, neu fesul unrhyw randaliadau ar unrhyw gyfnodau neu adegau; a

(b)o dan unrhyw amodau,

y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n rhesymol arnynt a rhaid i unrhyw amodau mewn perthynas ag unrhyw daliad gael eu hysbysu i'r buddiolwr yn ysgrifenedig.

Ymrwymiadau

8.  Gall y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr roi unrhyw ymrwymiadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol i'r achos.

Gwybodaeth

9.—(1Rhaid i fuddiolwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani o dro i dro.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth o'r fath, rhaid i'r buddiolwr ei rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n rhesymol arno.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn gwybodaeth o'r fath, caiff ei rannu ag Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn Rheoliad 11 isod.

Cofnodion

10.—(1Rhaid i fuddiolwr—

(a)cadw cofnod o bob gwariant a dynnir mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd; a

(b)tra bydd gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni, ar ôl cwblhau'r gweithrediad a gymeradwywyd ac wedyn drwy gydol y cyfnod rheoli, cadw unrhyw gofnod o'r fath ynghyd ag unrhyw “ddogfennau perthnasol”, ac eithrio i'r graddau y mae swyddog awdurdodedig wedi'i gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw un ohonynt neu wedi mynd â hwy o dan reoliad 13(5) isod.

(2At ddibenion y rheoliad hwn ystyr y “cyfnod rheoli” mewn perthynas â gweithrediad a gymeradwywyd yw:

(a)cyfnod o chwe blynedd yn dechrau gyda thaliad olaf y cymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad hwnnw; neu

(b)y cyfnod hwnnw o chwe blynedd yn ogystal ag unrhyw gyfnod pellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i dderbynnydd cymorth ariannol ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod cychwynnol hwnnw o chwe blynedd ddod i ben,

ond wrth benderfynu yn y naill achos neu'r llall ar ba ddyddiad y daw'r cyfnod rheoli i ben, rhaid peidio â chymryd unrhyw amser rhwng cychwyn unrhyw achos a ddygir o dan reoliad 15 i adennill unrhyw gymorth ariannol a dalwyd mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd a phenderfyniad terfynol neu setliad yr achos hwnnw.

Arfer swyddogaethau gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr

11.—(1Heb ragfarnu adran 2(5) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(14) na'i allu i arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ei hun, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn naill ai yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymorth ariannol mewn cysylltiad â chategorïau penodol o weithrediad perthnasol a chaiff roi cyfarwyddiadau o dro i dro ynghylch dull arfer swyddogaethau o'r fath.

(2Rhaid i unrhyw swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn y gofynnwyd i'r Awdurdod eu harfer yn unol â pharagraff 1 gael eu cyflawni gan aelodau o'r Awdurdod a benodir o dan adran 1(3) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac nid gan unrhyw aelodau eraill.

(3Rhaid i'r Awdurdod gadw unrhyw gyfrifon mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wneir ganddo neu iddo yn unol ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu cyfarwyddo a rhaid i'r Awdurdod baratoi datganiad o'r cyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ar unrhyw ffurf, gan roi unrhyw wybodaeth, a gyfarwyddir.

(4Rhaid i'r cyfrifon am bob blwyddyn ariannol, yn unol â chynllun archwilio a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu harchwilio gan y personau a benodir mewn perthynas â'r flwyddyn honno i archwilio cyfrifon eraill yr Awdurdod a rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r datganiadau o'r cyfrifon i'r archwilwyr.

(5Rhaid i'r archwilwyr gwblhau archwilio'r cyfrifon ac anfon copïau o'r datganiad o'r cyfrifon ac o'u hadroddiad ar y cyfrifon ac ar y datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn cyfeirio ati a hynny heb fod yn hwyrach na 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn honno beth bynnag.

(6Bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r Rheolwr ac Archwiliwr Cyffredinol hawl i archwilio'r holl lyfrau, papurau a chofnodion eraill sydd gan yr Awdurdod ynghylch y cyfrifon y mae'n ofynnol eu cadw yn unol â'r rheoliad hwn, neu â materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt.

Cymorth i swyddogion awdurdodedig

12.  Rhaid i unrhyw fuddiolwr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i unrhyw fuddiolwr roi unrhyw gymorth i swyddog awdurdodedig y mae'r swyddog hwnnw yn gofyn yn rhesymol amdano er mwyn arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan reoliad 13.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

13.—(1Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn er mwyn—

(a)dilysu cywirdeb unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a geir mewn cais, a gynhwysir gyda chais neu a roddir yn unol â rheoliad 6 neu 9;

(b)darganfod a ddylai unrhyw wariant y gwneir cais am gymorth ariannol mewn perthynas ag ef gael ei gymeradwyo, ac i ba raddau;

(c)darganfod a gydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan fuddiolwr o dan reoliad 8 ac ag unrhyw amodau perthnasol, ac i ba raddau;

(ch)darganfod a oes unrhyw swm o gymorth ariannol yn daladwy ac i ba raddau, neu a ddylai gael ei ostwng, ei ddal yn ôl neu ei adennill, ac i ba raddau, o dan reoliad 15 isod;

(d)darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 17 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu

(dd)darganfod fel arall, yn unol ag Erthygl 38 o Reoliad 1260/1999, a yw'r cymorth Cymunedol yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ac yn gywir, a bydd y pwerau hyn yn arferadwy at y dibenion hyn ar hap, i archwilio yn y fan a'r lle neu i archwilio samplau yn ogystal â thrwy gyfeirio at amgylchiadau penodol achosion unigol neu at yr amgylchiadau a amheuir mewn achosion unigol.

(2Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw safle, heblaw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n safle perthnasol neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn safle perthnasol.

(3Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw safle yn unol â pharagraff (2) uchod archwilio'r safle hwnnw, unrhyw offer sy'n offer perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn offer perthnasol ac unrhyw ddogfennau ar y safle hwnnw sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu eu bod yn ddogfennau perthnasol.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw berson arall y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol a bydd rheoliadau 12 a 14 a pharagraffau (2), (3) a (5) o'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â'r personau eraill hynny wrth iddynt weithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog awdurdodedig fel pe baent yn swyddogion awdurdodedig.

(5Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr neu i gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â chais neu â gweithrediad a gymeradwywyd y bydd y swyddog yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

(b)archwilio unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os oes unrhyw ddogfennau o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio;

(c)ei gwneud yn ofynnol bod copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu o ddarnau ohonynt, yn cael eu cyflwyno; neu

(ch)cymryd a chadw, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen berthnasol o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu y gall fod eu hangen yn dystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn neu y gall fod yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu eu bod ar gael i'r Comisiwn yn unol ag Erthygl 38(6) o Reoliad 1260/1999 ac, os oes unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd, a honno'n ffurf y mae'n weladwy ac yn ddarllenadwy ynddi.

(6Yn y rheoliad hwn—

  • mae “safle” yn cynnwys unrhyw long neu gerbyd arall; ac

  • mae “safle perthnasol” yn golygu unrhyw safle y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn cyfeirio ato neu lle cedwir dogfennau perthnasol neu offer perthnasol.

Amddiffyn swyddogion

14.  Ni fydd unrhyw swyddog awdurdodedig yn agored mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddir iddo neu iddi yn rhinwedd rheoliad 13 os yw'r llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod yna seiliau rhesymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Lleihau'r cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill

15.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg ar ôl iddo gymeradwyo cais,—

(a)na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw amodau perthnasol;

(b)nad oedd y cais a gymeradwywyd, (neu unrhyw ran ohono), yn gais (neu ran) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud;

(c)bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr—

(i)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliad 10 neu o dan reoliad 9, 12 neu 13(5) uchod;

(ii)wedi rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer y pwerau o dan reoliad 13 uchod; neu

(iii)wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi'r gymeradwyaeth neu i wneud taliad sy'n berthnasol i'r gymeradwyaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol;

(ch)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i gychwyn cyn y dyddiad y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ganiatâd ysgrifenedig iddo gychwyn;

(d)nad yw'r gweithrediad a gymeradwywyd y tynnwyd y gwariant mewn perthynas ag ef wedi'i gyflawni neu ei fod heb ei gyflawni'n briodol neu yn unol â'r gymeradwyaeth sy'n ymwneud ag ef;

(dd)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i ohirio neu yn cael ei ohirio yn afresymol y tu hwnt i'r terfynau amser a nodwyd yn yr hysbysiad ar gyfer y gymeradwyaeth neu'n annhebyg o gael ei gwblhau;

(e)na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan y buddiolwr;

(f)bod y Comisiwn wedi penderfynu atal neu adennill y cymorth Cymunedol yn unol ag Erthyglau 38 neu 39 o Reoliad y Cyngor 1260/1999;

(ff)mewn unrhyw achos o gymorth ariannol ar gyfer adeiladu neu foderneiddio cwch bysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) isod wedi digwydd cyn pen deng mlynedd ar ôl cwblhau adeiladu'r cwch neu bum mlynedd ar ôl cwblhau moderneiddio'r cwch; neu

(g)mewn unrhyw achos o gymorth ariannol i unrhyw weithrediad perthnasol heblaw adeiladu neu foderneiddio cwch bysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (3) isod wedi digwydd cyn pen chwe mlynedd o brynu'r offer perthnasol neu ddeng mlynedd o brynu'r safle neu gwblhau'r gweithfeydd,

caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r taliad sydd wedi'i wneud.

(2Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (i) o baragraff (1) uchod—

(a)colli'r cwch yn gyfan gwbl;

(b)difrodi neu ddinistrio unrhyw offer perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal;

(c)morgais ar y cwch (heblaw morgais sy'n cael ei greu i godi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r cwch, sef morgais a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo gael ei wneud);

(ch)defnyddio'r cwch yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy;

(d)gwaredu'r cwch neu unrhyw ran ohoni, ei hinjan neu unrhyw ran ohoni neu unrhyw offer perthnasol neu offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar y cwch neu mewn cysylltiad ag ef, boed drwy werthu neu drwy ddull arall; neu

(dd)bod y cwch yn peidio â bod yn cwch bysgota Cymunedol.

(3Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (g) o baragraff (1) uchod—

(a)colli'r offer perthnasol yn gyfan gwbl;

(b)difrodi neu ddinistrio unrhyw offer, safle, neu weithfeydd perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal;

(c)creu hawl mewn gwarant dros yr offer, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol (heblaw hawl mewn gwarant sy'n cael ei chreu er mwyn codi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio yr offer perthnasol, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol, sef hawl mewn gwarant a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddi gael ei gwneud);

(ch)defnyddio'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; neu

(d)gwaredu'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol neu unrhyw ran ohonynt, boed drwy werthu neu drwy ddull arall.

(4Os yw is-baragraff (ff) neu (g) o baragraff (1) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill yn y paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill oddi ar fuddiolwr yn unol â pharagraff (1) yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol.

(5Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau am y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau.

Adennill llog

16.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu adennill unrhyw swm o dan reoliad 15, caiff hefyd adennill llog ar y swm hwnnw, drwy wneud cais amdano, yn ôl cyfradd o un pwynt canran uwchlaw LIBOR wedi'i gyfrifo fesul dydd am y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod y talwyd y cymorth ariannol o dan sylw nes i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill y swm.

(2Yn achos unrhyw swm sydd yn adennilladwy o dan reoliad 15(4) uchod, fe gyfrifir llog o dan baragraff 16(1) uchod nid o'r dyddiad y talwyd y cymorth ariannol arno, ond o'r dyddiad y digwyddodd yr achlysur a achosodd yr adennill.

(3Mewn unrhyw achos ynglyn ag adennill llog o'r fath, bydd tystysgrif a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddangos y cyfraddau llog sy'n gymwys, swm y llog o'r fath sy'n enilladwy a'r cyfnod y cyfrifir y llog ar ei gyfer yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r materion hynny oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddo a chosbi

17.—(1Os oes unrhyw berson, er mwyn sicrhau cymorth ariannol iddo'i hun neu i unrhyw berson arall—

(a)wrth roi unrhyw wybodaeth gan honni ei bod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 4(1) neu (3) neu 13(5)(a) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu

(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan reoliad 13(5)(a) neu (c) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn cyflwyno dogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,

bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Os oes unrhyw berson—

(a)yn methu â chydymffurfio â'r gofyniad a osodir o dan reoliad 9 neu gan reoliad 10 uchod;

(b)yn methu â chydymffurfio â chais a wneir o dan reoliad 12 uchod; neu

(c)yn fwriadol yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth, llenwi unrhyw ffurflen, neu gyflwyno unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo neu iddi wneud hynny gan swyddog awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gydag ef neu hi ac yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog hwnnw) sy'n gweithredu i arfer pwer a roddir gan reoliad 13 uchod, neu sydd fel arall yn ei rwystro'n fwriadol,

bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3Caiff achos ynglyn â thramgwydd o dan baragraff (1) neu (2) uchod gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos.

(4Ni chaiff achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na phum mlynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol a digonol o'r ffaith honno; a

(b)bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

(6Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn sydd wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn ymhonni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(7Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (6) uchod yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

Erlyn

18.  Rhaid peidio â chychwyn achos am dramgwydd o dan reoliad 17 uchod ac eithrio gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol fel y'i diffinnir a'i rhestri yn rheoliad 2 (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth (“cymorth Cymunedol”) o'r Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd (“FIFG”) mewn perthynas â chategorïau penodol o fuddsoddiadau, projectau a gweithredoedd (“gweithrediadau perthnasol”) yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu ac yn y sector o'r diwydiant sy'n prosesu ac yn marchnata ei gynhyrchion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau a chymorth Cymunedol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) tuag at wariant mewn perthynas â gweithrediadau perthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hyn a'r ddeddfwriaeth Gymunedol, ac ar gyfer rheoleiddio'r taliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 3, 4 a 5) yn nodi gweithdrefn ar gyfer gwneud cais am gymeradwyo gweithrediadau perthnasol a gwariant a chymeradwyo'r rheiny at ddibenion talu cymorth Cymunedol ac, os penderfynir felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, talu grant yn ychwanegol at y cymorth hwnnw (gan gyfeirio at gymorth a grant o'r fath gyda'i gilydd fel “cymorth ariannol”). Wrth benderfynu a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol, ac, os yw'n penderfynu talu'r grant hwnnw, faint ohono, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol (rheoliad 3).

Ymhlith pethau eraill mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn mynnu bod yr Aelod-wladwriaethau yn cyrraedd lefel benodol o gyfranogiad ariannol er mwyn galluogi'r gweithrediadau perthnasol i fod yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, ac mae'r lefelau cyfranogi angenrheidiol wedi'u nodi yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd (OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10).

Mae taliadau cymorth ariannol yn dibynnu ar ddarparu tystiolaeth ddigonol o'r gwariant a dynnwyd a bod y gweithrediad perthnasol wedi'i gyflawni'n briodol (rheoliad 6).

Gwneir darpariaeth ynghylch dull talu'r cymorth ariannol (rheoliad 7) a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol bod person y mae ei gais wedi'i gymeradwyo yn rhoi ymrwymiadau (rheoliad 8).

Gwneir darpariaeth (rheoliad 9) i bersonau y mae eu ceisiadau am gymorth ariannol wedi'u cymeradwyo (“buddiolwyr”) roi unrhyw wybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ag y bydd yn gofyn yn rhesymol amdani o dro i dro ac (o dan reoliad 10) iddynt gadw cofnodion penodol am gyfnod o chwe blynedd (sydd yn gyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei estyn).

Gwneir darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol o dro i dro i Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (yr “Awdurdod”) arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn ac mewn perthynas â chadw cyfrifon a chofnodion gan yr Awdurdod os yw wedi rhoi neu wedi cael taliadau wrth arfer unrhyw swyddogaethau o'r fath (rheoliad 11).

Pan ofynnir iddynt, mae'n ofynnol i geiswyr roi cymorth i swyddogion awdurdodedig y Cynulliad Cenedlaethol, sy'n cael pwerau mynediad a phwerau archwilio at ddibenion penodedig (rheoliadau 12 i 14).

Darperir ar gyfer lleihau cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill o dan amgylchiadau penodol (rheoliadau 15 a 16).

Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 17 a 18) yn creu tramgwyddau ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag erlyn tramgwyddau mewn perthynas â datganiadau ffug a wneir i sicrhau cymorth ariannol, mewn perthynas â methu â chadw cofnodion neu â rhoi gwybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â methu â chydymffurfio â cheisiadau a wneir gan swyddogion awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau mynediad a'u pwerau archwilio ac mewn perthynas â rhwystro swyddogion o'r fath wrth iddynt arfer y pwerau hynny. Rhagnodir cosbau am y tramgwyddau hyn.

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

Mae copïau o Benderfyniad Comisiwn Rhif C(2000) 2049 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Rhaglennu Sengl Amcan Un ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac o Benderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1 (y cyfeirir at bob un ohonynt yn rheoliad 2) ar gael i'w harchwilio, ynghyd â'r Dogfennau Rhaglennu Sengl yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).

(3)

OJ Rhif L389, 31.12.1992, t.1.

(4)

OJ Rhif L161, 26.6.1999, t.1.

(5)

OJ Rhif L161, 26.6. 1999, t.54.

(6)

OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10.

(7)

OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.49.

(8)

OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.53.

(9)

OJ Rhif L193, 29.7.2000, t.39.

(10)

OJ Rhif L63, 3.3.2001, t.21.

(11)

OJ Rhif L63, 6.3.2001, t.13.

(12)

(a)

(13)

(b)

(14)

1981 p.29.

(15)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources