Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3230 (Cy.310)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

1 Ionawr 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 160(1) a 168 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 1996(2) (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “cais” (“application”) yw cais a wnaed i'r awdurdod cofrestru i gofrestru ysgol annibynnol gan y perchennog yn unol ag adran 160(1)(b) o Ddeddf 2002;

ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw cofrestr ysgolion annibynnol a gedwir gan yr awdurdod cofrestru o dan adran 158(3) o Ddeddf 2002;

mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol annibynnol fel y'i diffinnir gan adran 463 o Ddeddf 1996; ac

ystyr “ysgol gofrestredig” (“registered school”) yw ysgol y mae cofnod o'i henw ar y gofrestr.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson sy'n cyflawni gwaith y mae adran 142 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddo.

Cais am gofrestru ysgol annibynnol

3.  Rhaid i bob cais—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)datgan y dyddiad cyntaf y bydd ysgol yn bwriadu derbyn disgyblion;

(c)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen; ac

(ch)cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog bod y datganiadau a wnaed yn y cais yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.

Cyflwyno ffurflen cyn pen y tri mis cyntaf o weithredu

4.  Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru cyn pen tri mis ar ôl derbyn disgyblion, neu un disgybl os yw'r disgybl hwnnw o fewn adran 463(1)(b) o Ddeddf 1996, ffurflen ysgrifenedig rhaid ei bod yn cynnwys —

(a)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen; a

(b)tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.

Ffurflen flynyddol

5.—(1Ym mhob blwyddyn ysgol rhaid i berchennog ysgol gofrestredig gyflwyno i'r awdurdod cofrestru ffurflen flynyddol ar gyfer yr ysgol honno cyn pen mis ar ôl i'r awdurdod cofrestru ofyn amdani.

(2Rhaid i bob ffurflen flynyddol —

(a)cael ei darparu yn ysgrifenedig;

(b)bod wedi'i llenwi hyd at y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cofrestru;

(c)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen; ac

(ch)cynnwys tystysgrif wedi'i llofnodi gan y perchennog, neu gan berson a awdurdodwyd ganddo i roi'r dystysgrif ar ei ran, bod y datganiadau a wnaed yn y ffurflen flynyddol yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred.

Adroddiadau ar gamymddwyn

6.  Rhaid i berchennog ysgol gofrestredig, cyn pen pymtheng niwrnod i gais, roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth y mae'n gofyn amdani ac y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r swyddogaethau y mae'n eu harfer neu swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002, ac nad yw eisoes wedi cael ei rhoi iddo o dan Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003(3).

Tynnu ysgol o'r gofrestr

7.  Os yw'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni bod perchennog ysgol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6, caiff dynnu'r ysgol honno o'r gofrestr.

Tramgwydd

8.  Os bydd perchennog ysgol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir yn rheoliadau 4, 5 neu 6 bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Uchafswm ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn bodoli

9.  Mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2004, mae “uchafswm y disgyblion” at ddibenion adran 162 o Ddeddf 2002 i droi, ar y dyddiad hyd ato y mae ffurflen flynyddol 2004 yn cael ei llenwi, yn nifer y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw.

Dirymu

10.  Mae Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 1997(4) yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Rheoliadau 3, 4 a 5

YR ATODLEN

RHAN 1CYFLWYNIAD

1.  Yn yr Atodlen hon —

mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” yn adran 96(1) o Ddeddf Elusennau 1993(6);

ystyr “grwp blwyddyn” (“year group”) yw grwp o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol ac sy'n cyrraedd yr un oedran yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn ysgol pan wneir y cais (neu, yn ôl y digwydd, yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Medi yn union o flaen y dyddiad hyd ato y llenwir y ffurflen flynyddol); ac

ystyr “llety byrddio” (“boarding accommodation”) yw llety dros nos y mae'r ysgol yn ei drefnu neu ei ddarparu yn yr ysgol neu yn rhywle arall, ac eithrio llety i ddisgyblion i ffwrdd o dir ac adeiladau'r ysgol ar drip am gyfnod byr.

RHAN 2GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN CAIS

2.—(1Enw llawn y perchennog, ac unrhyw enwau blaenorol a fu ganddo.

(2Naill ai —

(a)cyfeiriad preswyl arferol, Rhif ffôn, dyddiad geni a Rhif Yswiriant Cenedlaethol y perchennog os yw'n unigolyn;

(b)cyfeiriad a Rhif ffôn prif swyddfa neu swyddfa gofrestredig os yw'r perchennog yn gorfforaeth, yn ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau.

(3Enw a chyfeiriad yr ysgol, ei chyfeiriad e-bost, ei Rhif ffôn a'i Rhif ffacs.

(4Os oes gan yr ysgol gorff llywodraethu, enw llawn a chyfeiriad preswyl arferol a Rhif ffôn Cadeirydd y corff hwnnw.

3.—(1Ystod oedran arfaethedig y disgyblion.

(2Uchafswm arfaethedig y disgyblion.

(3P'un a yw'r ysgol ar gyfer disgyblion gwrywaidd, neu ddisgyblion benywaidd neu'r ddau.

(4P'un a yw'r ysgol yn darparu llety byrddio ar gyfer disgyblion.

(5P'un a yw'r ysgol yn derbyn disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

(6P'un a fydd yr ysgol yn darparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a'r math o anhawster dysgu y darperir ar ei gyfer.

(7P'un a fydd yr ysgol yn darparu gofal dydd o fewn ystyr paragraff 1(2) o Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989(7) ar gyfer unrhyw blentyn y gofalir amdano yn yr ysgol.

(8Plan yn dangos gweddlun y tir a'r adeiladau a'r llety.

(9Cynlluniau cwricwlwm manwl, cynlluniau gwaith a gweithdrefnau asesu disgyblion.

(10Copïau o'r polisïau ysgrifenedig sy'n ofynnol gan reoliad 3(2) o'r Atodlen i Reoliadau Ysgol Annibynnol (Safonau) (Cymru) 2003(8).

(11Copi o'r drefn gwyno y mae paragraff 7 o'r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 yn ei gwneud yn ofynnol.

(12P'un a yw'r perchennog yn bwriadu darparu llety byrddio i unrhyw blentyn yn yr ysgol (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed ganddo) am fwy na 295 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn.

(13 Anian grefyddol yr ysgol, os oes un.

(14P'un a yw tir ac adeiladau'r ysgol, gan gynnwys llety byrddio, mewn dau leoliad neu fwy, ac os felly, cyfeiriad pob un o'r lleoliadau.

(15Os yw'r ysgol yn elusen, neu'n cael ei rhedeg gan elusen, enw'r elusen honno a'i Rhif cofrestru.

(16Copi o'r Dystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol a ddyroddir gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau bod y perchennog yn addas i weithio gyda phlant.

(17Copi o asesiad risgiau'r ysgol o dan reoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(9) i'r graddau y mae'n berthnasol i rwymedigaethau o dan Ran II o Reoliadau Rhagofalon Tân (y Gweithle) 1997(10)).

RHAN 3GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN YN Y FFURFLEN SYDD I'W CHYFLWYNO CYN PEN Y TRI MIS CYNTAF AR ÔL DERBYN DISGYBLION

4.—(1Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn perthnasol.

(2Yn achos ysgol â llety byrddio —

(a)nifer y disgyblion byrddio; a

(b)oedran yr hynaf a'r ieuengaf o'r disgyblion byrddio (ar 31 Awst yn union cyn y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2)(b)).

(3Yn achos ysgol sydd hefyd yn darparu addysg ran-amser, rhaid rhoi'r niferoedd y mae is-baragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol ar wahân ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg ran-amser a'r rhai sy'n cael addysg lawn amser.

(4Yn achos ysgol gydaddysgol, rhaid rhoi'r niferoedd sy'n ofynnol gan y paragraff hwn ar wahân ar gyfer bechgyn a merched.

5.—(1Nifer y disgyblion yn yr ysgol y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o achos anghenion addysgol arbennig yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â hwy; ac mewn perthynas â phob un o'r disgyblion hynny —

(a)ei enw;

(b)y dyddiad pan ddaeth yn ddisgybl yn yr ysgol; ac

(c)enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal y datganiad.

(2Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (1), ond y dynodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig.

6.  Yr wybodaeth ganlynol ynghylch athrawon a gyflogir yn yr ysgol (a rhoddir niferoedd ar wahân ar gyfer dynion a merched) —

(a)nifer yr athrawon llawn amser;

(b)nifer yr athrawon rhan-amser; ac

(c)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae athrawon rhan-amser yn eu gweithio yn ystod y tymor.

7.  Yr wybodaeth ganlynol ynghylch pob person a gyflogir yn yr ysgol —

(a)enw'r person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;

(b)rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;

(c)yn achos pob athro, ei gymwysterau a datganiad yn dweud ai ef yw'r pennaeth neu a yw'n athro llawnamser neu ran-amser; ac

(ch)cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau ei fod yn addas i weithio gyda phlant.

8.—(1Swm y ffioedd hyfforddi a ffioedd eraill (ac eithrio ffioedd llety byrddio) sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl yn yr ysgol ac y mae eu talu yn un o amodau mynychu'r ysgol.

(2Yn achos ysgol sy'n darparu llety byrddio i ddisgyblion, swm y ffioedd byrddio blynyddol sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl byrddio.

RHAN 4GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN FFURFLEN FLYNYDDOL

9.  Yr holl wybodaeth a bennir gan Ran 2 a 3 o'r Atodlen hon ac eithrio'r hyn a bennir ym mharagraffau 3(6) i 3(10), 3(13) a 7.

10.  Ar gyfer pob person a ddechreuodd gael ei gyflogi yn yr ysgol neu y daeth ei gyflogaeth i ben ers dyddiad y ffurflen ddiwethaf at yr awdurdod cofrestru—

(a)enw llawn y person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;

(b)rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;

(c)ym mha le y mae'n athro, ei gymwysterau a datganiad ynghylch pa un ai ef yw'r pennaeth, a yw'n athro llawnamser, neu'n athro rhan-amser; ac

(ch)cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol a roddwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau eu bod yn addas i weithio gyda phlant.

11.  Yn y ddwy flynedd cyn dyddiad dychwelyd y ffurflen, ac eithrio yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, nifer y plant sy'n mynychu'r ysgol ac y darparwyd llety iddynt yno (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed gan y perchennog) am fwy na 295 diwrnod yn y flwyddyn honno.

12.—(1Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn disgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sy'n dilyn cyrsiau ar gyfer arholiadau.

(2Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sydd wedi cwblhau cyrsiau ar gyfer arholiad Tystysgrif Addysg Gyffredinol (Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol), neu Dystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch (TAAU), ond sy'n aros yn yr ysgol at ddiben heblaw dilyn unrhyw gwrs pellach o'r natur honno.

(3Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed (ac eithrio'r rhai sydd yng nghategori'r disgyblion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)) sy'n mynychu'r ysgol at ddiben heblaw dilyn cyrsiau ar gyfer arholiad perthnasol.

(4Rhaid datgan y nifer a bennir yn y ffurflen flynyddol o dan is-baragraff (1) a (2) ar wahân ar gyfer —

(a)cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn unig;

(b)cyrsiau mewn pynciau eraill yn unig;

(c)cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn rhannol ac mewn pynciau eraill yn rhannol; ac

(ch)bechgyn a merched.

13.  Os bu newid ar dir yr ysgol neu yn ei hadeiladau neu'i llety byrddio ers y dyddiad hyd ato y llanwyd y ffurflen flynyddol yn uniongyrchol o'i blaen (neu, yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, ers y dyddiad hyd ato y llanwyd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais i gofrestru'r ysgol), manylion y newid hwnnw.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Addysg (Manylion Ysgolion Annibynnol) 1997 mewn perthynas â Chymru. Maent yn ymwneud â cheisiadau i gofrestru ysgolion annibynnol o dan adran 160(1) o Ddeddf Addysg 2002 ac â'r wybodaeth sydd i'w darparu'n achlysurol gan berchenogion ysgolion annibynnol o dan adran 168 o'r Ddeddf honno.

(1)

2002 p.32. Gweler adran 212(1) ar gyfer y diffiniad o “regulations”, yn eu rhinwedd hwy y mae'rheoliadau hyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig. Mae adran 212(1) yn diffinio “prescribed” hefyd.

(10)

O.S. 1997/1840; diwygiwyd gan O.S. 1999/1877.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources