- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn perthnasol.
(2) Yn achos ysgol â llety byrddio —
(a)nifer y disgyblion byrddio; a
(b)oedran yr hynaf a'r ieuengaf o'r disgyblion byrddio (ar 31 Awst yn union cyn y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2)(b)).
(3) Yn achos ysgol sydd hefyd yn darparu addysg ran-amser, rhaid rhoi'r niferoedd y mae is-baragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol ar wahân ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg ran-amser a'r rhai sy'n cael addysg lawn amser.
(4) Yn achos ysgol gydaddysgol, rhaid rhoi'r niferoedd sy'n ofynnol gan y paragraff hwn ar wahân ar gyfer bechgyn a merched.
5.—(1) Nifer y disgyblion yn yr ysgol y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o achos anghenion addysgol arbennig yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â hwy; ac mewn perthynas â phob un o'r disgyblion hynny —
(a)ei enw;
(b)y dyddiad pan ddaeth yn ddisgybl yn yr ysgol; ac
(c)enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal y datganiad.
(2) Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (1), ond y dynodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig.
6. Yr wybodaeth ganlynol ynghylch athrawon a gyflogir yn yr ysgol (a rhoddir niferoedd ar wahân ar gyfer dynion a merched) —
(a)nifer yr athrawon llawn amser;
(b)nifer yr athrawon rhan-amser; ac
(c)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae athrawon rhan-amser yn eu gweithio yn ystod y tymor.
7. Yr wybodaeth ganlynol ynghylch pob person a gyflogir yn yr ysgol —
(a)enw'r person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;
(b)rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;
(c)yn achos pob athro, ei gymwysterau a datganiad yn dweud ai ef yw'r pennaeth neu a yw'n athro llawnamser neu ran-amser; ac
(ch)cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau ei fod yn addas i weithio gyda phlant.
8.—(1) Swm y ffioedd hyfforddi a ffioedd eraill (ac eithrio ffioedd llety byrddio) sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl yn yr ysgol ac y mae eu talu yn un o amodau mynychu'r ysgol.
(2) Yn achos ysgol sy'n darparu llety byrddio i ddisgyblion, swm y ffioedd byrddio blynyddol sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl byrddio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: