- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Yn sgil cyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth a elwir “parth rheoli dros dro”.
(2) Pan fydd parth rheoli dros dro wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y barna'n angenrheidiol, sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru.
(3) Rhaid i'r parth rheoli dros dro fod wedi ei leoli a bod o'r fath faint ag sydd ei angen, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.
(4) Os yw parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb —
(a)symud yr un mochyn o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol;
(b)symud unrhyw wartheg, defaid, geifr nac anifail cnoi cil arall o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth y mae moch ynddi ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol; nac
(c)symud yr un mochyn allan o'r parth.
(5) Ni fydd y cyfyngiad ym mharagraff (4)(c) yn gymwys i foch sydd wedi eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth a'u cludo drwyddo heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho.
(6) Ystyrir bod unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheoli dros dro yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: