- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) Pan gadarnheir gan y Prif Swyddog Milfeddygol fod y clefyd yn bresennol, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig ag iddi barth a elwir yn “barth diogelu” a pharth a elwir yn “barth goruchwylio”.
(2) Mae'r parth diogelu i gwmpasu ardal sydd o leiaf tri chilometr ei radiws mewn parth goruchwylio sy'n cwmpasu ardal sydd o leiaf deg cilometr ei radiws, a'r daliad, y lladd-dy neu'r abwyfa y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol yno fydd canolbwynt y ddau barth.
(3) Mae Rhan I o Atodlen 1 yn gymwys i barth diogelu a Rhan II o Atodlen 1 yn gymwys i barth goruchwylio.
(4) Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn Lloegr sydd o fewn 10 cilometr i'r ffin â Chymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig yng Nghymru fel y bydd parth diogelu sydd o leiaf tri chilometr ei radiws wedi ei gynnwys mewn parth goruchwylio sydd o leiaf 10 cilometr ei radiws, a'r daliad yn Lloegr y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol ynddo fydd canolbwynt y ddau.
(5) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod pob person mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau sydd mewn grym, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal heintiedig.
(6) Rhaid i unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sydd yn rhannol y tu mewn i barth goruchwylio neu barth diogelu ac yn rhannol y tu allan gael ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: