- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau sydd ag awdurdod ysgrifenedig y Comisiwn, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn ac archwilio safleoedd perthnasol at ddibenion cynnal adolygiadau llywodraethu clinigol, adolygiadau cyffredinol neu ymchwiliadau.
(2) Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i bob person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) o awdurdod y person hwnnw ac, wrth wneud cais am fynediad i safle perthnasol at y dibenion a bennir ym mharagraff (1), bydd yn rhaid iddo, ar gais meddiannydd y safle neu berson sy'n gweithredu ar ei ran, ddangos y dystiolaeth honno.
(3) Rhaid i berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) beidio â hawlio mynediad i safle perthnasol os nad yw'r person neu'r corff sy'n berchen ar y safle, neu sy'n ei reoli, wedi cael hysbysiad rhesymol o'r bwriad i geisio mynediad.
(4) Ni chaiff neb a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw safle neu ran o safle a ddefnyddir yn llety preswyl i bersonau a gyflogir gan unrhyw berson neu gorff, heb yn gyntaf gael caniatâd y personau sy'n preswylio yn y llety hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) i fynd i mewn i safle perthnasol o dan y rheoliad hwn, arolygu a chymryd copïau o unrhyw ddogfennau —
(a)y mae'n ymddangos iddo fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw; a
(b)sy'n cael eu cadw ar y safle —
(i)gan y person neu'r corff sy'n berchen ar y safle neu yn ei reoli;
(ii)gan gadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai y person neu'r corff hwnnw;
(iii)gan unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y person neu'r corff hwnnw; neu
(iv)gan aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor unrhyw gorff sy'n gysylltiedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: