- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo ddangos unrhyw ddogfennau neu wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiwn, neu i'r person a awdurdodir, fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, roi i'r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, i'r person a awdurdodir, esboniad —
(a)am unrhyw faterion sydd yn destun yr adolygiad neu'r ymchwiliad; neu
(b)am unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy'n cael eu harolygu, eu copïo neu eu dangos o dan baragraff (1) neu reoliad 16(5).
(3) Caiff y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae'n ofynnol iddo—
(a)ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan baragraff (1); neu
(b)roi esboniad o dan baragraff (2),
fod yn bresennol yng ngŵydd y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) er mwyn dangos y dogfennau neu'r wybodaeth neu er mwyn rhoi'r esboniad.
(4) Ni chaiff y Comisiwn na pherson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn unol â pharagraff (3) heb roi i'r person hwnnw hysbysiad rhesymol o'r dyddiad y bwriedir gofyn iddo fod yn bresennol.
(5) Dyma'r person y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) a (2)—
(a)corff GIG;
(b)cadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai corff GIG, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran corff o'r fath;
(c)aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor corff GIG;
(ch)darparydd gwasanaeth;
(d)cyflogai darparydd gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran darparydd o'r fath;
(dd)person sy'n darparu neu sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu sy'n aelod neu'n gyflogai i berson neu gorff sy'n darparu neu sy'n helpu i ddarparu'r gwasanaethau hynny, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â chontract a wnaed â chorff GIG, darparydd gwasanaeth, neu berson y mae is-baragraff (e) yn gymwys iddo;
(e)awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau neu berson a gyflogir gan awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau o dan Ddeddf 1977, neu mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf 1997, yn unol â threfniadau a wnaed yn rhinwedd adran 31(1) o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: