- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “yr ail flwyddyn drosiannol” (“second transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2006;
ystyr “band prisio gwreiddiol” (“original valuation band”) yw'r band prisio sydd yn gymwys i annedd ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005;
ystyr “band prisio trosiannol” (“transitional valuation band”) yw band prisio sy'n gymwys i'r annedd yn ystod y cyfnod trosiannol yn unol â rheoliad 4;
ystyr “cyfnod trosiannol” (“transitional period”) yw'r cyfnod o 1 Ebrill 2005 hyd 31 Mawrth 2008;
ystyr “y drydedd flwyddyn drosiannol” (“third transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007;
ystyr “y flwyddyn drosiannol gyntaf” (“first transitional year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2005;
ystyr “nifer perthnasol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi” (“relevant number of valuation band increases”) yw nifer y bandiau prisio'n uwch na'r band prisio gwreiddiol y bydd annedd wedi codi yn y rhestr brisio sy'n gymwys i'r annedd honno ar neu ar gyfer 1 Ebrill 2005;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) 1992(1);
ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993(2).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) mae bandiau prisio trosiannol sy'n gymwys i annedd i'w dynodi'n unol â rheoliad 4 ar gyfer y cyfnod trosiannol.
(2) Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y mae band prisio trosiannol i'w ddynodi mewn perthynas ag annedd:
(a)rhaid i'r annedd fod yn annedd oedd ar restr brisio ar neu ar gyfer 31 Mawrth 2005; a
(b)rhaid i'r annedd fod wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy; ac
(c)bod y person sy'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd ar 31 Mawrth 2005 (neu, os oes mwy nag un person yn atebol, bod o leiaf un o'r personau hynny) hefyd yn atebol am dalu'r dreth gyngor ar yr annedd honno ar 1 Ebrill 2005 a'i fod yn atebol yn yr un modd ar ryw adeg neu adegau eraill yn ystod y cyfnod trosiannol.
(3) Nid yw band prisio trosiannol i fod yn gymwys i annedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fo'r annedd yn dod o fewn dosbarth o anheddau a ragnodwyd naill ai gan reoliad 4 (Dosbarth A) neu gan reoliad 5 (Dosbarth B) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998(3).
(4) Os yw'r band prisio sy'n gymwys i annedd yn codi, fel canlyniad i newid y rhestr brisio yn ystod y cyfnod trosiannol, i fand sydd ddau neu fwy yn uwch na'r band prisio gwreiddiol yna, yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid ymdrin â'r annedd fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau neu fwy.
(5) Os yw annedd i'w thrin o dan baragraff (4) fel pe bai wedi codi nifer perthnasol o fandiau prisio, sef dau fand prisio neu fwy, dim ond o'r dyddiad y newidir y rhestr brisio yn unol â Rheoliadau 1993 neu y tybir y'i newidir felly y mae unrhyw fand prisio trosiannol a ddynodir mewn cysylltiad â'r annedd i fod yn gymwys:
(a)yn y flwyddyn drosiannol gyntaf, yn unol â rheoliad 4(3);
(b)yn yr ail flwyddyn drosiannol, yn unol â rheoliad 4(4);
(c)yn y drydedd flwyddyn drosiannol, yn unol â rheoliad 4(5).
4.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3(5) a 6, mae'r band prisio trosiannol ar gyfer annedd yn ystod y cyfnod trosiannol i'w ddynodi'n unol â'r paragraffau canlynol ar gyfer pob un o flynyddoedd y cyfnod trosiannol neu ran o un o'r blynyddoedd hynny a dim ond mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn rheoliad 3(2)(c) y mae i'w ddynodi.
(2) At ddibenion y flwyddyn drosiannol gyntaf dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(a)drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a
(b)drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).
(3) At ddibenion yr ail flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(a)drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a
(b)drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).
(4) At ddibenion y drydedd flwyddyn drosiannol dynodir y band prisio trosiannol sy'n gymwys i'r annedd:
(a)drwy ostwng nifer perthnasol y bandiau y bydd annedd yn codi ac a welir yng ngholofn (1) o'r Tabl yn yr Atodlen, a hynny gan y nifer cyfatebol o fandiau prisio a welir yng ngholofn (2) o'r Tabl hwnnw; a
(b)drwy godi'r band prisio gwreiddiol, a hynny nifer gostyngol y bandiau prisio y bydd annedd yn codi fel a ddynodir yn unol ag is-baragraff (a).
5. Os yw band prisio trosiannol wedi'i ddynodi mewn cysylltiad ag annedd ar gyfer y cyfnod trosiannol neu unrhyw ran ohono, rhaid penderfynu ar atebolrwydd i dalu treth gyngor ar yr annedd honno a chyfrifo'r dreth gyngor fel pe bai cyfeiriadau yn Neddf 1992 at y band prisio a restrir ar gyfer yr annedd yn gyfeiriadau at y band prisio trosiannol y dynodir ei fod yn gymwys i'r annedd honno.
6. Mae paragraff (6)(a) o reoliad 4 (Cyfrifo'r swm sy'n daladwy) o Reoliadau 1992 i'w ddarllen fel pe bai'r cyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cyfeirio at reoliadau a wnaed o dan adran 13B hefyd(4).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: