Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3462 (Cy.307)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym

1 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(2) at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “a fewnforir” (“imported”) yw y deuir ag ef i Gymru o le arall heblaw rhan arall o Ynysoedd Prydain;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4);

ystyr “awdurdod bwyd perthnasol” (“relevant food authority”) yw'r awdurdod bwyd y mae amgylchiadau'n codi yn ei ardal sy'n arwain at rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn i dalu tâl i'r awdurdod hwnnw;

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;

mae i “cynhyrchion pysgodfeydd” yr ystyr a roddir i “fishery products” ym mhwynt 3.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol” (“relevant fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd—

(a)

a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;

(b)

a fewnforir gan lestr pysgota sy'n cyhwfan baner trydedd wlad;

(c)

nad ydynt wedi bod ar dir cyn cael eu mewnforio; ac

(ch)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;

ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a mewnforion trydydd gwledydd;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol” (“relevant landed fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd —

(a)

a gaiff eu glanio yng Nghymru;

(b)

nad ydynt wedi bod ar dir yn flaenorol; ac

(c)

a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl,

ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a mewnforion trydydd gwledydd;

mae'r ymadrodd “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “first sale in a fish market” yn Rheoliad 882/2004;

ystyr “gwerthwr” (“vendor”)

(a)

pan gaiff cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gan berson arall ar ran perchennog neu feistr llestr, yw'r person arall hwnnw; a

(b)

pan gaiff cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod mewn unrhyw amgylchiadau eraill, yw perchennog neu feistr y llestr sy'n eu glanio;

ystyr “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw mewnforyn y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 54 o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(5);

mae i “prosesu” yr ystyr a roddir i (“processing”) ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004;

ystyr “pysgod eigionol penodedig” (“specified pelagic fish”) yw —

(a)

penwaig neu ysagadan o'r rhywogaeth Clupea harengus;

(b)

penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus;

(c)

mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus;

(ch)

marchfecryll (Trachurus spp.);

(d)

brwyniaid (Engraulis spp.);

(dd)

picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris; ac

(e)

corbenwaig o'r rhywogaeth Sprattus sprattus;

mae'r term “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) i'w ddehongli'n unol â'r diffiniad o'r term “official control” ym mharagraff 1 o Erthygl 2 o Reoliad 882/2004;

mae i “rhoi gyntaf ar y farchnad” yr ystyr sydd i (“first placing on the market”) yn Rheoliad 882/2004;

mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i (“establishment”) ym mharagraff 1(c) o Erthygl 2 o Reoliad 852/2004;

ystyr “sefydliad prosesu” (“processing establishment”) yw sefydliad lle y mae prosesu'n mynd rhagddo; ac

ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) , yw unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw'n Wladwriaeth AEE gyfan neu'n rhan o Wladwriaeth AEE.

(2Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu neilltuo —

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(7), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

Gwir gostau

3.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol yw cyfanswm costau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 ac a dynnir yn uniongyrchol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro

4.—(1Bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros yn gyfeiriad at gyfwerth mewn punnoedd y nifer hwnnw wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Cyfrifir cyfwerth mewn punnoedd nifer penodedig o Ewros drwy luosi'r nifer hwnnw gan y gyfradd gyfnewid Ewro/punt a nodir ym mharagraff (3).

(3Y gyfradd gyfnewid Ewro/punt yw —

(a)ar gyfer 2008, 1 Ewro = £0.67575; a

(b)ym mhob blwyddyn ddilynol, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf mis Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd yn y gyfres ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir yn y gyfres ar ôl hynny.

Cyfnod Cyfrifydda

5.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, y cyfnod cyfrifydda yw un mis neu unrhyw gyfnod hwy nad yw'n fwy na deuddeng mis fel a benderfynir gan yr awdurdod bwyd perthnasol.

(2Rhaid penderfynu'r cyfnod cyfrifydda, gan anelu at ostwng costau'r canlynol i swm rhesymol, o'i gymharu â'r taliadau y disgwylir iddynt ddod yn ddyledus, sef —

(a)gwneud datganiadau niferoedd; a

(b)casglu taliadau.

Casglu taliadau

6.  Pan osodir dyletswydd i dalu tâl o dan y Rheoliadau hyn ar y naill neu'r llall o ddau berson caiff yr awdurdod y mae'r tâl yn daladwy iddo ei gasglu —

(a)oddi wrth y ddau ohonynt ar y cyd; neu

(b)oddi wrth y naill neu'r llall ohonynt ar wahân.

Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau

7.—(1Pan ddelo'n hysbys i'r awdurdod bwyd perthnasol bod taliad yn ddyledus iddo o dan y Rheoliadau hyn rhaid iddo —

(a)cyfrifo swm y taliad gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd ganddo yn ei feddiant; a

(b)rhoi hysbysiad o'r swm a gyfrifwyd felly i unrhyw berson y caniateir ei gasglu oddi wrtho.

(2Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ail-gyfrifo'r taliad ac —

(a)pan fo'r swm cywir yn fwy na'r swm a gyfrifwyd o dan baragraff (1), rhaid iddo gasglu'r swm uchaf yn unol â'r paragraff hwnnw;

(b)pan fo'r swm cywir yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw ac na fo'r swm hwnnw wedi'i gasglu, rhaid iddo gasglu'r swm lleiaf yn unol â'r paragraff hwnnw; ac

(c)pan na fo swm yn daladwy neu pan fo'r tâl taladwy yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw, a'r tâl hwnnw wedi'i gasglu, rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.

Apelau

8.—(1Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod bwyd perthnasol sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.

(2Gwrandewir yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran y cyfryw apêl fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.

(3Ar unrhyw apêl o'r fath caiff y llys —

(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod bwyd perthnasol;

(b)penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)penderfynu nad oes tâl yn daladwy.

(4Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn parhau'n daladwy, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad y gwnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sy'n hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(5Os bydd y llys yn penderfynu bod tâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r tâl sydd wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol dalu'r gordal yn ôl i'r apelydd llwyddiannus.

Taliadau sy'n daladwy i fwy nag un awdurdod bwyd

9.  Mewn unrhyw achos o ohirio arfer rheolaethau swyddogol a phan nad yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn (“awdurdod B”) yw'r awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 (“awdurdod A”), rhaid i awdurdod B anfon at awdurdod A swm hafal i unrhyw swm a ddaeth i law awdurdod B ac y gellir ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod A.

RHAN 2TALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AC EITHRIO TALIADAU AM FEWNFORION TRYDYDD GWLEDYDD

Talu tâl glanio o ran rhoi gyntaf ar y farchnad neu werthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol

10.—(1Mae pob un o'r canlynol yn drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11—

(a)rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol;

(b)rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol;

(c)gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol; ac

(ch)gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd yna drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11, rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraffau (3) i (7) (“y tâl glanio”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a roddwyd gyntaf ar y farchnad mewn mis calendr.

(4Os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn marchnad bysgod mewn mis calendr.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth after y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 0.5 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.25 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os—

(a)gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano ; a

(b)nad yw'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu faint yn unol â Rheoliad 2406/96 neu os nad ydynt yn cael eu graddio'n ddigonol felly,

cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.

(7O ran unrhyw lwyth o bysgod eigionol penodedig sy'n gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol, rhaid i'r tâl glanio beidio â bod yn fwy na 50 Ewro.

(8Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl glanio, rhaid i'r gwerthwr dalu swm hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl glanio.

Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â chynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol

11.—(1Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r gwerthwr roi datganiad niferoedd ysgrifenedig i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio'n daladwy iddo o ran cyfanswm y trafodion y codir tâl amdanynt ac y mae'r gwerthwr wedi ymwneud â hwy yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Rhaid i'r datganiad niferoedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelo'r datganiad â hwy eu glanio;

(c)y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion hynny eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod, yn ôl y digwydd; ac

(ch)ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac eithrio pysgod eigionol penodedig —

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono,

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw; a

(iii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n llai na'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);

(d)ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac sy'n bysgod eigionol penodedig —

(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono, a

(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;

(dd)hysbysiad o unrhyw swm a dalwyd yn rhinwedd paragraff (4) o reoliad 10 ac a dalwyd mewn cysylltiad —

(i)â llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, neu

(ii)â llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,

gan nodi'r amgylchiadau a arweiniodd at dalu'r swm hwnnw;

(e)mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol —

(i)cyfanswm pwysau'r holl gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a gaiff eu glanio, a

(ii)cyfanswm swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 o ran y cynhyrchion hynny; ac

(f)swm y tâl glanio.

(3Yn ystod y cyfnod o 1 flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —

(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob trafodyn a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol i alluogi'r gwerthwr i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.

(4Bydd unrhyw werthwr a fydd heb esgus rhesymol —

(a)yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu

(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff 3(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tâl o ran sefydliadau prosesu

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berchennog neu weithredydd sefydliad prosesu dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraff (2) (“y tâl sefydliad prosesu”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.

(2Cyfraniad o 0.5 Ewro y dunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i sefydliad at ddiben prosesu fydd y tâl sefydliad prosesu a hwnnw'n gyfraniad at y costau a dynnir gan yr awdurdod bwyd perthnasol pan fydd yn arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.

(3Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl sefydliad prosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd dalu swm sy'n hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl sefydliad prosesu.

Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â sefydliadau prosesu

13.—(1Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl sefydliad prosesu wneud datganiad niferoedd ysgrifenedig o ran y tâl hwnnw a'i roi i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl hwnnw'n daladwy iddo o ran y cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi dod i'r sefydliad dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2Rhaid i ddatganiad niferoedd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —

(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;

(b)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad; ac

(c)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 12.

(3Yn ystod y cyfnod o un flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —

(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad niferoedd iddo ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a

(b)rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w alluogi i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.

(4Bydd unrhyw berchennog neu weithredydd sydd heb esgus rhesymol —

(a)yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu

(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3)(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

14.  Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006(8).

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

5 Rhagfyr 2007

Rheoliad 2

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynghylch hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl, ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(9);

ystyr “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy'n gosod safonau marchnata cyffredinol ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol(10);

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(11) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(12) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl(13) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a arferir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio(14) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(15);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(16);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(17);

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(18); ac

ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(19).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3344 (Cy.305)).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a arferir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1, y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29) yn cael ei wirio, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n ei gwneud yn ofynnol casglu ffioedd sy'n cynnwys costau arfer rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion pysgodfeydd o dan Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83, y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn dweud beth yw gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 3);

(b)yn darparu'r cyfraddau ar gyfer cyfrifo beth yw cyfwerth mewn punnoedd unrhyw symiau a bennir mewn Ewros yn y Rheoliadau (rheoliad 4);

(c)yn rhagnodi sut y mae hyd “cyfnod cyfrifydda” i'w benderfynu at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5);

(ch)yn darparu, pan osodir dyletswydd ar fwy nag un person i dalu taliadau o dan y Rheoliadau, y caniateir ei gorfodi ar y cyfryw bersonau ar y cyd neu ar wahân (rheoliad 6);

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau y mae taliadau'n daladwy iddynt o dan y Rheoliadau gyfrifo'r taliadau, eu hailgyfrifo os gwneir camgymeriad a hysbysu'r rhai sy'n atebol am dalu beth yw'r symiau dyledus (rheoliad 7);

(dd)yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau awdurdodau sy'n gosod taliadau o dan y Rheoliadau ac yn pennu gofynion ynghylch cynnal y cyfryw apelau a'u penderfynu (rheoliad 8);

(e)yn darparu ar gyfer talu taliadau gan un awdurdod bwyd i un arall pan fo taliadau'n daladwy i fwy nag un awdurdod (diffinnir y term “awdurdod bwyd” yn rheoliad 2) (rheoliad 9);

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i swm penodedig gael ei dalu i'r awdurdod bwyd perthnasol gan werthwyr cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol mewn perthynas â rhoi gyntaf ar y farchnad y cyfryw gynhyrchion neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod (diffinnir y termau “awdurdod bwyd perthnasol”, “gwerthwr”, “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol”, “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol”, “rhoi gyntaf ar y farchnad” a “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod” yn rheoliad 2) (rheoliad 10);

(ff)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwyr hynny roi i'r awdurdod bwyd perthnasol ddatganiadau niferoedd o ran cyfanswm y trafodion y mae taliadau'n daladwy arnynt ganddynt o dan reoliad 10, yn pennu'r wybodaeth i'w chynnwys yn y cyfryw ddatganiadau, yn caniatáu i'r awdurdod bwyd perthnasol ei gwneud yn ofynnol i werthwyr cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol roi gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r cyfryw drafodion, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w galluogi i roi'r gyfryw wybodaeth ac yn ei gwneud yn dramgwydd diannod i fethu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath (rheoliad 11);

(g)yn ei gwneud yn ofynnol i swm penodedig gael ei dalu i'r awdurdod bwyd perthnasol gan berchenogion neu weithredwyr sefydliadau prosesu mewn perthynas â chynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad dan sylw (diffinnir y termau “prosesu” a “sefydliad prosesu” yn rheoliad 2) (rheoliad 12); ac

(ng)yn ei gwneud yn ofynnol i berchenogion a gweithredwyr sefydliadau prosesu roi i'r awdurdod bwyd perthnasol ddatganiadau niferoedd o ran cynhyrchion pysgodfeydd y mae taliadau'n daladwy arnynt o dan reoliad 12, yn pennu'r wybodaeth i'w chynnwys yn y cyfryw ddatganiadau, yn caniatáu i'r awdurdod bwyd perthnasol ei gwneud yn ofynnol i'r perchenogion a'r gweithredwyr hynny roi gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â chynhyrchion o'r fath, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w galluogi i roi gwybodaeth o'r fath ac yn ei gwneud yn dramgwydd diannod i fethu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath (rheoliad 13).

4.  Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

O.S.2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ( p. 28).

(6)

1984 p.22; amnewidwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ( p.16).

(7)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(9)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Ceir testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(10)

OJ Rhif L334, 23.12.1996, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 790/2005 sy'n diwygio Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol (OJ Rhif L132, 26.5.2005, t.15).

(11)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.26).

(12)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8).

(13)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) y dylid ei ddarllen gyda Choridendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd symud rhydd ar nwyddau, rhyddid i bobl symud, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethi, ystadegau, ynni, yr amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, cysylltiadau allanol, polisïau tramor a diogelwch cyffredin a sefydliadau, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1).

(14)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Ceir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.29). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006.

(15)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(16)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62.

(17)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n gosod rheolau penodol ar rheolaethau swyddogol ar gyfer arolygu cig (OJ Rhif L281 25.10.2007, t.12).

(18)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran defnyddio pepsin hylif i ganfod Trichinella mewn cig (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.19).

(19)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007, sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran estyniad y cyfnod trosiannol a roddir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl (OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources