- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl sefydliad prosesu wneud datganiad niferoedd ysgrifenedig o ran y tâl hwnnw a'i roi i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl hwnnw'n daladwy iddo o ran y cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi dod i'r sefydliad dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid i ddatganiad niferoedd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —
(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad; ac
(c)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 12.
(3) Yn ystod y cyfnod o un flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —
(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad niferoedd iddo ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a
(b)rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w alluogi i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.
(4) Bydd unrhyw berchennog neu weithredydd sydd heb esgus rhesymol —
(a)yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu
(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3)(a),
yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: