- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
17 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32(3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
2. Daw adran 18(5) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 i rym ar 23 Rhagfyr 2007.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007(1) ac fe ddaw ag adran 18(5) o'r Ddeddf honno i rym ar 23 Rhagfyr 2007. Mae adran 18(5) yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru lunio datganiad polisi am arferiad eu pwerau o dan adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2) (“Deddf 1992”), adolygu'r datganiad hwnnw yn rheolaidd ac, os ydynt yn barnu bod hynny'n briodol, ddiwygio'r datganiad hwnnw. Mae adran 18(5) yn darparu hefyd bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu ddiwygio'r datganiad hwnnw, ymgynghori fel y maent yn barnu ei bod yn briodol ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir iddynt am y polisi sydd i'w nodi yn y datganiad. Ar ben hynny, rhaid i Weinidogion Cymru osod y datganiad (neu'r datganiad diwygiedig) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyhoeddi'r datganiad (neu'r datganiad diwygiedig) a rhoi sylw i'r datganiad a gyhoeddwyd ddiweddaraf wrth arfer (neu benderfynu ar arfer) unrhyw un o'u pwerau o dan adran 57 o Ddeddf 1992 mewn perthynas â sefydliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: