Search Legislation

Rheoliadau Trefniadau Cydlafurio (Ysgolion a Gynhelir a Chyrff Addysg Bellach) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3082 (Cy.271)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Trefniadau Cydlafurio (Ysgolion a Gynhelir a Chyrff Addysg Bellach) (Cymru) 2008

Gwnaed

28 Tachwedd 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 166 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Cydlafurio (Ysgolion a Gynhelir a Chyrff Addysg Bellach) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod nad yw'n llywodraethwr” (“non governor member”) yw person a benodwyd gan gydbwyllgor i fod yn aelod ohono ond nad yw'n aelod o gorff llywodraethu sy'n cydlafurio;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006;

ystyr “offeryn ac erthyglau” (“instrument and articles”) mewn perthynas â chorff addysg bellach, yw'r offeryn ac erthyglau llywodraethu sydd mewn grym o dan adran 22 neu 29 o Ddeddf 1992, yn ôl y digwydd;

ystyr “y penadur” (“the principal”) yw penadur sefydliad neu unrhyw berson sy'n gweithredu fel penadur;

ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(3);

ystyr “y Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir” (“the Staffing of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(4); ac

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw sefydliad y mae'r corff addysg bellach wedi'i sefydlu i'w redeg drwy arfer ei bwerau o dan Ddeddf 1992.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

Dull cydlafurio rhwng ysgolion a chyrff addysg bellach

3.—(1Caiff corff llywodraethu, p'un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â chyrff llywodraethu eraill, wneud trefniadau cydlafurio gydag un neu fwy o gyrff addysg bellach, yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 52 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir.

(2Caiff corff addysg bellach, p'un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â chyrff addysg bellach eraill, wneud trefniadau cydlafurio gydag un neu fwy o gyrff llywodraethu, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eu hofferyn ac erthyglau.

(3Caiff corff addysg bellach wneud trefniadau cydlafurio gydag un neu fwy o gyrff addysg bellach, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eu hofferyn ac erthyglau.

(4Pan fo corff llywodraethu'n gwneud trefniadau cydlafurio'n unol â pharagraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw un o'u swyddogaethau sy'n ymwneud ag aelodau unigol o staff yr ysgol, bydd y Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir yn gymwys i'r broses o gyflawni'r swyddogaethau hynny.

(5Pan fo corff addysg bellach yn gwneud trefniadau cydlafurio'n unol â pharagraffau (2) neu (3) mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau sy'n ymwneud ag aelodau unigol o staff y sefydliad, bydd darpariaethau perthnasol yr offeryn ac erthyglau'n gymwys i waith cyflawni'r swyddogaethau hynny.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo cyrff sy'n cydlafurio yn gwneud trefniadau'n unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), cânt ddirprwyo hefyd y gwaith o gyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau i gydbwyllgor a sefydlir ganddynt.

(7Pan fo'r corff sy'n cydlafurio—

(a)yn gorff llywodraethu, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gydbwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo o dan reoliad 50 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir;

(b)yn gorff addysg bellach, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gydbwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan ddarpariaethau perthnasol ei offeryn ac erthyglau.

(8At ddibenion y Rheoliadau hyn, yn rheoliadau 50 i 52 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir—

(a)ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw cydbwyllgor a sefydlwyd yn unol â pharagraff (6);

(b)ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw aelod o unrhyw un o'r cyrff llywodraethu sy'n cydlafurio; ac

(c)ystyr “pennaeth” (“head teacher”) yw pennaeth unrhyw un o'r ysgolion.

Sefydlu cydbwyllgorau

4.—(1Rhaid i'r cyrff sy'n cydlafurio benderfynu, ac adolygu'n flynyddol, y cyfansoddiad, y cylch gorchwyl ac (yn ddarostyngedig i reoliad 6) aelodaeth unrhyw gydbwyllgor y maent yn penderfynu ei sefydlu.

(2Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r cydbwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi'i dalgrynnu i fyny i rif llawn) aelodaeth y cydbwyllgor heb gynnwys unrhyw swyddi gwag ac unrhyw aelodau a gafodd eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 7.

(3Rhaid i gydbwyllgor benodi cadeirydd bob blwyddyn a chaniateir symud ei gadeirydd o'i swydd ar unrhyw adeg.

(4Rhaid i gydbwyllgor ethol aelod o'r cydbwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).

(5Ni chaiff neb sy'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysgol neu'r corff addysg bellach, nac unrhyw un o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol neu'r corff addysg bellach weithredu fel cadeirydd cydbwyllgor.

(6Caniateir i aelodaeth cydbwyllgor gynnwys aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr ac mae i ba raddau y mae gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio yn fater i'w benderfynu gan y cydbwyllgor.

(7Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw gydbwyllgor fod yn llywodraethwyr.

Clercod y cydbwyllgorau

5.—(1Rhaid i gydbwyllgor benodi clerc (a rhaid iddo beidio â bod yn bennaeth nac yn benadur) a chaniateir iddo symud y clerc o'i swydd ar unrhyw adeg.

(2Caiff cydbwyllgor, os bydd y clerc yn methu â bod yn bresennol yn un o'i gyfarfodydd, benodi unrhyw un o'i aelodau (nad yw'n bennaeth nac yn benadur) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(3Rhaid i'r clerc—

(a)cynnull cyfarfodydd y cydbwyllgor;

(b)mynychu cyfarfodydd y cydbwyllgor a sicrhau bod cofnodion o'r trafodion yn cael eu llunio; ac

(c)cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a benderfynir gan y cydbwyllgor.

Aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr

6.—(1Bydd aelod nad yw'n llywodraethwr yn parhau yn ei swydd hyd nes iddo gael ei symud ohoni yn unol â rheoliad 4(1) neu 6(7).

(2Mae unrhyw berson, sydd wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir a pharagraffau 2 i 12 o Atodlen 5 iddynt, wedi ei anghymhwyso yn yr un modd rhag dal, neu barhau i ddal, swydd fel aelod nad yw'n llywodraethwr o gydbwyllgor.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), rhaid i'r cyrff llywodraethu sy'n cydlafurio benderfynu hawliau pleidleisio aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr.

(4Rhaid i aelod nad yw'n llywodraethwr beidio â phleidleisio ar unrhyw benderfyniad ynghylch y canlynol—

(a)disgybl unigol (nad yw'n dod o dan is-baragraffau (5)(a) neu (5)(b)) neu aelod staff os cafodd yr aelod nad yw'n llywodraethwr ei wahardd o dan reoliad 7(2) o'r rhan honno o'r cyfarfod y cafodd y mater ei ystyried ynddi;

(b)cyllideb ac ymrwymiadau ariannol corff llywodraethu sy'n cydlafurio;

(c)disgyblu staff;

(ch)diswyddo staff; neu

(d)apelau o ganlyniad i unrhyw fater ynghylch disgyblu staff neu ddiswyddo staff.

(5Ni chaiff aelod nad yw'n llywodraethwr fod yn aelod o unrhyw gydbwyllgor sydd i ystyried unrhyw benderfyniad ynghylch y canlynol—

(a)derbyniadau; neu

(b)disgyblu disgyblion.

(6Rhaid i aelod nad yw'n llywodraethwr beidio â phleidleisio ar unrhyw fusnes arall a drafodir gan gydbwyllgor oni bai ei fod yn 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei benodi.

(7Caniateir i gydbwyllgor symud aelod nad yw'n llywodraethwr o'i swydd ar unrhyw adeg.

Hawl personau i fynychu cyfarfodydd cydbwyllgorau

7.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 9 ac i'r Atodlen mae gan y personau canlynol hawl i fynychu unrhyw gyfarfod cydbwyllgor—

(a)unrhyw aelod sy'n un o lywodraethwyr y cydbwyllgor, ar yr amod nad yw'n aelod o gorff llywodraethu a gafodd ei atal yn unol â rheoliad 49 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir;

(b)pennaeth corff sy'n cydlafurio, p'un a yw'n aelod o'r cydbwyllgor neu beidio;

(c)penadur corff sy'n cydlafurio, p'un a yw'n aelod o'r cydbwyllgor neu beidio;

(ch)clerc y cydbwyllgor; a

(d)unrhyw bersonau eraill y bydd y cydbwyllgor yn penderfynu rhoi hawl iddynt.

(2Caniateir i gydbwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod pan fo'r busnes sydd o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff, neu ddisgybl unigol neu fyfyriwr unigol.

(3Nid yw paragraff 1(b) nac 1(c) yn gymwys o ran y pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir nac o ran unrhyw gydbwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan reoliadau 9 i 34 o'r Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir.

Trafodion cydbwyllgorau

8.—(1Rhaid i'r clerc gynnull cyfarfodydd y cydbwyllgor, a phan fydd yn arfer y swyddogaeth hon, rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y canlynol—

(a)y cydbwyllgor;

(b)cadeirydd y cydbwyllgor, i'r graddau nad yw'r cyfarwyddyd hwnnw'n anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan is-baragraff (a).

(2Pan na fo clerc wedi'i benodi, rhaid i'r cyfarfodydd gael eu cynnull gan y cadeirydd y mae'n rhaid iddo, pan fo'n arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y cydbwyllgor.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraff (1), o leiaf bum niwrnod clir ymlaen llaw rhaid i'r clerc roi i bob aelod o'r cydbwyllgor, i'r awdurdod addysg lleol ac i benaethiaid a phenaduriaid y cyrff sy'n cydlafurio (p'un a ydynt yn aelodau o'r cydbwyllgor ai peidio)—

(a)hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod;

(b)copi o'r agenda ar gyfer y cyfarfod; ac

(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau arall sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;

ond pan fo cadeirydd y cydbwyllgor yn penderfynu ar y sail bod materion y mae gofyn eu hystyried ar fyrder, bydd yn ddigonol os bydd yr hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod yn datgan y ffaith honno a bod yr hysbysiad, yr agenda a'r adroddiadau neu'r papurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod yn cael eu rhoi o fewn unrhyw gyfnod byrrach y bydd yn cyfarwyddo bod rhaid eu rhoi ynddo (yn ôl y digwydd).

(4Nid yw trafodion cydbwyllgor yn cael eu hannilysu gan y canlynol—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodau'r cydbwyllgor; neu

(b)unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod o'r cydbwyllgor.

(5Ni chaniateir pleidleisio ar unrhyw fater mewn cyfarfod cydbwyllgor onid yw'r mwyafrif o aelodau'r cydbwyllgor sy'n bresennol yn aelodau o gorff sy'n cydlafurio.

(6Mae pob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn un o gyfarfodydd y cydbwyllgor i'w benderfynu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau'r cydbwyllgor sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.

(7Pan fo pleidleisiau'n rhannu'n gyfartal mae gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y person hwnnw yn aelod o gorff sy'n cydlafurio.

Cyfyngiadau ar bersonau i gymryd rhan mewn trafodion

9.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn yr Atodlen ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw aelod o'r cydbwyllgor, pennaeth neu benadur corff sy'n cydlafurio (yn y naill achos a'r llall, p'un a yw'n aelod o'r cydbwyllgor ai peidio) neu glerc y cydbwyllgor.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)pan fo'n bosibl, ynghylch unrhyw fater, bod gwrthdaro rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau corff sy'n cydlafurio;

(b)pan fo'n ofynnol cael gwrandawiad teg a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd ynghylch unrhyw fater; neu

(c)pan fo gan berson perthnasol fuddiant ariannol yn unrhyw fater;

rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r cydbwyllgor lle mae'r mater yn bwnc sy'n cael ei ystyried, ddatgelu ei fuddiant, ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater o dan sylw.

(3Rhaid peidio â dehongli unrhyw beth yn y rheoliad hwn neu yn yr Atodlen mewn modd a fyddai'n atal—

(a)y cydbwyllgor rhag—

(i)caniatáu i berson y mae'n ymddangos iddo ei fod yn gallu rhoi tystiolaeth i fynychu unrhyw wrandawiad a gynhelir gan y cydbwyllgor i ymchwilio i unrhyw fater a chyflwyno'i dystiolaeth; neu

(ii)gwrando ar sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth nad yw'n swyddogaeth person perthnasol;

(b)person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â chorff sy'n cydlafurio a hwnnw'n gontract y mae ganddo hawl i gael elw ohono.

(4Nid yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn na'r Atodlen i berson sy'n gweithredu fel clerc cyfarfod cydbwyllgor ymneilltuo o gyfarfod onid yw ei benodiad i swydd, ei dâl, neu gamau disgyblu yn ei erbyn yn bwnc sy'n cael ei ystyried, ond os byddai'r rheoliad hwn neu'r Atodlen wedi'i gwneud yn ofynnol mewn modd ar wahân i hynny iddo ymneilltuo, rhaid iddo beidio â gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth nad yw'n swyddogaeth clerc.

(5Pan fo unrhyw anghydfod ynghylch a yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn i berson perthnasol ymneilltuo o gyfarfod cydbwyllgor a pheidio â phleidleisio, rhaid i'r cwestiwn hwnnw gael ei benderfynu gan yr aelodau eraill o'r cydbwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(6Mae'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer buddiannau ariannol a buddiannau penodedig eraill sy'n gwrthdaro.

Cofnodion

10.—(1Rhaid i'r clerc neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod cydbwyllgor; a rhaid iddynt gael eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y cydbwyllgor) gan gadeirydd cyfarfod nesaf y cydbwyllgor.

(2Rhaid i'r cydbwyllgor roi i'w awdurdod addysg lleol gopi o'r cofnodion drafft, neu'r cofnodion a lofnodwyd, o unrhyw un o'i gyfarfodydd pan ofynnir amdanynt gan yr awdurdod addysg lleol hwnnw.

(3Rhaid gwneud cofnodion o'r trafodion mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a chaniateir eu gwneud ar dudalennau rhydd sydd wedi'u rhifo'n olynol ond yn yr achos hwnnw rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion lofnodi pob tudalen â llythrennau cyntaf ei enw.

(4Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y cydbwyllgor at ddibenion unrhyw gyfarfod gofnodi yn union o flaen y cofnod sy'n rhoi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau aelodau'r cydbwyllgor ac enw unrhyw berson arall sy'n bresennol yn y cyfarfod o dan sylw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r cydbwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod y canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r ysgolion a'r cyrff addysg bellach sy'n cydlafurio gan unrhyw berson sydd â diddordeb, a rhoi i'r cyrff llywodraethu sy'n cydlafurio—

(a)copi o'r agenda ar gyfer pob cyfarfod;

(b)copi o gofnodion llofnodedig o bob cyfarfod o'r fath;

(c)copi o unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath;

(ch)copi o gofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os ydynt wedi'u cymeradwyo gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw; ac

(d)copi o'r agenda a'r cofnodion a lofnodwyd ar gyfer pob cyfarfod a chopi o unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd yn y cyfarfod.

(6Caiff y cydbwyllgor hepgor o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (5) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir iddo weithio, mewn ysgol neu i gorff addysg bellach;

(b)disgybl a enwir mewn ysgol neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i ysgol neu gan gorff addysg bellach;

(c)unrhyw fater arall sydd, oherwydd ei natur, yn fater y mae'r cydbwyllgor wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.

(7Rhaid i bob tudalen o gopïau cyhoeddedig o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd ddangos mai cofnodion drafft ydynt.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Tachwedd 2008

(Rheoliad 9)

YR ATODLENBuddiannau ariannol a buddiannau penodedig eraill sy'n gwrthdaro

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 9, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff sy'n cydlafurio gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir ei wneud gydag ef;

(b)lle y mae person perthnasol yn bartner i berson, neu yng nghyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir ei wneud gydag ef; neu

(c)lle y mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys priod neu bartner sifil y person hwnnw o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004(5) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), yn meddu, neu lle y byddai'n cael ei drin fel un sy'n meddu, ar fuddiant o'r fath, a bod hynny'n hysbys i'r person perthnasol hwnnw.

(2At ddibenion rheoliad 9, rhaid peidio â thrin person perthnasol fel un sy'n meddu ar fuddiant ariannol yn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu talu i weithio i'r corff sy'n cydlafurio;

(b)dim ond oherwydd bod y person hwnnw wedi'i enwebu neu wedi'i benodi i swydd, gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o, neu'n cael ei gyflogi gan, unrhyw gorff o'r fath; neu

(c)dim ond oherwydd bod y person hwnnw yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person unrhyw fuddiant ariannol o bwys mewn unrhyw warantau'r gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.

(3Nid oes rhwystr i aelodau o'r cydbwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion i un neu fwy o'r cyrff sy'n cydlafurio i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu ei aelodau neu haelodau rhag atebolrwyddau a berir ganddynt ac a fyddai'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff sy'n cydlafurio, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.

Penodiad fel aelod o'r cydbwyllgor, cadeirydd neu glerc

2.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cydbwyllgor lle mae un o'r canlynol yn bwnc sy'n cael ei ystyried—

(a)penodiad y person ei hun, ei ailbenodi, neu ei symud o'i swydd fel aelod o'r cydbwyllgor; neu

(b)penodiad y person ei hun neu ei symud o'i swydd fel clerc, neu gadeirydd, y cydbwyllgor; neu

(c)os yw'r person yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir o ran y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwyr-lywodraethwyr.

(2Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff sy'n cydlafurio.

Talu neu arfarnu personau sy'n gweithio i un o'r cyrff sy'n cydlafurio

3.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, sy'n cael ei dalu i weithio i gorff sy'n cydlafurio ac eithrio fel pennaeth neu benadur, yn bresennol mewn cyfarfod cydbwyllgor lle mae cyflog neu arfarniad o berfformiad unrhyw berson penodol sy'n cael ei gyflogi i weithio i gorff sy'n cydlafurio yn bwnc sy'n cael ei ystyried.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth neu benadur corff sy'n cydlafurio yn bresennol mewn cyfarfod cydbwyllgor lle mae ei gyflog ei hun neu arfarniad o'i berfformiad ei hun yn bwnc sy'n cael ei drafod.

(3Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff sy'n cydlafurio.

Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu sy'n cydlafurio

4.  Nid yw'r ffaith bod person yn aelod o gydbwyllgor corff llywodraethu sy'n cydlafurio mewn mwy nag un ysgol neu gorff addysg bellach o dan unrhyw amgylchiadau i'w hystyried yn fuddiant sy'n gwrthdaro at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff addysg bellach i ffurfio trefniadau cydweithio ac, os dymunant, i ddirprwyo gwaith arfer eu swyddogaethau i un neu fwy o gydbwyllgorau.

Mae rheoliad 1 yn darparu y daw'r Rheoliadau i rym ar 31 Rhagfyr 2008. Yn rheoliad 2 ceir y darpariaethau dehongli.

Mae rheoliad 3 yn galluogi un neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion i drefnu gydag un neu fwy o gyrff addysg bellach i'w swyddogaethau gael eu cyflawni ar y cyd ac i'r gwrthwyneb, ac i ddau gorff addysg bellach neu fwy drefnu bod unrhyw un o'u swyddogaethau yn cael ei chyflawni ar y cyd; mae hefyd yn galluogi'r cyfryw “gyrff sy'n cydlafurio” i ddirprwyo gwaith arfer y swyddogaethau hynny i gydbwyllgor, i'r graddau y byddai'r dirprwyo hwnnw'n cael ei ganiatáu o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 a darpariaethau perthnasol offeryn ac erthyglau'r sefydliad addysg bellach.

Mae rheoliadau 4 i 10 yn ymdrin â sefydlu cydbwyllgorau, ac aelodaeth a thrafodion y cydbwyllgorau hynny. Mae rheoliad 4 yn darparu bod y cyrff sy'n cydlafurio yn sefydlu cydbwyllgor, gan gynnwys penderfynu ei gyfansoddiad, ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl y mae'n rhaid eu hadolygu bob blwyddyn. Mae'r cworwm yn penodi ei gadeirydd ei hun (y gellir ei symud o'i swydd ar unrhyw adeg) a chaiff benodi aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr ac y penderfynir eu hawliau pleidleisio gan y cyrff sy'n cydlafurio.

Rhaid i'r cydbwyllgor benodi clerc i gynnull ei gyfarfodydd a sicrhau bod cofnodion o'i drafodion yn cael eu llunio (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff cydbwyllgor benodi “aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr”, nad ydynt yn aelodau o'r cyrff sy'n cydlafurio ac y caniateir i'r cyrff sy'n cydlafurio roi hawliau pleidleisio iddynt (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol). Rhaid i aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr beidio â chael eu hanghymhwyso rhag bod yn llywodraethwyr o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 na rhag bod yn aelodau o gyrff addysg bellach o dan yr offeryn ac erthyglau perthnasol. O dan reoliad 7, mae gan gydbwyllgorau bwer i benderfynu pwy a gaiff fynychu eu cyfarfodydd. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cynnull cyfarfodydd a phleidleisio.

Mae rheoliad 9 a'r Atodlen yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau a'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i aelodau o gydbwyllgor ac eraill sydd â hawl fel arall i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o'r cydbwyllgor ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Mae'n egwyddor gyffredinol, pan fo gwrthdaro rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r cyrff sy'n cydlafurio, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn ei gwneud yn ofynnol bod gwrandawiad teg yn cael ei gynnal a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person i weithredu'n ddiduedd, y dylai ymneilltuo o'r cyfarfod hwnnw a pheidio â phleidleisio.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â llunio cofnodion cyfarfodydd cydbwyllgor a chyhoeddi'r cofnodion.

(1)

2006 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adran hon i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2005/2914 (Cy.211), fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006/873 (Cy.81), Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005/3200 (Cy.236) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007/944 (Cy.80).

(4)

O.S. 2006/873 (Cy.81), fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007/944 (Cy.80).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources