- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Rhaid i'r clerc neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod cydbwyllgor; a rhaid iddynt gael eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y cydbwyllgor) gan gadeirydd cyfarfod nesaf y cydbwyllgor.
(2) Rhaid i'r cydbwyllgor roi i'w awdurdod addysg lleol gopi o'r cofnodion drafft, neu'r cofnodion a lofnodwyd, o unrhyw un o'i gyfarfodydd pan ofynnir amdanynt gan yr awdurdod addysg lleol hwnnw.
(3) Rhaid gwneud cofnodion o'r trafodion mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a chaniateir eu gwneud ar dudalennau rhydd sydd wedi'u rhifo'n olynol ond yn yr achos hwnnw rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion lofnodi pob tudalen â llythrennau cyntaf ei enw.
(4) Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y cydbwyllgor at ddibenion unrhyw gyfarfod gofnodi yn union o flaen y cofnod sy'n rhoi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau aelodau'r cydbwyllgor ac enw unrhyw berson arall sy'n bresennol yn y cyfarfod o dan sylw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r cydbwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod y canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r ysgolion a'r cyrff addysg bellach sy'n cydlafurio gan unrhyw berson sydd â diddordeb, a rhoi i'r cyrff llywodraethu sy'n cydlafurio—
(a)copi o'r agenda ar gyfer pob cyfarfod;
(b)copi o gofnodion llofnodedig o bob cyfarfod o'r fath;
(c)copi o unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath;
(ch)copi o gofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os ydynt wedi'u cymeradwyo gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw; ac
(d)copi o'r agenda a'r cofnodion a lofnodwyd ar gyfer pob cyfarfod a chopi o unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd yn y cyfarfod.
(6) Caiff y cydbwyllgor hepgor o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (5) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—
(a)person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir iddo weithio, mewn ysgol neu i gorff addysg bellach;
(b)disgybl a enwir mewn ysgol neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i ysgol neu gan gorff addysg bellach;
(c)unrhyw fater arall sydd, oherwydd ei natur, yn fater y mae'r cydbwyllgor wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.
(7) Rhaid i bob tudalen o gopïau cyhoeddedig o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd ddangos mai cofnodion drafft ydynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: