- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) At ddibenion rheoliad 9, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(a)lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff sy'n cydlafurio gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir ei wneud gydag ef;
(b)lle y mae person perthnasol yn bartner i berson, neu yng nghyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir ei wneud gydag ef; neu
(c)lle y mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys priod neu bartner sifil y person hwnnw o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004(1) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), yn meddu, neu lle y byddai'n cael ei drin fel un sy'n meddu, ar fuddiant o'r fath, a bod hynny'n hysbys i'r person perthnasol hwnnw.
(2) At ddibenion rheoliad 9, rhaid peidio â thrin person perthnasol fel un sy'n meddu ar fuddiant ariannol yn unrhyw fater—
(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu talu i weithio i'r corff sy'n cydlafurio;
(b)dim ond oherwydd bod y person hwnnw wedi'i enwebu neu wedi'i benodi i swydd, gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o, neu'n cael ei gyflogi gan, unrhyw gorff o'r fath; neu
(c)dim ond oherwydd bod y person hwnnw yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person unrhyw fuddiant ariannol o bwys mewn unrhyw warantau'r gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.
(3) Nid oes rhwystr i aelodau o'r cydbwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion i un neu fwy o'r cyrff sy'n cydlafurio i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu ei aelodau neu haelodau rhag atebolrwyddau a berir ganddynt ac a fyddai'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff sy'n cydlafurio, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: