Search Legislation

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3094 (Cy.273)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

2 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Hydref 2008

Yn dod i rym

3 Rhagfyr 2008

Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau hynny.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 5(5) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y'u gwneir.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

2.  Diwygir Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007(2) fel a ganlyn.

Rheoliad 3

3.  Yn rheoliad 3 (eithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfio), yn lle is-baragraffau (c) ac (ch) rhodder—

(c)mewn amgylchiadau hylan;

(ch)yn unol ag arferion da; ac

(d)yn unol â rheoliad 5, pan fo'n gymwys.

Rheoliad 4

4.  Yn rheoliad 4(1) (cyflawni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwng) hepgorer y geiriau “a warchodir”.

Rheoliad 5

5.  Yn lle rheoliad 5 (personau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateir) rhodder—

5.(1) Ac eithrio'r triniaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), ni cheir rhoi unrhyw driniaeth, a ganiateir o dan reoliad 3 ac y mae Deddf Milfeddygon 1966(3) neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 1962(4) yn gymwys iddi, ac eithrio gan berson y caniateir iddo ei rhoi o dan y ddeddfwriaeth honno.

(2) Caniateir tocio cynffonau neu ysbaddu moch naill ai gan filfeddygon yn unig neu, pan nad yw'r anifeiliaid yn hyn na 7 diwrnod oed, gan berson sy'n brofiadol yn y technegau cysylltiedig a naill ai'n berson sy'n gyfrifol am yr anifail neu'n berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen gan berson o'r fath i drin yr anifail..

Atodlen 1

6.—(1Mae'r diwygiadau i Atodlen 1 (triniaethau a ganiateir) fel a ganlyn.

(2Yn yr adran ar adar, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau Adnabod” rhodder—

  • Microsglodynnu.

  • Tagio gyddfau.

  • Bylchu gweoedd.

  • Tagio gweoedd.

  • Tagio adenydd.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith..

(3Yn yr adran ar ddefaid, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.” rhodder—

  • Ysbaddu.

  • Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Ffrwythloni laparosgopig.

  • Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol.

  • Fasdoriad..

(4Yn yr adran ar eifr, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.” rhodder —

  • Ysbaddu.

  • Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Ffrwythloni laparosgopig.

  • Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol.

  • Fasdoriad..

Atodlen 4

7.—(1Mae'r diwygiadau i Atodlen 4 (adar: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.

(2Yn union cyn paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—

Pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1

A1.  Ac eithrio yn achos tocio pigau (pan fo darpariaethau paragraff 5 yn gymwys), ni chaniateir rhoi unrhyw driniaeth a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1 i adar sy'n ieir dodwy neu y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy, oni chedwir hwy ar sefydliadau sydd â llai na 350 o adar o'r fath.

Tagio gyddfau

A2.  Caniateir rhoi'r driniaeth i hwyaid a ffermir, yn unig, a hynny yn unig os rhoddir y driniaeth o fewn 36 awr ar ôl deor at ddibenion rhaglen gwella brîd.

Bylchu gweoedd

A3.  Caniateir rhoi'r driniaeth i hwyaid a ffermir, yn unig, a hynny yn unig os rhoddir y driniaeth o fewn 36 awr ar ôl deor at ddibenion rhaglen gwella brîd.

Tagio gweoedd

A4.  Caniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir at ddibenion rhaglenni gwella brîd neu i brofi am bresenoldeb clefyd, yn unig.

Caniateir rhoi'r driniaeth i adar ac eithrio adar a ffermir at ddibenion cadwraeth yn unig (gan gynnwys addysg a rhaglenni bridio mewn caethiwed) neu ar gyfer ymchwil.

Tagio adenydd

A5.  Caniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir at ddibenion rhaglenni gwella brîd neu brofi am bresenoldeb clefyd, yn unig.

Caniateir rhoi'r driniaeth i adar ac eithrio adar a ffermir at ddibenion cadwraeth yn unig (gan gynnwys addysg a rhaglenni bridio mewn caethiwed) neu ar gyfer ymchwil..

(3Ym mharagraff 5 (torri pigau dofednod), yn lle'r geiriau “Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ieir dodwy” rhodder “Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ddofednod o'r fath neu ieir dodwy”.

Atodlen 5

8.—(1Mae'r diwygiadau i Atodlen 5 (defaid: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—

Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol

1A.  Rhaid rhoi anesthetig..

(3Ar ôl paragraff 2 (gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen) mewnosoder —

Ffrwythloni laparosgopig

2A.  Ni cheir rhoi'r driniaeth ac eithrio fel rhan o raglen gwella brîd.

Rhaid rhoi anesthetig.

Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol

2B.  Rhaid rhoi anesthetig..

Atodlen 6

9.—(1Mae'r diwygiadau i Atodlen 6 (geifr: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—

Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol

1A.  Rhaid rhoi anesthetig..

(3Ar ôl paragraff 2 (gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen) mewnosoder —

Ffrwythloni laparosgopig

2A.  Ni cheir rhoi'r driniaeth ac eithrio fel rhan o raglen gwella brîd.

Rhaid rhoi anesthetig.

Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol

2B.  Rhaid rhoi anesthetig..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1029 (Cy. 96)) (“Rheoliadau 2007”) drwy fewnosod triniaethau newydd a ganiateir a'r gofynion sy'n gymwys iddynt. Y triniaethau newydd a ganiateir yw tagio adenydd a thagio gweoedd, tagio gyddfau a bylchu gweoedd hwyaid fferm ac, yn achos defaid a geifr, casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol, ffrwythloni laparosgopig a thrawsblannu (gan gynnwys casglu) ofa drwy ddull llawfeddygol. Mae'r Rheoliadau yn diwygio rheoliad 3 ac yn gosod rheoliad newydd yn lle rheoliad 5, ynglyn â phwy gaiff roi'r triniaethau a ganiateir. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 4 er mwyn cywiro mân wall drafftio.

Mewn perthynas â thocio cynffonau ac ysbaddu moch, mae'r Rheoliadau hyn ynghyd â Rheoliadau 2007 yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch (OJ Rhif L340, 11.12.1991, t.33), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC, OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.1), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.36) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1). Mewn perthynas â ieir dodwy, mae'r Rheoliadau hyn ynghyd â Rheoliadau 2007 yn gweithredu paragraff 8 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod ieir dodwy (OJ Rhif L203, 3.8.1999, t.53, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

Mae Rheoliadau 2007 yn pennu i ba driniaethau nad yw'r tramgwyddau yn adran 5(1) a (2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45) yn gymwys. Mae'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf yn ei gwneud yn dramgwydd rhoi triniaeth waharddedig neu beri rhoi triniaeth waharddedig i anifail a warchodir neu, o dan amgylchiadau penodedig, caniatáu rhoi triniaeth o'r fath i anifail. Triniaeth waharddedig yw triniaeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif neu strwythur esgyrn yr anifail ac eithrio at y diben o'i drin yn feddygol (gweler adran 5(3) o'r Ddeddf).

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau ohono o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p. 45. Diffinnir yr awdurdod cenedlaethol priodol yn adran 62(1) o'r Ddeddf. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, mae'r swyddogaethau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

1966 p. 36; yr offerynnau perthnasol sy'n diwygio yw O.S. 1988/526, 1991/1412, 2002/1479, 2008/1824.

(4)

O.S. 1962/2557; yr offerynnau perthnasol sy'n diwygio yw O.S. 1973/308, 1982/1627, 1983/6, 2002/1646.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources