- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Ebrill 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a berir gan yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a)y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b)eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn yr Atodlen.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
Erthygl 3(b)
Eiddo | Deiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys) |
---|---|
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg | |
Ysbyty | |
Castell-nedd Port Talbot | Rhydd-ddaliad (WA634236) |
Cimla | Rhydd-ddaliad (WA788547) |
Glan-rhyd (gan Clinig Caswell) | Rhydd-ddaliad (WA683580) gynnwys |
Maes-gwyn | Rhydd-ddaliad (WA723641) |
Maesteg | Rhydd-ddaliad (WA69691) |
Tonna | Rhydd-ddaliad (WA787072) |
Tywysoges Cymru | Rhydd-ddaliad (WA683500) |
Canolfannau Iechyd | |
Blaengwynfi | Rhydd-ddaliad (WA535702) |
Castell-nedd | Rhydd-ddaliad (WA788533) |
Glyncorrwg | Rhydd-ddaliad (WA787088) |
Llansawel | Rhydd-ddaliad (WA788469) |
Llanilltud Fawr | Rhydd-ddaliad (WA767960) |
Port Talbot | Rhydd-ddaliad (WA787096) |
Y Bont-faen | Rhydd-ddaliad |
Y Cymer | Rhydd-ddaliad (WA788542) |
Clinigau | |
Abercynffig | Rhydd-ddaliad (WA683571) |
Baglan | Rhydd-ddaliad (WA787058) |
Bro Ogwr | Rhydd-ddaliad (CYM16926) |
Bryncethin | Rhydd-ddaliad (WA683576) |
Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr | Rhydd-ddaliad (WA683609) |
Caerau | Rhydd-ddaliad (WA683614) |
Y Cymer, Croeserw | Rhydd-ddaliad (WA788467) |
Cwmafan | Rhydd-ddaliad (WA788552) |
Glyn-nedd | Rhydd-ddaliad (WA788540) |
Gwauncaegurwen | Rhydd-ddaliad (WA902057) |
Gogledd Corneli | Rhydd-ddaliad (WA683624) |
Heol Cwarela, Pen-y-bont ar Ogwr | Rhydd-ddaliad (CYM18893) |
Mynydd Cynffig | Rhydd-ddaliad (CYM229523) |
Pen-coed | Rhydd-ddaliad (WA683602) |
Pontycymer | Rhydd-ddaliad (WA683622) |
Port Talbot | Rhydd-ddaliad (WA788011) |
Resolfen | Rhydd-ddaliad (WA788558) |
Sgiwen Cefn Parc | Rhydd-ddaliad (WA787103) |
Ystalyfera | Rhydd-ddaliad (WA788580) |
Anableddau Dysgu | |
Byngalo Bryn Afon, Ferndale | Rhydd-ddaliad (WA142507) |
Byngalo Dan y Bont, Mynydd Cynffig | Rhydd-ddaliad (WA103201, WA950795 & WA944101) |
Byngalo Dan y Deri, Treforys | Rhydd-ddaliad (WA788490) |
Byngalo Llety Newydd, Yr Eglwys Newydd | Rhydd-ddaliad (CYM23543) |
Byngalo Meadow Court, Tonyrefail | Rhydd-ddaliad (WA336282 & CYM75532) |
Canolfan Asesu Hafod y Wennol, Hensol | Rhydd-ddaliad (CYM101833) |
Canolfan Asesu Llwyneryr | Rhydd-ddaliad (WA788490) |
Byngalo Swyn yr Afon, Blaendulais | Rhydd-ddaliad (WA142507) |
Byngalo The Briary, Trelái, Caerdydd | Rhydd-ddaliad (WA887948) |
Byngalo The Laurels, Trelái , Caerdydd | Rhydd-ddaliad (WA887948) |
Byngalo Tŷ Penfro, Treganna, Caerdydd | Rhydd-ddaliad (WA404686) |
Byngalo Tŷ Garth Newydd, Pentre'r Eglwys | Rhydd-ddaliad (CYM66004) |
Uned Asesu Rowan House, Trelái, Caerdydd (a rhan o Ganolfan Iechyd Park View Health cyfagos) | Lesddaliad |
Iechyd Meddwl | |
Canolfan TIMC Gelli Gron, Pontardawe | Lesddaliad |
TIMC Forge, Port Talbot | Rhydd-ddaliad (WA536914) |
TIMC Porthcawl, 267 New Road, Porthcawl | Rhydd-ddaliad (WA586819) |
TIMC Brackla House, Pen-y-bont ar Ogwr | Lesddaliad |
Amrywiol | |
7a Boverton Road, Llanilltud Fawr | Lesddaliad |
16/18 Derwen Road, Pen-y-bont ar Ogwr | Lesddaliad |
45/47 South Road Porthcawl | Lesddaliad |
Bevan House, Cyflenwadau Iechyd Cymru, Llanisien | Lesddaliad |
Uned 16, Lambourne Crescent, Llanisien | Lesddaliad |
Denbigh Stores, Clwyd | Rhydd-ddaliad (CYM312486) |
Glynteg House, Trelái, Caerdydd | Lesddaliad |
North Road Stores, Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr | Lesddaliad |
Canolfan Gofal Sylfaenol Pontardawe | Lesddaliad |
Heol Cwarela, Swyddfeydd Pencadlys yr Ymddiriedolaeth, Pen-y-bont ar Ogwr | Rhydd-ddaliad (WA683598) |
Canolfan Sbectrwn, Y Tyllgoed, Caerdydd | Lesddaliad |
Uned 3, Cowbridge Court, Caerdydd | Lesddaliad |
Unedau 22 a 23, Ystad Ddiwydiannol Baglan Industrial Estate | Lesddaliad |
10/11 Ffordd yr Hen Gae, Bocam Park, Pen-coed | Lesddaliad |
Uned 81, Bowen Court, Llanelwy | Lesddaliad |
1 Commercial Street, Bro Ogwr | Lesddaliad |
Innovation House, Llanharan | Lesddaliad |
Uned 2, Parc Busnes Tonysguboriau | Lesddaliad |
Canolfan Gofal Sylfaenol Cwm Dulais | Lesddaliad |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg i Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg o 1 Ebrill 2008 ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg i Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg ar 1 Ebrill 2008.
Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: