Search Legislation

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 7

ATODLEN 1

Esemptiadau

1.—(1Y mathau o fagiau siopa untro nad yw rheoliad 6 yn gymwys iddynt yw—

(a)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;

(b)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;

(c)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;

(ch)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys nwyddau heb eu pecynnu ac a halogwyd gan bridd;

(d)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys y canlynol a gafodd eu pecynnu—

(i)pysgod neu gynhyrchion pysgod heb eu coginio;

(ii)cig neu gynhyrchion cig heb eu coginio;

(iii)dofednod neu gynhyrchion dofednod heb eu coginio,

y mae, mewn perthynas â hwy, uchafswm eu dimensiynau yn 205 o filimetrau (“mm”) (lled) x 125 mm (lled cwysed) x 458 mm (uchder gan gynnwys handlenni);

(dd)bagiau wedi eu selio a gyflenwir gan werthwr cyn cyrraedd y man gwerthu;

(e)bagiau a ddefnyddir i gynnwys nwyddau a brynwyd ar fwrdd llongau, trenau, awyrennau, coetsis neu fysiau;

(f)bagiau a ddefnyddir i gynnwys nwyddau a brynwyd mewn man a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn fan o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982(1);

(ff)bagiau ar gyfer pecynnu a chyflenwi post neu nwyddau wth archebu drwy'r post;

(g)bagiau—

(i)a wnaed yn gyfan gwbl o bapur;

(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 175 mm (lled) x 260 mm (uchder);

(iii)nad oes ganddynt gwysed; a

(iv)nad oes ganddynt handlen;

(ng)bagiau—

(i)a wnaed yn gyfan gwbl neu'n bennaf o blastig;

(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 125 mm (lled) x 125 mm (uchder);

(iii)nad oes ganddynt gwysed; a

(iv)nad oes ganddynt handlen;

(h)bagiau—

(i)a wnaed yn gyfan gwbl o bapur;

(ii)mae uchafswm eu dimensiynau yn 80 mm (lled) x 50 mm (lled cwysed) x 155 mm (uchder); a

(iii)nad oes ganddynt handlen;

(i)leininau â chwysed a ddefnyddir i leinio neu i lapio blychau, cratiau neu gynwysyddion eraill o natur debyg;

(j)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys creaduriaid byw dyfrol mewn dŵr;

(k)bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un eitem neu fwy o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2).

(2Y categorïau a bennir yw—

(a)cynnyrch meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a werthir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan ymarferydd meddygol cofrestredig, deintydd, rhagnodydd atodol, nyrs-ragnodydd annibynnol, nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol neu broffesiynolyn iechyd yr AEE;

(b)pan werthir neu pan gyflenwir hwy heb fod yn unol â pharagraff (a),,meddyginiaeth fferyllol.

(3Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “cyfarpar rhestredig” yw cyfarpar rhestredig o fewn ystyr “listed appliances” yn unrhyw un o'r canlynol—

    (a)

    adran 80 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2);

    (b)

    erthygl 63 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(3);

    (c)

    adran 27 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(4);

    (ch)

    adran 126 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(5);

  • mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn adran 130 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(6);

  • ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr ddeintyddion a gedwir o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(7);

  • ystyr “heb ei becynnu” (“unpackaged”) yw heb gael ei lapio'n gyfan gwbl neu'n rhannol;

  • ystyr “meddyginiaeth fferyllol” (“pharmacy medicine”) yw cynnyrch meddyginiaethol nad yw'n feddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig ac sydd—

    (a)

    yn unol ag adran 52(8) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968, y gellir ei werthu neu ei gyflenwi yn unig o dan yr amodau a bennir yn is-adran (1)(a) i (c) o'r adran honno; neu

    (b)

    heblaw am y ffaith y gellir ei werthu neu ei gyflenwi yn unol ag adran 55(9) o'r Ddeddf honno, dim ond o dan yr amodau hynny y gellid ei werthu neu ei gyflenwi'n gyfreithiol;

  • ystyr “meddyginiaeth drwy bresgripsiwn yn unig” (“prescription only medicine”) yw cynnyrch meddyginiaethol—

    (a)

    o ddisgrifiad neu sy'n dod o fewn dosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 58(10) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968;

    (b)

    y mae adran 58 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 104(11) o'r Ddeddf honno;

  • mae i “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent nurse prescriber” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(12);

  • mae i “proffesiynolyn iechyd yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA health professional” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Meddyginiaethau at Ddefnydd Dynol (Rhagnodi gan Ymarferwyr AEE) 2008(13); ac

  • mae i “rhagnodydd atodol”, “nyrs-ragnodydd annibynnol”, “optometrydd-ragnodydd annibynnol” a “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” yr ystyr a briodolir i “supplementary prescriber”, “nurse independent prescriber”, “optometrist independent prescriber” a “pharmacist independent prescriber” yn ôl eu trefn yn erthygl 1(2) o Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(14).

(1)

1982 p.36; cafodd adran 11A ei mewnosod gan Ddeddf Diogelwch Awyrennol a Morol 1990 (p.31), Atodlen 1, paragraff 3; a'i diwygio gan O.S. 2010/902, rheoliadau 3 a 9(b).

(3)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14), diwygiwyd gan 1978/1907 (G.I. 26); mae diwygiadau eraill ond nid oes unrhyw un yn berthnasol.

(4)

1978 p.29; mae diwygiadau i adran 27 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

1968 p.67; diwygiwyd adran 130 gan O.S. 1994/3119, rheoliad 2(b); ac O.S. 2005/50, rheoliad 25(1)(c) a (d); mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(7)

1984 p.24; amnewidiwyd adran 14 gan O.S. 2005/2011, erthyglau 2(1) a 6; ac a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3101 rheoliadau 109 a 111.

(8)

Diwygiwyd adran 52 gan Ddeddf Iechyd 2006 (p.28); mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

(9)

Diwygiwyd adran 55 gan O.S. 2004/1771, erthygl 3 a pharagraff 10(b) o'r Atodlen; gan O.S. 2006/2407, paragraffau 1 a 26 o Atodlen 8.

(10)

Mae diwygiadau i adran 58 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

Diwygiwyd adran 104 gan O.S. 2004/1031, rheoliad 54 a pharagraff 17 o Atodlen 10; a chan O.S. 2006/2407, paragraffau 1 a 54 o Atodlen 8.

(13)

O.S. 2008/1692, mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources