Search Legislation

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2011.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “blwyddyn adrodd” (“reporting year”) yw—

    (a)

    y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n dod i ben ar 6 Ebrill 2012;

    (b)

    ar ôl hynny, y cyfnod sy'n cychwyn ar 7 Ebrill mewn un flwyddyn ac sy'n dod i ben ar 6 Ebrill y flwyddyn ganlynol; ac mae'r cyfnod hwnnw am y tro cyntaf i gychwyn ar 7 Ebrill 2012;

  • ystyr “cofnod” (“record”) yw'r wybodaeth a bennir yn rheoliad 8(3);

  • ystyr “cosb am dalu'n hwyr” (“late payment penalty”) yw unrhyw gynnydd mewn swm sy'n daladwy—

    (a)

    fel cosb ariannol benodedig, yn rhinwedd paragraff 10 o Atodlen 2;

    (b)

    fel cosb ariannol amrywiadwy, yn rhinwedd paragraff 9 o Atodlen 3;

    (c)

    fel cosb am beidio â chydymffurfio, yn rhinwedd paragraff 8 o Atodlen 4;

  • mae i “hysbysiad adennill costau gorfodi” (“enforcement costs recovery notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16(1);

  • mae i “hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty notice”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5(4) o Atodlen 4;

  • mae i “swm penodedig” (“specified sum”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4(2) o Atodlen 2;

  • mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau; ac

  • ystyr “y tâl” (“the charge”) yw'r isafswm tâl a bennir yn rheoliad 6.

(2Mae cyfeiriadau at—

(a)hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yn gyfeiriadau at hysbysiad o fwriad a gyflwynir o dan baragraff 3(1) o Atodlen 2;

(b)hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol benodedig, yn gyfeiriadau at hysbysiad terfynol a gyflwynir o dan baragraff 6(5) o Atodlen 2;

(c)hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn, yn gyfeiriadau at hysbysiad o fwriad a gyflwynir o dan baragraff 3(1) o Atodlen 3;

(ch)hysbysiad terfynol mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn, yn gyfeiriadau at hysbysiad terfynol a gyflwynir o dan baragraff 5(6) o Atodlen 3;

(d)hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb am beidio â chydymffurfio, yn gyfeiriadau at hysbysiad o fwriad a gyflwynir o dan baragraff 3(1) o Atodlen 4.

(3Mae cyfeiriadau at fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl yn gyfeiriadau at y bagiau siopa untro hynny y mae rheoliad 6 yn gymwys iddynt.

Ystyr “bag siopa untro”

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “bag siopa untro” (“single use carrier bag”) yw bag sy'n cyfateb i'r disgrifiad ym mharagraff (2) neu (3)—

(2Mae bag yn cyfateb i'r disgrifiad yn y paragraff hwn—

(a)os yw wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf o bapur, deunydd sy'n seiliedig ar blanhigion neu startsh naturiol; a

(b)os nad yw wedi ei weithgynhyrchu'n benodol i'w ailddefnyddio'n aml.

(3Mae bag yn cyfateb i'r disgrifiad yn y paragraff hwn os yw'n fag plastig—

(a)nad yw'n bodloni pob un o'r gofynion ym mharagraff (4); neu

(b)sy'n bodloni pob un o'r gofynion ym mharagraff (4) ond nad yw wedi ei fwriadu i'w ailddefnyddio'n aml (gweler paragraff (5)).

(4Y gofynion yw—

(a)bod y naill a'r llall o ddimensiynau'r bag yn fwy na 404 o filimetrau (“mm”);

(b)bod o leiaf un o ddimensiynau'r bag yn fwy na 439 mm;

(c)bod y bag wedi ei weithgynhyrchu o ddeunydd sy'n fwy na 49 o ficronau yn ei drwch.

(5Mae bag plastig wedi ei fwriadu i'w ailddefnyddio'n aml—

(a)os yw wedi ei brynu gan y cwsmer; a

(b)pan fydd wedi ei dreulio'n llwyr, os gellir ei ddychwelyd i'r gwerthwr y prynwyd ef ohono a chael un newydd yn ei le yn ddi-dâl.

(6Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “bag plastig” (“plastic bag”) yw bag sydd wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf o blastig;

  • ystyr “dimensiynau” (“dimensions”) yw lled neu uchder.

Ystyr “gwerthwr”

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “gwerthwr” (“seller”) yw person sydd wrth fasnachu neu redeg busnes—

(a)yn gwerthu nwyddau o le yng Nghymru;

(b)yn gwerthu nwyddau a gyflenwir i bersonau yng Nghymru.

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo person (A) yn gwerthu nwyddau yn swyddogaeth A fel swyddog neu gyflogai i berson arall (B), yna at ddibenion y Rheoliadau hyn B yw'r gwerthwr o dan yr amgylchiadau hynny, ac nid A.

Gweinyddwr

5.—(1Awdurdod lleol sydd i weinyddu'r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny, ef yw'r gweinyddwr ar gyfer ei ardal(1).

(2Ym mharagraff (1) mae'r cyfeiriad at awdurdod lleol yn gyfeiriad at gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

RHAN 2Y Tâl a Godir

Gofyniad i godi tâl

6.  Rhaid i werthwr godi isafswm o 5 ceiniog am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—

(a)yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;

(b)at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.

Esemptiad i'r gofyniad i godi tâl

7.  Nid yw rheoliad 6 yn gymwys mewn perthynas â chyflenwi bagiau siopa untro o'r mathau a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac mae'r Atodlen honno yn cael effaith yn unol â hynny.

RHAN 3Cofnodion a Chyhoeddi

Cadw cofnodion

8.—(1Rhaid i werthwr gadw cofnod cywir o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.

(2Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.

(3Yr wybodaeth yw—

(a)nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir gan y gwerthwr sy'n denu'r tâl;

(b)y swm gros a gafwyd gan y gwerthwr drwy godi taliadau am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;

(c)enillion gros y tâl(2);

(ch)enillion net y tâl(3);

(d)dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng enillion gros ac enillion net y tâl, gan gynnwys (yn benodol)—

(i)y dosraniad rhwng unrhyw TAW briodoladwy a chostau rhesymol;

(ii)y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;

(dd)at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net a gafwyd o'r tâl.

(4Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008(4)

(a)swm unrhyw TAW briodoladwy;

(b)swm unrhyw gostau rhesymol.

(5Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—

    (a)

    costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

    (b)

    costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid;

  • mae i “TAW” yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 1994(5);

  • ystyr “TAW briodoladwy” (“attributable VAT”) yw'r TAW ar gyflenwad gan y gwerthwr o fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl.

Argaeledd cofnodion

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person a grybwyllir ym mharagraff (4) yn gwneud cais i werthwr yn ysgrifenedig i gyflenwi cofnod am flwyddyn adrodd.

(2Os daw cais i law yn ystod y cyfnod y delir gafael ar y cofnod sydd o dan sylw, rhaid i'r gwerthwr ddarparu copi o'r cofnod hwnnw i'r person a wnaeth gais amdano o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl iddo gael y cais ysgrifenedig.

(3Y cyfnod dal gafael yw'r cyfnod o dair blynedd y mae'n rhaid dal gafael ar unrhyw gofnod penodol o dan reoliad 8(2).

(4Y personau yw—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)aelod o'r cyhoedd.

Cyhoeddi cofnodion

10.—(1Rhaid i werthwr gyhoeddi'r cofnod ar gyfer blwyddyn adrodd os bodlonir yr amodau ym mharagraff (2) gan y gwerthwr mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd o dan sylw.

(2Yr amodau yw—

(a)bod y gwerthwr yn berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994;

(b)bod y gwerthwr yn cyflenwi 1000 neu fwy o fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl.

(3Rhaid i werthwr gyhoeddi'r cofnod ar neu cyn 31 Mai yn y flwyddyn adrodd sy'n dilyn honno y mae'r cofnod yn ymwneud â hi.

(4Rhaid i'r cofnod barhau i fod wedi ei gyhoeddi hyd at 31 Mai yn y flwyddyn adrodd ddilynol.

(5Rhaid i'r cyhoeddi fod yn y dull a ganlyn—

(a)ar wefan y gwerthwr; neu

(b)drwy arddangos hysbysiad sy'n cynnwys y cofnod yn holl fangreoedd y gwerthwr yng Nghymru y mae gan gwsmeriaid fynediad iddynt.

(6Os bydd gwerthwr yn cyhoeddi'r cofnod ar ei wefan—

(a)rhaid i'r cofnod gael ei arddangos yn amlwg ar dudalen gartref y gwerthwr; neu

(b)os yw'r cofnod i gael ei arddangos yn rhywle arall ar wefan y gwerthwr, rhaid i ddolen i'r cofnod gael ei harddangos yn amlwg ar dudalen gartref y gwerthwr.

(7Os bydd gwerthwr yn cyhoeddi'r cofnod yn y dull a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b), rhaid i'r hysbysiad gael ei arddangos mewn lle amlwg, fel bod cwsmeriaid yn gallu ei weld yn eglur ac yn gallu ei ddarllen.

RHAN 4Torri'r Rheoliadau

Torri'r Rheoliadau

11.—(1Mae gwerthwr yn torri'r Rheoliadau hyn os yw, oherwydd methiant i gymryd pob cam rhesymol sy'n angenrheidiol i'w alluogi i wneud hynny, yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y gofynion yw—

(a)y gofyniad i godi tâl yn unol â rheoliad 6;

(b)y gofyniad i gadw cofnodion yn unol â rheoliad 8;

(c)y gofyniad i ddal gafael ar gofnodion yn unol â rheoliad 8;

(ch)y gofyniad i gyflenwi cofnodion yn unol â rheoliad 9;

(d)y gofyniad i gyhoeddi cofnodion yn unol â rheoliad 10.

(3Mae gwerthwr yn torri'r Rheoliadau hyn os yw, heb achos rhesymol—

(a)yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i weinyddwr;

(b)yn rhwystro gweinyddwr neu'n methu â rhoi cymorth iddo fel arall wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 5Sancsiynau sifil

Sancsiynau sifil

12.  Mae'r Atodlenni canlynol yn cael effaith—

(a)Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig(6);

(b)Atodlen 3, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn(7).

Cyfuniad o gosbau

13.—(1Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig i werthwr os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.

(2Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn i werthwr yn unrhyw o'r amgylchiadau canlynol—

(a)pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;

(b)pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;

(c)pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn eisoes wedi ei osod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.

RHAN 6Gorfodi a Pheidio â chydymffurfio

Pwerau gorfodi

14.—(1Mae gan weinyddwr y pwerau gorfodi sydd yn y rheoliad hwn.

(2Y pwerau yw—

(a)prynu nwyddau prawf er mwyn canfod a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn;

(b)arolygu unrhyw nwyddau a mynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol (heblaw mangre ddomestig) er mwyn canfod a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn;

(c)os yw gweinyddwr yn credu'n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn—

(i)cwestiynu gwerthwr neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr;

(ii)ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau'n cael eu dangos neu fod gwybodaeth yn cael ei darparu.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.

(4Rhaid i weinyddwr sy'n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (2)(b) neu (c) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o'i awdurdod os y person sy'n gofyn iddo, neu felly yr ymddengys, yw—

(a)y gwerthwr, neu swyddog neu gyflogai i'r gwerthwr;

(b)perchennog neu feddiannydd unrhyw fangre lle y mae'r gweinyddwr yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw.

(5Nid oes dim ym mharagraff (2) sy'n gorfodi dangos unrhyw ddogfen—

(a)yng Nghymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon, y byddai gan y person hwnnw ar seiliau braint broffesiynol gyfreithiol yr hawl i beidio â'i dangos o dan orchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu'r Uchel Lys; neu

(b)yn yr Alban, y byddai gan y person hwnnw ar seiliau cyfrinachedd gohebiaeth yr hawl i beidio â'i dangos o dan orchymyn dangos dogfennau mewn achos yn y Llys Sesiwn.

Gofynion yn ôl disgresiwn nad ydynt yn rhai ariannol: gorfodi

15.  Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol mewn achosion pan fo gwerthwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n un ariannol(8) ac mae'r Atodlen honno'n cael effaith yn unol â hynny.

Adennill costau gorfodi

16.—(1Caiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau gorfodi”) i werthwr y gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn ei gwneud yn ofynnol bod y gwerthwr hwnnw'n talu'r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod (“costau gorfodi”).

(2Mae costau gorfodi yn cynnwys, yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau cael cyngor arbenigwr (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3Rhaid i hysbysiad adennill costau gorfodi bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)sut y gellir talu;

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu;

(c)yr hawl i apelio; a

(ch)y canlyniadau am fethu â thalu erbyn y dyddiad y mae'n ddyledus.

(4Rhaid i'r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad adennill costau gorfodi i'r gwerthwr.

(5Rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad adennill costau gorfodi.

(6Ond mae paragraff (5) yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn y rheoliad hwn a rheoliad 21(4) (atal gofynion a hysbysiadau tra disgwylir apêl).

(7Os yw penderfyniad gweinyddwr o dan y rheoliad hwn yn destun apêl, yna i'r graddau y caiff y penderfyniad hwnnw ei gadarnhau, rhaid i'r gwerthwr dalu'r costau gorfodi o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyfernir yr apêl.

(8Rhaid i weinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o'r costau a bennir mewn hysbysiad adennill costau gorfodi os bydd y gwerthwr y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn gofyn amdano.

(9Nid yw gwerthwr yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae'r gwerthwr hwnnw'n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.

(10Caiff gwerthwr apelio—

(a)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr i osod gofyniad i dalu costau;

(b)yn erbyn penderfyniad gweinyddwr o ran swm y costau hynny.

Adennill taliadau

17.  Caiff gweinyddwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, cosb am fethu â chydymffurfio, costau gorfodi neu gosb am fod yn hwyr yn talu—

(a)fel dyled sifil;

(b)ar orchymyn gan lys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifil

18.—(1Caiff gweinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i werthwr y gosodwyd sancsiwn sifil arno(9).

(2Y canlynol yw'r wybodaeth a bennir at ddibenion paragraff 19(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008—

(a)y math o sancsiwn sifil o dan sylw;

(b)y seiliau dros osod y sancsiwn;

(c)os oedd y sancsiwn yn gosb ariannol benodedig neu'n gosb ariannol amrywiadwy, swm y gosb honno;

(ch)os oedd y sancsiwn yn ofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n ariannol, natur y gofyniad o dan sylw.

(3Rhaid i hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)pennu'r dull cyhoeddi sy'n ofynnol;

(b)pennu'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio â'r hysbysiad o fewn amser a bennir yn yr hysbysiad.

(4Os bydd gwerthwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd o fewn yr amser a bennir o dan baragraff (3)(b), caiff y gweinyddwr—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i'r wybodaeth y mae'n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad; a

(b)adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y gwerthwr o dan sylw.

(5Pan fo gweinyddwr yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth o dan baragraff (4)(a) rhaid iddo wneud hynny mewn dull y mae'n ystyried yw'r dull mwyaf tebygol i ddwyn yr wybodaeth i sylw aelodau o'r cyhoedd yn ei ardal.

RHAN 7Gweinyddu

Cwmpas pwerau gweinyddwyr

19.  Mae'r swyddogaethau a roddir i weinyddwr gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy gan weinyddwr yn ei ardal ac mewn perthynas â hi.

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio

20.—(1Caiff gweinyddwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad neu hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol benodedig;

(b)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad neu hysbysiad terfynol mewn perthynas â chosb ariannol amrywiadwy neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(c)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad neu hysbysiad terfynol mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw'n ariannol neu ddiwygio'r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau swm y gwaith angenrheidiol i gydymffurfio â'r hysbysiad;

(ch)tynnu'n ôl hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb am beidio â chydymffurfio neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(d)tynnu'n ôl hysbysiad o gosb am beidio â chydymffurfio neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad;

(dd)tynnu'n ôl hysbysiad adennill costau gorfodi neu leihau'r swm a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i weinyddwr ymgynghori â'r gwerthwr o dan sylw cyn tynnu hysbysiad yn ôl neu ei ddiwygio o dan baragraff (1).

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys yn unrhyw achos os nad yw'n ymarferol i ymgynghori â'r gwerthwr o dan sylw.

Apelau

21.—(1Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf(10) (“y Tribiwnlys”).

(2Yn unrhyw apêl pan fo cyflawni toriad yn y Rheoliadau yn fater sy'n gofyn am ddyfarniad, rhaid i'r gweinyddwr brofi'r toriad hwnnw yn y Rheoliadau yn ôl pwysau tebygolrwydd.

(3Yn unrhyw achos arall rhaid i'r Tribiwnlys ddyfarnu safon y prawf.

(4Mae gofyniad neu hysbysiad sy'n destun apêl yn cael eu hatal tra disgwylir dyfarniad i'r apêl.

(5Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

(a)tynnu'n ôl y gofyniad neu'r hysbysiad;

(b)cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(c)cymryd y camau hynny y gallai gweinyddwr eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a roes fod i'r gofyniad neu'r hysbysiad;

(ch)dychwelyd y penderfyniad ai cadarnhau'r gofyniad neu'r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy'n ymwneud â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at y gweinyddwr.

Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil

22.—(1Rhaid i weinyddwr gyhoeddi canllawiau am ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol (gweler paragraffau (5) a (6)).

(3Rhaid i weinyddwr ddiwygio'r canllawiau lle y mae hynny'n briodol.

(4Rhaid i'r gweinyddwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

(5Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw'r wybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r gosb yn debygol o gael ei gosod;

(b)o dan ba amgylchiadau ni chaniateir gosod y gosb;

(c)swm y gosb;

(ch)sut y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad;

(d)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau; a

(dd)hawliau i apelio.

(6Yn achos canllawiau sy'n ymwneud â gofyniad yn ôl disgresiwn, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw'r wybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r gofyniad yn debygol o gael ei osod;

(b)o dan ba amgylchiadau ni chaniateir gosod y gofyniad;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion sy'n debygol o gael eu cymryd i ystyriaeth gan y gweinyddwr wrth iddo ddyfarnu swm y gosb (gan gynnwys, os yw'n berthnasol, unrhyw ddisgownt am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio);

(ch)hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau; a

(d)hawliau i apelio.

Canllawiau ychwanegol

23.—(1Rhaid i weinyddwr gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y bydd yn arfer y pwerau a roddir gan reoliad 15 ac Atodlen 4 (cosbau am beidio â chydymffurfio) a rheoliad 16 (adennill costau gorfodi).

(2Rhaid i'r canllawiau gynnwys, yn benodol, gwybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae'r pwerau'n debygol o gael eu harfer;

(b)y materion sydd i'w hystyried wrth ddyfarnu'r symiau mewn golwg;

(c)hawliau i apelio.

(3Rhaid i weinyddwr ddiwygio'r canllawiau lle y mae hynny'n briodol.

(4Rhaid i weinyddwr roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

Ymgynghori ar ganllawiau

24.  Cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn rhaid i weinyddwr ymgynghori â'r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol;

(c)Cydffederasiwn Diwydiant Prydain;

(ch)Ffederasiwn Busnesau Bach;

(d)Consortiwm Manwerthu Prydain.

Cyhoeddi camau gorfodi

25.—(1Rhaid i weinyddwr o bryd i'w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy'n pennu—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt am dorri'r Rheoliadau hyn;

(b)os cosb ariannol benodedig yw'r sancsiwn sifil, yr achosion y rhyddhawyd atebolrwydd rhag cosb ynddynt yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 (rhyddhau rhag atebolrwydd yn dilyn hysbysiad o fwriad).

(2Ym mharagraff (1)(a) nid yw'r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan osodwyd y sancsiwn ond pan gafodd ei wrthdroi ar apêl.

(3Rhaid i weinyddwr beidio â chyhoeddi adroddiad mewn unrhyw achos pan fo Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r gweinyddwr yn ysgrifenedig y byddai'n amhriodol i wneud hynny.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources