Search Legislation

Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 594 (Cy.87)

DATGANOLI, CYMRU

LLWON

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) (Diwygio) 2011

Gwnaed

1 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Mawrth 2011

Yn dod i rym

30 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1) ac sy'n arferadwy bellach ganddynt hwy(2).

Enwi, dehongli a chychwyn

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) (Diwygio) 2011.

(2Yn y gorchymyn hwn ystyr “y gorchymyn” (“the order”) yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 (3).

(3Daw'r gorchymyn hwn i rym ar 30 Mawrth 2011.

Ffurf Gymraeg ddiwygiedig cadarnhad teyrngarwch y caiff aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei roi

2.  Yn erthygl 6(2) o'r gorchymyn, yn lle'r ffurf Gymraeg rhodder—

  • Yr wyf i, ... ... ... ..., yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru

1 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 (O.S. 2007/2044 (Cy. 169)), sy'n rhagnodi ffurfiau Cymraeg y llwon y mae'n ofynnol i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac aelodau penodol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu cymryd a'r cadarnhadau y mae'n ofynnol iddynt eu rhoi o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“Deddf 2006”).

Mae'r gorchymyn hwn yn rhagnodi ffurf Gymraeg ddiwygiedig y cadarnhad teyrngarwch y caiff aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei roi o dan adran 23(1) o Ddeddf 2006.

Mae Deddf 2006 yn darparu mai'r ffurfiau a nodir yn Neddf Llwon Addewidiol 1868 (p.72) ac yn Neddf Llwon 1978 (p.19) yw ffurfiau Saesneg y llwon a'r cadarnhadau y mae'n ofynnol i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac aelodau penodol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu cymryd a'u rhoi.

Yn rhinwedd adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38) (“Deddf 1993”), pan fo un o Ddeddfau Senedd y DU yn pennu ffurf ar eiriau sydd i'w defnyddio at ddibenion swyddogol neu gyhoeddus penodol, caiff y Gweinidog priodol o blith Gweinidogion y Goron wneud gorchymyn sy'n rhagnodi ffurf ar eiriau yn Gymraeg sydd i'w defnyddio mewn amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn.

Rhoddwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2, Atodlen 1 bŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i wneud gorchmynion o dan adran 26(2) o Ddeddf 1993. Trosglwyddwyd y pŵer wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30(1) o Atodlen 11 i Ddeddf 2006.

(2)

Cafwyd cyfarwyddyd yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b), Atodlen 1, fod y pŵer yn adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i'w arfer, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y pŵer yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer oddi wrth y Cynulliad hwnnw i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources