- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 (O.S. 2007/2044 (Cy. 169)), sy'n rhagnodi ffurfiau Cymraeg y llwon y mae'n ofynnol i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac aelodau penodol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu cymryd a'r cadarnhadau y mae'n ofynnol iddynt eu rhoi o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“Deddf 2006”).
Mae'r gorchymyn hwn yn rhagnodi ffurf Gymraeg ddiwygiedig y cadarnhad teyrngarwch y caiff aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei roi o dan adran 23(1) o Ddeddf 2006.
Mae Deddf 2006 yn darparu mai'r ffurfiau a nodir yn Neddf Llwon Addewidiol 1868 (p.72) ac yn Neddf Llwon 1978 (p.19) yw ffurfiau Saesneg y llwon a'r cadarnhadau y mae'n ofynnol i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac aelodau penodol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu cymryd a'u rhoi.
Yn rhinwedd adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38) (“Deddf 1993”), pan fo un o Ddeddfau Senedd y DU yn pennu ffurf ar eiriau sydd i'w defnyddio at ddibenion swyddogol neu gyhoeddus penodol, caiff y Gweinidog priodol o blith Gweinidogion y Goron wneud gorchymyn sy'n rhagnodi ffurf ar eiriau yn Gymraeg sydd i'w defnyddio mewn amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn.
Rhoddwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2, Atodlen 1 bŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i wneud gorchmynion o dan adran 26(2) o Ddeddf 1993. Trosglwyddwyd y pŵer wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30(1) o Atodlen 11 i Ddeddf 2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: