- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6. Rhaid i hysbysiad apêl ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 6 mis sy'n cychwyn gyda dyddiad y penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.
7.—(1) Rhaid i hysbysiad apêl gynnwys—
(a)enw, cyfeiriad (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost) a rhif teleffon yr apelydd ac unrhyw asiant sy'n gweithredu ar ran yr apelydd;
(b)datganiad o seiliau'r apêl;
(c)datganiad pa un ai drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad, ynteu ymchwiliad y mae'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin;
(ch)rhestr o'r holl ddogfennau, gan gynnwys dyddiadau (pan fo'r dogfennau wedi eu dyddio), a bennir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i hysbysiad apêl gael ei gyflwyno ynghyd ag—
(a)copi o'r penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef; a
(b)copi o'r holl ddogfennau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arnynt.
8.—(1) Rhaid i'r person penodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfynu ar ddilysrwydd hysbysiad apêl, benderfynu a yw'r apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad ynteu ymchwiliad.
(2) Rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu o'r penderfyniad hwnnw.
(3) Dyddiad yr hysbysiad hwnnw yw'r dyddiad dechrau ar gyfer yr apêl.
(4) Ceir amrywio'r penderfyniad o dan baragraff (1) gan benderfyniad diweddarach o dan y paragraff hwnnw, ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r apêl.
(5) Ond cyn gwneud amrywiad o'r fath, rhaid i'r person penodedig ymgynghori â'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu.
(6) Os caiff y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ei amrywio—
(a)rhaid i'r person penodedig hysbysu'r apelydd, yr Awdurdod Trwyddedu ac unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â'r apêl, ynghylch yr amrywiad;
(b)bydd unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r weithdrefn apêl flaenorol, y gellid bod wedi ei wneud o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol o'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r weithdrefn apêl newydd, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan y ddarpariaeth gyfatebol honno; ac
(c)caiff y person penodedig roi cyfarwyddiadau canlyniadol ynglŷn â'r weithdrefn.
(7) Nid oes dim ym mharagraffau (4) i (6) sy'n effeithio ar y dyddiad dechrau o dan baragraff (3).
(8) Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i'r person penodedig roi sylw i unrhyw griteria a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: