Search Legislation

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu ) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4Gweithredu ar ôl y dyddiad dechrau

Hysbysiad i bersonau sydd â diddordeb

9.—(1Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 2 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, roi hysbysiad i'r perwyl bod apêl wedi ei gwneud—

(a)i unrhyw berson (ac eithrio'r apelydd) sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â'r cais y mae'r apêl yn ymwneud ag ef; a

(b)i unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Awdurdod Trwyddedu, yn debygol o fod â diddordeb.

(2Rhaid i'r hysbysiad ddatgan—

(a)y dyddiad dechrau;

(b)enw a lleoliad y safle y mae'r apêl yn ymwneud ag ef;

(c)enw'r apelydd;

(ch)y bydd yr apêl yn cael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad (yn ôl fel y digwydd);

(d)y caiff derbynnydd yr hysbysiad, o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy'n cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r person penodedig;

(dd)y cyfeiriad y mae'n rhaid anfon sylwadau o'r fath iddo;

(e)y bydd unrhyw sylwadau a ddaw i law yn cael eu hanfon at yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu; ac

(f)os bydd y derbynnydd yn gwneud sylwadau, y bydd y person penodedig yn ei hysbysu o ddyddiad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir.

(3Ynghyd â'r hysbysiad rhaid darparu copi o'r penderfyniad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.

(4Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 2 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon y canlynol at y person penodedig ac at yr apelydd—

(a)rhestr o'r personau y rhoddwyd yr hysbysiad o dan baragraff (1) iddynt, ac o'r dyddiadau y gwnaed hynny; a

(b)copïau o'r holl sylwadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a).

Sylwadau ac esboniadau

10.—(1Pan fo apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig—

(a)rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig unrhyw sylwadau y mae'r Awdurdod Trwyddedu'n dymuno'u gwneud ynglŷn â'r apêl, ynghyd ag unrhyw ddogfennau y mae'n bwriadu dibynnu arnynt;

(b)os yw'r apelydd yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r apêl, yn ychwanegol at y datganiad o seiliau'r apêl y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1)(b) neu'r dogfennau a gyflwynwyd gydag ef, y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2), rhaid i'r apelydd anfon y sylwadau hynny at y person penodedig o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau.

(2Pan fo apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad, rhaid i'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, ill dau, o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig ddatganiad sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y maent yn bwriadu ei roi gerbron yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, a rhestr o unrhyw ddogfennau y bwriadant gyfeirio atynt neu'u rhoi yn dystiolaeth.

(3Ar ddiwedd y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, rhaid i'r person penodedig—

(a)os yw'r apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig—

(i)anfon copi o sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd; a

(ii)anfon copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan yr apelydd o dan baragraff (1)(b) at yr Awdurdod Trwyddedu;

(b)os yw'r apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad, anfon copi o sylwadau a rhestr dogfennau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd a chopi o ddatganiad a rhestr dogfennau'r apelydd at yr Awdurdod Trwyddedu;

(c)ym mhob achos, anfon, ar yr un pryd, copïau o unrhyw sylwadau eraill a ddaw i law'r person penodedig mewn perthynas â'r apêl at yr apelydd ac at yr Awdurdod Trwyddedu.

(4Caiff yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 9 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig esboniadau ar y sylwadau hynny neu'r datganiad hwnnw.

(5Rhaid i'r person penodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y cyfnod hwnnw o 9 wythnos, anfon copi o esboniadau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd, ac ar yr un pryd, anfon copi o esboniadau'r apelydd at yr Awdurdod Trwyddedu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources