- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Os bydd y person penodedig, yn ystod unrhyw gam mewn gwrandawiad neu ymchwiliad, o'r farn bod unrhyw un o'r rhesymau ym mharagraff (2) yn gymwys, caiff y person penodedig rwystro unrhyw berson rhag—
(a)rhoi tystiolaeth;
(b)croesholi person sy'n rhoi tystiolaeth; neu
(c)gyflwyno unrhyw fater.
(2) Y rhesymau yw—
(a)na ddarparwyd y dystiolaeth neu'r mater o fewn y terfynau amser perthnasol;
(b)nad oedd y mater, rywfodd arall, wedi ei darparu yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn neu'n unol ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd neu ofyniad a wnaed gan y person penodedig o dan y rheoliadau hyn;
(c)bod y dystiolaeth neu'r mater yn amherthnasol neu'n ailadroddus; neu
(ch)bod y person yn ymddwyn, neu wedi ymddwyn, yn aflonyddgar yn y gwrandawiad neu ymchwiliad.
(3) Heb leihau effaith y pwerau ym mharagraff (1), os bydd unrhyw berson yn ymddwyn yn aflonyddgar yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, caiff y person penodedig—
(a)wneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n ymadael;
(b)atal y person hwnnw rhag cymryd rhan yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad; neu
(c)caniatáu i'r person hwnnw aros, neu gymryd rhan, yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, ond ar amodau penodedig yn unig.
(4) Pan fo'r person penodedig yn gwrthod caniatáu, o dan baragraff (3), i berson roi tystiolaeth ar lafar, caiff y person hwnnw gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall mewn ysgrifen i'r person penodedig cyn cau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad (ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (1)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: