- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau) yn gymwys, gyda'r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), i unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn, fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau o dan yr adran honno.
(2) Yr addasiadau yw—
(a)rhaid darllen y cyfeiriad at “the person appointed to hold the inquiry” fel pe bai'n gyfeiriad at y person penodedig;
(b)rhaid darllen y cyfeiriad at “local authority” yn is-baragraff (b) ar is-adran (2) fel pe bai'n gyfeiriad at yr Awdurdod Trwyddedu;
(c)rhaid darllen y cyfeiriad at “such local authority” yn is-adran (4) fel pe bai'n gyfeiriad at yr Awdurdod Trwyddedu;
(ch)rhaid darllen y cyfeiriadau at “the Minister causing an inquiry to be held” fel pe baent yn gyfeiriadau at y person penodedig.
(3) Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) (gorchmynion ynglŷn â chostau pan na chynhelir gwrandawiad nac ymchwiliad) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (3), rhaid i gostau gwrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan Weinidogion Cymru.
1972 p.70. Diwygiwyd adan 250 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adrannau 37, 38 a 46, gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), adran 49(2) ac Atodlen 12 a chan Ddeddf Cyfraith Statudau (Diddymiadau) 1989 (p.43).
1990 p.8. Mewnosodwyd adran 322A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 30(1), a mewnosodwyd is-adran (1A) o'r adran honno gan Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29), adran 196(4) ac Atodlen 10, paragraffau 1 ac 11.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: