Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Myfyrwyr rhan-amser cymwys

93.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd o'r myfyriwr â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais y person hwnnw am gymorth o dan reoliad 109, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd i A mewn perthynas ag ymgymryd ohono â'r cwrs rhan-amser dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy'i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw A yn garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar neu'n cael ei ryddhau o'r carchar.

(5At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, oni fydd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

(c)ni fydd paragraff (3)(c) yn gymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (8)(a) neu (b).

(8Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod—

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu;

(b)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio'r cwrs rhan-amser presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

(ii)statws y person fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu.

(9Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(10Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)y cyfnod y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(12Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 97(1)(b), rheoliad 98 neu reoliadau 99 i 108 os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano.

(13Yn ddarostyngedig i baragraffau (14) a (15), mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

(a)o dan reoliad 97(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu

(b)o dan reoliadau 97(1)(b), 98 neu 99 i 108 os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.

(14Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97, 98 neu 99 i 108 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser, oni fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(15Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl bellach i gael cymorth o dan reoliadau 97, 98 neu 99 i 108 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(16Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 97 neu reoliadau 99 i 108 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (17).

(17Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(18Yn ddarostyngedig i baragraffau (19) ac (20), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 97 neu reoliadau 99 i 108 os oes gan y myfyriwr radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(19At ddibenion paragraff (18), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw'n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)os yw'r myfyriwr hwnnw'n ymgymryd â'r cwrs rhan-amser presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw'r myfyriwr hwnnw yn parhau'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu'r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(20Nid yw paragraff (18) yn rhwystro myfyriwr rhan-amser cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan reoliad 97 neu reoliadau 99 i 108—

(a)os yw'r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

(b)os yw'r cwrs yn parhau am ddim mwy na phedair blynedd; ac

(c)os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(21Ni chaiff fyfyriwr rhan-amser cymwys yr hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a)ar gyfer mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(d)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

94.—(1Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(2Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, gall myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfan neu ran o'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(3Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl (neu'r ddau) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, nac ychwaith grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r UE;

(e)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau rhan-amser dynodedig

95.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 93—

(a)os yw'n gwrs a restrir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

(b)os yw'n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(c)os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol;

(d)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad o'r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(e)nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 5; ac

(f)nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 78.

(2Nid yw cwrs sy'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.

(4At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, pa un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).

(5At ddibenion paragraff (1)(c)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—

(i)os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr llawnamser safonol i gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;

(ii)os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)“myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—

(i)ei fod wedi dechrau cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi ei esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o'r cwrs llawnamser cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(6At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 93(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

96.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig oni ddaw'r statws hwnnw i ben yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 93.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw'r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 93, mae'r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn)—

(a)yn tynnu'n ôl o gwrs rhan-amser dynodedig A o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu drosi, neu ni fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws A o dan reoliad 112 neu 113; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr rhan-amser cymwys, yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd, gwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c) hyd yn oed pe bai'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dwysáu ei astudio.

(6Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn), ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy'i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(7Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rhan hon;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 118.

(8Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—

(a)cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a

(b)ac eithrio o dan baragraff (5),

caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau rhan-amser (grant at ffioedd, a grant at lyfrau, teithio a gwariant arall)

97.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i)swm y grant ffioedd sylfaenol (a gyfrifir yn unol â'r paragraffau canlynol), neu

(ii)y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.

(2Mae'r grant ffioedd sylfaenol yn amrywio yn ôl dwysedd yr astudio.

  • Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:

    ac y mae—

    • PT yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i'w dyfarnu i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau'n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 109; ac

    • FT yn dynodi—

      (a)

      os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;

      (b)

      os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai'n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs hwnnw.

(3At ddibenion paragraff (2)—

(a)mae “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) i'w dehongli'n unol â rheoliad 95; a

(b)mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i'w gyfrifo'n unol â rheoliad 95.

(4Y “grant ffioedd sylfaenol” (“basic fee grant”) yw—

(a)£690, os yw'r dwysedd astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);

(b)£820, os yw'r dwysedd astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);

(c)£1,025, os yw'r dwysedd astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 112(6), mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth ar ddyddiad ei gais—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i gael lwfans o dan drefniant a elwir y Fargen Newydd; neu

(iii)o dan Ran I o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i gael lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm;

(iv)“mae” uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

(b)os yw'r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

(c)os yw'r incwm perthnasol yn £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);

(d)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy, a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);

(e)os yw'r incwm perthnasol yn £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;

(f)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);

(g)os yw'r incwm perthnasol yn £26,095 neu'n fwy ond yn llai na £28,180, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(h)os yw'r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;

(i)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).

(6Os yw paragraff (5)(d) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol—

(a)£50 plws £1 arall am bob £14.52, £11.90 neu £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu

(b)os yw'r grant ffioedd sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant ffioedd sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, a phan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;

(h)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(i)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, llai—

(i)£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)£2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner; a

(iii)£1,000 mewn perthynas â phob un plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner.

(9Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, rhaid iddynt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy'n bartner i'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ar y dyddiad gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.

(11Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl

98.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo, mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig, oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant y mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys i'w gael o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£15,885 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,338 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — cyffredinol

99.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—

(a)nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 93 neu reoliad 96; a

(b)bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.

100.—(1Mae'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion wedi eu ffurfio o'r elfennau canlynol—

(a)grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant rhan-amser ar gyfer gofal plant;

(c)lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen yn rheoliadau 101 i 108 a phenderfynir ar y symiau sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yn unol â'r rheoliadau hynny.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliadau 106 a 107.

Grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed

101.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gwrs rhan-amser dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i'r myfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr rhan-amser cymwys a hwnnw'n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.

(3Bydd swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 104 a 106 i 108, a'r swm sylfaenol yw—

(a)£2,732; neu

(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,732 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grant rhan-amser ar gyfer gofal plant

102.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn tynnu costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi, a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(2) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(3).

(4Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr rhan-amser cymwys i'w bartner.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rheoliad 104 a rheoliadau 106 i 108, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y tynnir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i'r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy'n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.

Lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni

103.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig i gael y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 104 a 106 i 108, a'r swm sylfaenol yw £1,557.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — y cyfrifiadau cychwynnol

104.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliadau 106 i 108, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 101;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 102; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 103.

(2Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (8)—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,159 pan nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;

    (b)

    £3,473 pan nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,632—

    (i)

    pan nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

    (ii)

    pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo un plentyn dibynnol;

    (d)

    £5,797 pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (13), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

(4Os yw (A − B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael neu'n fwy na'r cyfanswm hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(5Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(6Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(7Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu'n fwy na hynny ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.

(8Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 94(4)(a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i).

(9Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;

(c)a yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel rhiant unigol.

(10Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(11Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans hwnnw am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —

(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(d), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(13Caniateir gwneud didyniad yn unol â rheoliadau 106 a 107 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — dehongli

105.—(1Yn rheoliadau 99 i 104—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr rhan-amser cymwys ac eithrio plentyn y myfyriwr rhan-amser cymwys, partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gynbartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw, ym mhob achos, yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(f)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol;

(g)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

(h)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) a pharagraffau (2) a (3), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'r person yn briod i'r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'r person yn bartner sifil i'r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(i)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (h) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(j)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;

(k)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.

(2At ddibenion rheoliad 102—

(a)nid yw paragraff (1)(i) yn gymwys; a

(b)mae person i'w drin fel partner pe byddai'r person yn bartner o dan baragraff (1)(h) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person yn byw gydag ef yn arferol yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.

(3At ddibenion penderfynu a yw person yn gynbartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr “partner” (“partner”), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw—

(a)priod i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

(c)pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn briod i B;

(d)pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn bartner sifil i B.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(a)yn ddibynnol—

(i)ar y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; neu

(ii)ar bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; ond

(b)yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff (4), os yw A—

(a)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(b)yn gynbartner i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(5);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(6);

(f)unrhyw daliad i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989;

(g)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(7); ac

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(8).

(7Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o'r blaen gan y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, incwm net partner y myfyriwr rhan-amser cymwys yw'r incwm net sydd wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2) a'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn briodol, pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi ei hysgwyddo'n rhesymol yn eu barn hwy.

(8At ddibenion paragraff (6), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn dibynnol.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — cyfrifo'r cyfraniad

106.—(1Cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd a'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r flwyddyn honno yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 6, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr rhan-amser cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion —cymhwyso'r cyfraniad

107.—(1Mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 6 i'w gymhwyso hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu yn erbyn swm yr elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng PTADG;

(b)yn ail, i ostwng PTCCG;

(c)yn drydydd, i ostwng PTPLA.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)PTADG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 104;

(b)PTCCG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 104;

(c)PTPLA yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 104 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — y cyfrifiad terfynol

108.—(1Penderfynir y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r swm sy'n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.

  • Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:

    ac y mae i

    • PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 97(2) a (3).

(3Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw'r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio i hynny.

(4At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 104 a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso'n unol â rheoliad 107.

(5Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw'r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio i hynny.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 104 a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso'n unol â rheoliad 107.

(7Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw'r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio i hynny.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 104 a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso'n unol â rheoliad 107.

(9Nid oes unrhyw elfen o'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy pan fo'r dwysedd astudio yn llai na 50 y cant.

Ceisiadau am gymorth

109.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.

(2Rhaid i'r canlynol fynd gyda'r cais—

(a)datganiad o dan reoliad 111(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a

(b)y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)os yw un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 94(4) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd.

(b)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(c)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Cymorth at ffioedd o ran presenoldeb ar gwrs yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban

110.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan y Rhan hon i gynorthwyo at ffioedd i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.

(2Rhaid i'r cymorth a delir o dan baragraff (1) beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o—

(a)mwyafswm y cymorth a fyddai wedi bod yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys o dan reoliad 97(1)(a) pe bai'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru; a

(b)mwyafswm y cymorth i gynorthwyo at ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy i'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru yn ôl pa un a yw'n bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban—

(i)yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf 1998 pe bai'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn preswylio fel arfer yn Lloegr ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yn Lloegr;

(ii)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 a 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth Myfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 pe bai'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngogledd Iwerddon ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yng Ngogledd Iwerddon; neu

(iii)o gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch yr Alban(9) pe bai'r myfyriwr rhan-amser cymwys fel arfer yn preswylio yn yr Alban ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yn yr Alban.

Gwybodaeth a materion eraill

111.—(1Mae Atodlen 3 yn gymwys o ran rhoi gwybodaeth, gan geisydd a chan fyfyriwr rhan-amser cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, lenwi datganiad yn y ffurf honno y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fynd gyda'r cais am gymorth o dan reoliad 109.

(3Nid yw'n ofynnol bod awdurdod academaidd yn llenwi datganiad os na all roi'r cadarnhad sydd yn ofynnol gan is-baragraffau 4(a)(ii) neu 4(b)(ii).

(4Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o'r cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon;

(b)dwyster yr astudio;

(c)nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn—

(i)mai cwrs rhan-amser dynodedig yw'r cwrs;

(ii)y bydd yn bosibl i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c).

(6At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—

(a)unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c);

(b)unrhyw rannau o'r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i'r ceisydd eu hailadrodd.

(7Rhaid i awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol pan fydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd—

(a)bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig, neu'n rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn hawlio cymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon, a bod yr awdurdod academaidd wedi penderfynu neu gytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno;

(b)y newidir, neu y digwydd newidiadau i unrhyw ran o'r wybodaeth am y cwrs a gyflwynwyd yn rhan o ddatganiad o dan baragraffau (2) i (6).

(8Pan fydd awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (7), rhaid i'r awdurdod academaidd hefyd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth bellach sy'n ofynnol ganddynt mewn perthynas â'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (7).

(9At ddibenion paragraff (8), ystyr “digwyddiad perthnasol” (“relevant event”) yw digwyddiad neu ddigwyddiadau o dan baragraff (7) sy'n ffurfio testun yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (7).

Trosglwyddo statws

112.—(1Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo o gwrs rhan-amser dynodedig i gwrs rhan-amser dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn yr un sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth o dan y Rhan hon y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho, ond cyn i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 97(1)(b), rheoliad 98 neu reoliadau 99 i 108 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 97(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs sydd â'r dwysedd astudio uchaf fel y'i diffinnir yn rheoliad 97.

Trosi statws

113.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Os yw'r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 95(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho.

(3Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 29 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 98 mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno;

(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 29 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 98 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 29, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim;

(d)os oedd y myfyriwr hwnnw yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi ei gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw;

(e)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant neu lwfans i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 31 i 34 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(f)mae uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw, heblaw am y rheoliad hwn, hawlogaeth i'w gael yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno; ac

(g)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 31 i 34 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu'r lwfans sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 99 i 108 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (f) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu'r lwfans cyfatebol a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 31 i 34, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(4Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(6Os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 95(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(8Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â'r Rhan hon.

(9O ran myfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 11 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 97(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 80(1)(b);

(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 98 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 83.

(10Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliad 80(1)(a) a 97(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 80(1)(a).

(11Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno.

(12Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(13Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (12)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 98 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr cymwys;

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (c) ac (f), anwybyddir unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo ynddi wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o unrhyw grant neu lwfans i'r myfyriwr yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o ran cyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr cymwys;

(d)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw'n fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(e)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 98 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 29 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 98 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(f)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i'r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliadau 99 i 108 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu'r lwfans cyfatebol sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 31 i 34 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu'r lwfans a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 99 i 108, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(14Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(15Yn ddarostyngedig i baragraff (16), mae gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (14) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(16Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â Rhan 11.

(17O ran myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (14) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i'r myfyriwr hwnnw mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 80(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 97(1)(b);

(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 98.

(18Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (14), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 80(1)(a) a 97(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm uchaf y cymorth a benderfynir sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 97(1)(a).

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys

114.—(1Caniateir i daliadau o'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(2Os na fydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, cânt wneud asesiad dros dro a thalu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl ar yr adegau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant at lyfrau, teithio neu wariant arall na'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl o dan reoliad 98 cyn iddynt gael y datganiad o dan reoliad 111(2) i (6) oni bai bod eithriad yn unol â pharagraff (6) yn gymwys.

(6At ddibenion paragraff (5), mae eithriad yn gymwys—

(a)os yw grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl o dan reoliad 98 yn daladwy, ac os felly, caniateir i'r grant penodol hwnnw gael ei dalu cyn i'r datganiad ddod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddynt wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

115.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y tybiant yn briodol.

(2Mae'n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o'r cyfryw grant i fyfyriwr rhan-amser cymwys cyn iddynt gael cadarnhad o bresenoldeb onid yw'r eithriad ym mharagraff (4) yn gymwys.

(4Mae'r eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, gwneud taliad er eu bod heb gael cadarnhad o bresenoldeb.

(5Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr rhan-amser cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad dros dro a thaliad dros dro o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion.

(6Mae taliadau grant dros dro ar gyfer dibynyddion i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(7Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(8Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm pob grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr hwnnw yn gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a

(b)faint o'r cyfanswm sy'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(9Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(10Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben a bod y taliad hwnnw'n fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu

(b)os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r grant rhan-amser hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(11Os oes taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion sy'n daladwy yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol penderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol hwnnw.

(12Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod absenoldeb.

(13Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.

(14Ni ddylid ystyried bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(15Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad cymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion, yn penderfynu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael yw'r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar yr adegau yr ystyriant yn briodol;

(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael yw'r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei ddidynnu o unrhyw elfen arall o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(d)ceir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 118.

Dehongli rheoliad 115

116.  Yn rheoliad 115—

(a)ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—

(i)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa)pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais am un neu ragor o elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion (“cymorth rhan-amser” yn y rheoliad hwn) mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan fo gan y myfyriwr rhan-amser cymwys anabledd; ac

(cc)pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â'r cwrs ond nad yw'n bresennol ar y cwrs (pa un a yw'r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â'i anabledd ai peidio);

(ii)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu'r cwrs—

(aa)pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth rhan-amser mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig o gwrs arall yn yr un sefydliad; ac

(cc)nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;

(iii)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais am gymorth rhan-amser mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(aa)a hynny am dro heblaw'r tro cyntaf; neu

(bb)am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;

(b)ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu cymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliadau 99 i 108 neu y byddent wedi talu'r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

117.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais mewn ysgrifen am daliad ddod i law, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) yr ystyriant yn briodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion yr ystyriant yn briodol.

Gordaliadau

118.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol gwneud hynny.

(4Dyma'r dulliau adennill—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr rhan-amser cymwys o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn tynnu allan o'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(7Yn y naill neu'r llall o'r amgylchiadau ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyriwr rhan-amser anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw'r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(9Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr yn cael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(10Pan fo gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

(1)

1992 p.13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 27.

(2)

1996 p.56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140, paragraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31, Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 56, Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 59 ac Atodlen 2 ac O.S. 2010/1158.

(3)

2002 p.21, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

1992 p.4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

1989 p.41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49 (3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7.

(7)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(8)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

Sefydlwyd y corff hwn o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch (yr Alban) 2005 (dsa 6).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources