Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

119.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo, mewn perthynas ag ymgymryd ohono â chwrs ôl-radd dynodedig.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi ei hepgor gan baragraff (4).

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 124, wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i'r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

(a)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â'r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan sefydliad A sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

(c)y bydd paragraff (4)(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod odano.

(8Ac eithrio pan fo'r amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 126(3)(c)(ii) yn gymwys, fel bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â rhan o'i gwrs dramor, nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) ac er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4) mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10)(a) neu (b).

(10Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—

(a)bod—

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

(b)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen bod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio'r cwrs ôl-radd presennol;

(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu statws ffoadur ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef bod y myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(14Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(d)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

120.—(1Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn un o'i dinasyddion yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(g)y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

121.—(1Mae cwrs ôl-radd yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 119—

(a)os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw'n gwrs—

(i)sy'n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau'r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad o'r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(d)nad yw'n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu'n gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, pa un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2).

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw'r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau'r cwrs llawnamser cyfatebol.

(c)ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi ei esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs llawnamser cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(4At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 119, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

122.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 119.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 119, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 123; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(6Pan fo'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy'n gwrs rhan-amser, mae'r cyfnod cymhwystra'n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â'n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 121(1)(b)(ii).

(7Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 128.

(8Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

123.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawlogaeth i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, gweddill y cymorth o dan y Rhan hon, y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo ohono.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth ar ôl y trosglwyddo, yn unol â'r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1), ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

124.—(1Rhaid i berson wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd—

(a)pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b)os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c)sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

125.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â rhoi gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

Swm y grant

126.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y grant sy'n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan y Rhan hon yw'r cyfryw swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys”—

(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c)gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu'r Athrofa.

Talu'r grant

127.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

128.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol i wneud hynny.

(3Dyma'r dulliau ar gyfer adennill—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(4Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6Yn y naill neu'r llall o'r amgylchiadau ym mharagraffau (7) a (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(7Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b)pan fo cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)pan nad yw'r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

(a)pan fo cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a

(b)pan wneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(9Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

(2)

1992 p.13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources