Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 3207 (Cy. 317)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

18 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym

12 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd(3) a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt(4), fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiadau i offeryn yr UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) a 3(2)(b) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2014.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

2.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(6) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 183/2005” rhodder y diffiniad a ganlyn—

“ystyr “Rheoliad 183/2005” (“Regulation 183/2005”) yw Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 12 Ionawr 2005 sy’n gosod gofynion o ran hylendid bwyd anifeiliaid(7);”.

(3Ar ôl paragraff (4) o reoliad 2, ychwaneger y paragraff a ganlyn —

(5) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Reoliad 183/2005 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd..

(4Yn lle rheoliad 4 (awdurdodau cymwys) rhodder y rheoliad a ganlyn —

4.(1) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau Rheoliad 183/2005 yw —

(a)mewn cysylltiad ag Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a’r awdurdod gorfodi;

(b)mewn cysylltiad ag Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi; ac

(c)mewn cysylltiad ag Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.

(2) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion yr adran sy’n dwyn y pennawd “Monitro Diocsinau” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005 yw —

(a)mewn cysylltiad â pharagraff 2(e), yr awdurdod gorfodi; a

(b)mewn cysylltiad â pharagraff 7, yr awdurdod gorfodi a’r Asiantaeth..

(5Yn lle cynnwys Atodlen 2 (ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau) rhodder cynnwys Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010

3.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010(8) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas) —

(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o Rheoliad 242/2010; a

(b)yn lle paragraff (3) rhodder y paragraff a ganlyn —

(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd..

(3Yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (gorfodi gofynion Rheoliad 767/2009), rhodder y paragraff a ganlyn —

4.(1) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson —

(a)sy’n mynd yn groes i ddarpariaethau Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu’n methu â chydymffurfio â hwy; neu

(b)sy’n gosod ar y farchnad neu sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8, yn euog o dramgwydd..

(4Yn lle cynnwys Atodlen 1 (darpariaethau penodedig Rheoliad 767/2009) rhodder cynnwys Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Rhagfyr 2013

Rheoliad 2(5)

ATODLEN 1

ATODLEN 2FFIOEDD SY’N DALADWY AM GYMERADWYAETHAU

Gweithgaredd y mae’n ofynnol i’r sefydliad gael cymeradwyaeth ar ei gyfer

Ffi (£)

Gweithgynhyrchu’n unig sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005, neu eu gweithgynhyrchu a’u gosod ar y farchnad ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny a bennir yn rheoliad 2(3), neu rag-gymysgeddau o’r cyfryw ychwanegion451.00
Gosod ar y farchnad sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005 ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny a bennir yn rheoliad 2(3), neu rag-gymysgeddau o’r cyfryw ychwanegion226.00
Unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym Mhwynt 10 o’r Adran sy’n dwyn y pennawd “Cyfleusterau ac Offer” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005451.00

Rheoliad 3(4)

ATODLEN 2

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1Darpariaethau Penodedig Rheoliad 767/2009

Y ddarpariaeth benodedig

Y pwnc

Erthygl 4(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 4(3) ac Atodiad IGofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill sydd i’w bodloni pan osodir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan ddefnyddir ef
Erthygl 5(1)Estyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall i fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
Erthygl 5(2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)Rhwymedigaeth ar berson sy’n gyfrifol am labelu i roi gwybodaeth ar gael i’r awdurdod cymwys
Erthygl 9Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol
Erthygl 11, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiadau II a IV a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaidRheolau ac egwyddorion sy’n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd
Erthygl 12(4) a (5)Dyletswydd ar weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid i weithredu â phob gofal dyladwy er mwyn helpu i sicrhau cydymffurfedd â gofynion labelu ac i sicrhau bod manylion labelu gorfodol yn cael eu trosglwyddo drwy’r gadwyn fwyd ar ei hyd.
Erthygl 13(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)Amodau cyffredinol ar honiadau ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno
Erthygl 13(2) a (3), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)Amodau arbennig sy’n gymwys i honiadau ynghylch gwneud yr eithaf o’r maethiad ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol
Erthygl 14(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)Y gofynion ar gyfer cyflwyno’r manylion labelu gorfodol
Erthygl 15, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiad VI a VII ac Erthygl 21Gofynion labelu gorfodol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd
Erthygl 16, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21, Atodiad II a V a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaidGofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid
Erthygl 17(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 ac Atodiad II, VI a VIIGofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd
Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol (bwydydd anifeiliaid dietegol)
Erthygl 19, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes
Erthygl 20(1), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac Atodiad VIIIGofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys deunyddiau a halogwyd
Erthygl 23Gofynion sy’n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd sydd i’w rhoi ar y farchnad
Erthygl 24(5)Gofyniad os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog
Erthygl 24(6)Rhwymedigaeth ar berson sy’n gosod ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi’i restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid i roi hysbysiad o’i ddefnyddio
Erthygl 25(4)Gofyniad os dangosir y Codau Cymunedol ar arfer labelu da ar labelu, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Codau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1.  Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 225/2012 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymeradwyo sefydliadau sy’n gosod ar y farchnad, at ddefnydd bwyd anifeiliaid, gynnyrch sy’n deillio o olewau llysiau a brasterau cyfunol ac o ran y gofynion penodol ar gyfer cynhyrchu, storio, cludo a phrofi diocsinau olewau, brasterau a chynnyrch sy’n deillio ohonynt (OJ Rhif L77, 16.3.2012, t.1) (“Rheoliad 225/2012”).

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265)) drwy —

(a)ailddatgan y diffiniad o Reoliad (EC) Rhif 183/2005 er mwyn iddo, yn rhinwedd adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978, gynnwys y diwygiadau a wnaed gan Reoliad 225/2012 (rheoliad 2(2));

(b)darparu bod unrhyw gyfeiriad yn O.S. 2005/3280 at Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (rheoliad 2(3));

(c)dynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion gorfodi darpariaethau penodol Rheoliad 225/2012 (rheoliad 2(4)); a

(d)darparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau sefydliadau penodedig (rheoliad 2(5) ac Atodlen 1).

3.   Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652 (Cy.220)) drwy 

(a)dileu’r cyfeiriadau at un o offerynnau’r UE sydd wedi ei ddiddymu (rheoliad 3(2)); a

(b)gwneud yn fwy eglur eiriad y darpariaethau gorfodi sy’n ymwneud â Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’r defnydd ohono (OJ Rhif L229, 1.9.2009, t.1) (rheoliad 3(3) a (4) ac Atodlen 2).

4.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’’n ddarostyngedig I’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 225/2012 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymeradwyo sefydliadau sy’n gosod ar y farchnad, at ddefnydd bwyd anifeiliaid, gynnyrch sy’n deillio o olewau llysiau a brasterau cyfunol ac o ran y gofynion penodol ar gyfer cynhyrchu, storio, cludo a phrofi diocsinau olewau, brasterau a chynnyrch sy’n deillio ohonynt (OJ Rhif L77, 16.3.2012, p.1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources