- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gwnaed
26 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mawrth 2013
Yn dod i rym
1 Ebrill 2013
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1).
Fel sy'n ofynnol gan adran 34(5) o'r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â'r personau sydd yn eu barn hwy yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
2. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(2) (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) wedi ei nodi) wedi ei diwygio yn unol ag erthyglau 3 a 4.
3. Ym Mhennod 1 o Ran 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol), yn rheol 3(1) (cyfraniadau pensiwn) (3) mewnosoder “ganrannol” ar ôl “cyfradd”.
4. Yn lle'r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—
“Tâl pensiynadwy | Y gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2013 ymlaen |
---|---|
Hyd at a chan gynnwys £15,000 | 8.5% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,000 | 9.1% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000 | 9.6% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000 | 9.9% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000 | 10.1% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000 | 10.2% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000 | 10.5% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000 | 10.8% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £120,000 | 11.1% o'r tâl pensiynadwy.” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) sydd wedi ei nodi yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy.110)), i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2013 ymlaen.
Mae erthygl 3 yn mewnosod y gair “ganrannol” er mwyn egluro ystyr darpariaeth a ddiwygiwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/972 (Cy.127)).
Mae erthygl 4 yn diwygio'r Cynllun er mwyn darparu ar gyfer cyfradd wahanol o gyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau'r Cynllun sy'n cynyddu yn ôl swm y tâl pensiynadwy y mae'r aelod yn ei dderbyn.
Yn ychwanegol, mae band newydd o dâl pensiynadwy wedi ei greu fel y bydd y diffoddwyr tân hynny sy'n ennill mwy na £15,000 a hyd at £21,000, a chan gynnwys y swm hwnnw, yn talu cyfradd is na'r rheini sy'n ennill mwy na £21,000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a'r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8254.
2004 p.21; diwygiwyd adrannau 60 a 62 gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, adrannau 9 a 10. Mae'r pwerau o dan adrannau 34 a 60 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio'n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.
O.S. 2007/1072 (Cy.110) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/1225 (Cy.108), 2010/234 a 2012/972 (Cy.127).
Diwygiwyd rheol 3(1) gan erthyglau 2 a 3 o O.S. 2012/972 (Cy.127).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: