- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gwnaed
4 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Mawrth 2014
Yn dod i rym
1 Ebrill 2014
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.
2. Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(3) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae’n cael effaith yng Nghymru, wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn.
3. Yn lle’r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 rhodder y Tabl canlynol—
“Pensionable Pay | Contribution rate from 1 April 2014 |
---|---|
Up to and including £15,000 | 11.0% |
More than £15,000 and up to and including £21,000 | 12.2% |
More than £21,000 and up to and including £30,000 | 14.2% |
More than £30,000 and up to and including £40,000 | 14.7% |
More than £40,000 and up to and including £50,000 | 15.2% |
More than £50,000 and up to and including £60,000 | 15.5% |
More than £60,000 and up to and including £100,000 | 16.0% |
More than £100,000 and up to and including £120,000 | 16.5% |
More than £120,000 | 17.0%.” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru.
Mae’r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol o gyfraniadau pensiwn sy’n daladwy gan aelodau’r Cynllun sy’n cynyddu yn ôl swm y cyflog pensiynadwy y mae’r aelod yn ei dderbyn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau yn y Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 i’r Cynllun.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.
1947 p.41. Diddymwyd adran 26 gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith, o ran Cymru, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel “the Firemen’s Pension Scheme” ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257)). Drwy erthygl 4 o’r offeryn hwnnw newidiwyd enw’r Cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd y swyddogaethau wedi hynny i Weinidogion Cymru.
O.S. 1992/129; diwygiwyd gan 1997/2309 a 2851, 1998/1010, 2001/3649 a 3691, 2004/1912 a 2918 (Cy.257), 2006/1672 (Cy.160), 2007/1074 (Cy.112), 2009/1226 (Cy.109), 2010/234 a 2012/974 (Cy.128), a 2013/736 (Cy.88) .
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: