- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid a adnabuwyd o dan y Gorchmynion blaenorol â modd adnabod nad yw’n cynnwys rhif unigryw.
(2) Os yw—
(a)y modd adnabod yn mynd ar goll neu’n annarllenadwy; neu
(b)yr anifail yn cael ei symud o ddaliad;
rhaid i’r anifail gael ei ailadnabod yn unol â pharagraffau (3) neu (4).
(3) Os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad ailadnabod yr anifail ag—
(a)modd adnabod newydd;
(b)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu
(c)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.
(4) Os nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad ailadnabod yr anifail gydag—
(a)modd adnabod newydd;
(b)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu
(c)y modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1)(y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.
(5) Os caiff anifail ei ailadnabod â’r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd adnabod amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod amnewid a chofnodi’r llythrennau neu nod diadell neu nod geifre sydd ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.
(6) Os ailadnabyddir anifail yn unol â pharagraffau (3) neu (4) rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod newydd fod fel a ganlyn—
(a)y llythrennau “UK”; a
(b)rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: