Search Legislation

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1992 (Cy. 302)

Anifeiliaid, Cymru

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015

Gwnaed

8 Rhagfyr 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Rhagfyr 2015

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2016 ac eithrio Rhan 8 a ddaw i rym ar 18 Ionawr 2016.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

Ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “allforio” (“export”) yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;

ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail o’r rhywogaethau defeidiog neu afraidd;

ystyr “annarllenadwy” (“illegible”), mewn perthynas â dyfais adnabod electronig, yw annarllenadwy naill ai’n electronig neu’n weledol;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre a ddefnyddir fel derbynfa dros dro ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw’n cynnwys marchnad neu le arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthu neu farchnata anifeiliaid onid oes bwriad i gigydda’r holl anifeiliaid sydd yno ar unwaith);

ystyr “canolfan grynhoi” (“assembly centre”) yw unrhyw ddaliad lle mae defaid neu eifr sy’n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu dwyn ynghyd i ffurfio llwythi o anifeiliaid y bwriedir eu hallforio, neu unrhyw ddaliad a ddefnyddir yng nghwrs allforio;

mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “cod adnabod” (“identification code”) yw’r cod a nodir ar fodd adnabod yn unol â’r gofynion o dan y Gorchymyn hwn neu o dan y Gorchmynion blaenorol;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr sy’n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid(2);

mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw’r ddogfen symud sy’n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “dull adnabod” (“method of identification”) yw tag clust, tag egwyd neu datŵ a osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd wlad;

ystyr “dyfais adnabod” (“identification device”) yw tag clust, tag clust electronig, tag egwyd, tag egwyd electronig neu folws;

ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw—

(a)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009(3);

(b)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008(4);

(c)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(5);

(d)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(6);

(e)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(7);

(f)

Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(8);

(g)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2009(9);

(h)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2007(10);

(i)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005(11);

(j)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) 2002(12);

(k)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(13);

(l)

Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(14);

(m)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2009(15);

(n)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005(16);

(o)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(17);

(p)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(18);

(q)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Yr Alban) 2009(19);

(r)

Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod ac Olrheinadwyedd) (Yr Alban) 2006(20);

(s)

Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(21);

(t)

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000(22);

ystyr “gweithredwr lladd-dy” (“slaughterhouse operator”) yw person sy’n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o’r fath a awdurdodwyd yn briodol;

ystyr “gweithredwr marchnad” (“market operator”) yw person sy’n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o’r fath a awdurdodwyd yn briodol;

ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw dull adnabod a osodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd adnabod hŷn;

ystyr “marchnad” (“market”) yw marchnadfa, iard arwerthu neu unrhyw fangre neu le arall y dygir anifeiliaid iddi neu iddo o unrhyw le arall i’w dangos ar gyfer eu gwerthu, ac mae’n cynnwys unrhyw le, gwalfa neu faes parcio cyfagos i farchnad, a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r farchnad;

ystyr “modd adnabod” (“means of identification”) yw dyfais adnabod neu datŵ;

ystyr “nod diadell” (“flockmark”) yw’r rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;

ystyr “pwynt cofnodi canolog” (“central point of recording”) yw daliad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran C.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor ar gyfer cofnodi manylion adnabod anifeiliaid sy’n cyrraedd y daliad hwnnw;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy’n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(23) fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

ystyr “rhif unigryw” (“unique number”) yw rhif sy’n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw’n cynnwys mwy na 6 digid.

(2Mae i ymadroddion nas diffinnir ym mharagraff (1) a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.

Awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Awdurdodiadau

4.  Rhaid i unrhyw awdurdodiadau neu gymeradwyaethau a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen, caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

RHAN 2Dyfeisiau adnabod

Cymeradwyo dyfeisiau adnabod

5.  Rhaid i ddyfeisiau adnabod a ddefnyddir i gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn fod o fodel a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

Tagiau ychwanegol a dyfeisiau adnabod sydd â gwybodaeth ychwanegol

6.—(1Ar gais ceidwad, caiff gweithgynhyrchydd dyfeisiau adnabod, yn ddarostyngedig i erthygl 6(2), ychwanegu gwybodaeth atodol at ddyfais adnabod neu ddyfais amnewid ar yr amod—

(a)bod yr wybodaeth atodol yn gwbl wahanol i’r cod adnabod; a

(b)bod y cod adnabod yn parhau’n ddarllenadwy ac y gellir ei weld yn eglur bob amser.

(2Caiff ceidwad osod tag ychwanegol ar anifail ond rhaid iddo beidio â chynnwys y llythrennau “UK” nac ychwaith ddwyn nod diadell neu nod geifre, onid awdurdodir hynny gan Weinidogion Cymru.

Lliw dyfeisiau adnabod

7.—(1Rhaid i bob dyfais adnabod, heblaw dyfeisiau amnewid a bolysau, fod yn felyn ac ni chaiff ceidwad osod dyfais adnabod felyn nad yw’n electronig.

(2Ni chaiff neb osod dyfais adnabod goch ar unrhyw anifail, heblaw dyfais adnabod amnewid.

(3Pan fo ceidwad yn ailadnabod anifail ac nad yw’r anifail hwnnw ar ei ddaliad genedigol, neu pan nad yw’r ceidwad yn gwybod y daliad genedigol, rhaid iddo ddefnyddio dyfais adnabod amnewid goch ond nid yw’r gofyniad bod rhaid defnyddio dyfais adnabod goch yn gymwys i ddefnyddio bolysau.

(4Pan adwaenir anifail drwy gyfrwng bolws ac ail ddyfais adnabod rhaid i’r ail ddyfais honno fod yn ddu ac ni chaniateir defnyddio dyfais adnabod ddu ac eithrio mewn cyfuniad â bolws.

(5Rhaid i’r arwyddnodau ar bob dyfais adnabod fod o liw gwahanol i gefndir y ddyfais a bod yn eglur a darllenadwy bob amser pan fo’r ddyfais ynghlwm wrth anifail.

(6Caniateir defnyddio mecanwaith o unrhyw liw i osod tagiau clust melyn, coch neu ddu.

Dinistrio dyfeisiau adnabod

8.—(1Rhaid i weithredwr lladd-dy, iard gelanedd, cynel helgwn neu safle rendro, ac unrhyw berson arall sy’n gwaredu’n derfynol garcas anifail a adnabuwyd, ddinistrio pob dyfais adnabod sydd ar yr anifeiliaid a gigyddir neu a waredir rywfodd arall ganddynt, mewn modd diogel a fydd yn atal ailddefnyddio’r dyfeisiau adnabod.

(2Mae dinistrio diogel yn cynnwys rendro unrhyw ddyfais adnabod.

RHAN 3Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r canlynol—

(a)anifeiliaid a anwyd cyn 1 Ionawr 2016 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol;

(b)defaid a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016; ac

(c)geifr a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig.

(2Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon, onid yw’r dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 10 wedi ei awdurdodi.

(3At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o’r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o’r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(4Ni chaniateir i anifail gael ei adnabod drwy ddefnyddio bolws mewn cyfuniad â thatŵ.

(5Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK” neu, ar ddyfais adnabod electronig, y rhifau “826”; a

(b)rhif 12 digid a bennir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.

Adnabod anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu cigydda

10.—(1Ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, a rhaid i’r dull adnabod hwnnw fod yn electronig yn achos defaid.

(2Rhaid i’r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn, sef y llythrennau “UK” ac wedyn nod y ddiadell neu nod yr eifre; ni chaniateir i unrhyw rif arall a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys gael ei gofnodi yn weledol ar y tag clust hwn.

(3Pan fwriedir cigydda ar ôl 12 mis oed neu allforio anifail a adnabuwyd o dan baragraff (1) rhaid i’r anifail hwnnw gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9 a rhaid tynnu’r tag clust gwreiddiol oddi arno.

(4Caiff ceidwad ailadnabod, o dan erthygl 9, unrhyw anifail a adnabuwyd o dan yr erthygl hon ac nid oes angen iddo gigydda’r anifail hwnnw cyn 12 mis oed ar yr amodau canlynol yn unig—

(a)os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol; neu

(b)os oes gan y ceidwad gofnod cyflawn o holl symudiadau’r anifail.

(5Pan ailadnabyddir anifail o dan baragraff (4)(b) rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

(6Caiff ceidwad ailadnabod gafr a adnabuwyd o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio tag clust o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n cynnwys dynodiad electronig.

Anifeiliaid a anwyd ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016

11.  Mae Rhan 3 o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009, yn y ffurf yr oedd yn bodoli ynddi yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn parhau’n gymwys i anifeiliaid a anwyd ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 ac eithrio, yn achos defaid y bwriedir eu cigydda cyn cyrraedd 12 mis oed, na fwriedir eu hallforio ac a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 gan ddefnyddio’r dull yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, y caniateir parhau i adnabod y defaid hynny yn unol â’r dull hwnnw tan 30 Mehefin 2017. Rhaid i’r anifail wedyn gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9, a rhaid tynnu’r tag clust anelectronig oddi arno.

RHAN 4Tynnu neu amnewid modd adnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Ran 3

Cymhwyso Rhan 4

12.  Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a adnabuwyd o dan Ran 3.

Tynnu neu amnewid modd adnabod

13.—(1Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.

(2Ond rhaid i geidwad amnewid modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 14 neu 15 yn ôl gofynion yr achos, cyn gynted â phosibl ar ôl canfod bod y modd adnabod gwreiddiol ar goll neu’n annarllenadwy, ond beth bynnag—

(a)dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl canfod bod y modd adnabod ar goll neu’n annarllenadwy, a

(b)cyn bo’r anifail yn cael ei symud o’r daliad.

(3Pan ddisodlir marc adnabod gan farc adnabod sy’n dwyn cod adnabod gwahanol, a’r hen god adnabod yn hysbys, rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

(4Mae’n amddiffyniad pan fo unrhyw berson, a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy, yn profi—

(a)bod y modd adnabod wedi ei dynnu i atal poen ddiangen i anifail; a

(b)bod modd adnabod amnewid sy’n dwyn yr un cod adnabod wedi ei osod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.

Amnewid modd adnabod anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11

14.—(1Pan fo anifail, a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11, yn colli un modd adnabod, neu pan fo’r modd adnabod hwnnw’n mynd yn annarllenadwy, mae’r modd adnabod yn cael ei amnewid yn unol â’r erthygl hon os disodlir ef gan un sy’n dwyn yr un rhif 12 digid, neu os tynnir ymaith y ddyfais adnabod sy’n weddill ac ailadnabyddir yr anifail yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.

(2Pan fo anifail, a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11, yn colli’r ddau fodd adnabod, neu’r ddau fodd adnabod yn mynd yn annarllenadwy, mae’r anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os ailadnabyddir yr anifail yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.

Amnewid modd adnabod a gollwyd neu sy’n annarllenadwy, ar gyfer anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11

15.—(1Pan fo anifail a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11 yn colli ei dag clust neu’r tag clust hwnnw’n mynd yn annarllenadwy a’r anifail ar ei ddaliad genedigol, mae’n cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os amnewidir y tag clust am un sy’n dwyn yr un nod diadell neu’r un nod geifre.

(2Pan fo anifail a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11 yn colli ei dag clust neu’r tag clust hwnnw’n mynd yn annarllenadwy ac nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol, neu os nad yw’r ceidwad yn gwybod a yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol ai peidio, mae’r anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os amnewidir y tag clust am dag clust coch sy’n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y daliad y mae’r anifail arno bellach.

RHAN 5Adnabod geifr a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016

Adnabod geifr

16.—(1Pan fo gafr ar ei daliad genedigol ac na chafodd ei hadnabod cyn 1 Ionawr 2016 rhaid i’r ceidwad, os nad yw’r afr wedi ei hadnabod yn unol â Rhan 3, ei hadnabod o fewn y terfynau amser a bennir yn erthygl 9(3), gyda naill ai—

(a)dau dag clust;

(b)tag clust a thag egwyd; neu

(c)tag clust a thatŵ.

(2Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK”; a

(b)rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf a’r ail fodd adnabod.

Ailadnabod geifr

17.  Caniateir i eifr a adnabuwyd yn unol ag erthygl 16 gael eu hailadnabod yn unol ag erthygl 9.

RHAN 6Tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016

Cymhwyso Rhan 6

18.  Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 ac i eifr a adnabuwyd yn unol ag erthygl 16.

Tynnu neu amnewid marciau adnabod

19.—(1Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.

(2Ond rhaid i geidwad amnewid marc adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy, yn unol ag erthygl 20, erthygl 21 neu erthygl 22 (pa erthygl bynnag sy’n gymwys) cyn gynted â phosibl ar ôl canfod bod y marc adnabod gwreiddiol ar goll neu’n annarllenadwy, ond beth bynnag—

(a)dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl canfod bod y marc adnabod ar goll neu’n annarllenadwy; a

(b)cyn bo’r anifail yn cael ei symud o’r daliad.

(3Pan ddisodlir marc adnabod gan farc adnabod sy’n dwyn cod adnabod gwahanol, ac nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol a’r hen god adnabod yn hysbys rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

(4Mae’n amddiffyniad pan fo unrhyw berson, a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy, yn profi—

(a)bod y marc adnabod wedi ei dynnu i atal poen ddiangen i anifail; a

(b)bod modd adnabod amnewid sy’n dwyn yr un cod adnabod wedi ei osod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.

(5Caiff ceidwad dynnu marciau adnabod ac ailadnabod yr anifail yn unol ag erthygl 9 ar unrhyw adeg.

Amnewid marc adnabod sengl ar anifail sydd â dau dag

20.  Mae anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os rhoddir, yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy—

(a)modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;

(b)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

(c)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

Amnewid marc adnabod sengl ar anifail sydd ag un tag

21.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r modd adnabod neu’r modd adnabod hŷn ar anifail sydd â ffurf adnabod sengl ar goll neu’n annarllenadwy.

(2Yn yr erthygl hon ystyr “anifail sydd â ffurf adnabod sengl” (“single-identified animal”) yw anifail a adnabuwyd ag un modd adnabod hŷn yn unig a hwnnw’n cynnwys rhif unigryw a osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol.

(3Pan fo ceidwad yn amnewid tag sydd ar goll neu’n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod amnewid fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.

(4Os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad osod yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy—

(a)modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;

(b)modd adnabod newydd;

(c)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

(d)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(5Os nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol, caiff y ceidwad osod yn lle’r modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy—

(a)modd adnabod sy’n dwyn yr un rhif unigryw â’r modd adnabod sydd ar goll neu sy’n annarllenadwy;

(b)modd adnabod amnewid;

(c)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

(d)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(6Os caiff anifail ei ailadnabod gyda modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) i (d) rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd adnabod amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod amnewid, a chofnodi’r llythrennau neu’r nod diadell neu’r nod geifre a oedd ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.

Ailadnabod anifeiliaid a adnabuwyd o dan y Gorchmynion blaenorol â modd adnabod nad yw’n cynnwys rhif unigryw

22.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid a adnabuwyd o dan y Gorchmynion blaenorol â modd adnabod nad yw’n cynnwys rhif unigryw.

(2Os yw—

(a)y modd adnabod yn mynd ar goll neu’n annarllenadwy; neu

(b)yr anifail yn cael ei symud o ddaliad;

rhaid i’r anifail gael ei ailadnabod yn unol â pharagraffau (3) neu (4).

(3Os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad ailadnabod yr anifail ag—

(a)modd adnabod newydd;

(b)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

(c)y modd adnabod a bennir yn Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(4Os nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i’r ceidwad ailadnabod yr anifail gydag—

(a)modd adnabod newydd;

(b)dau fodd adnabod anelectronig, ill dau yn dwyn yr un rhif; neu

(c)y modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1)(y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(5Os caiff anifail ei ailadnabod â’r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd adnabod amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod amnewid a chofnodi’r llythrennau neu nod diadell neu nod geifre sydd ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.

(6Os ailadnabyddir anifail yn unol â pharagraffau (3) neu (4) rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod newydd fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK”; a

(b)rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 7Cofrestri daliadau

Cofrestr y daliad

23.—(1Cyflawnir trosedd os yw ceidwad, ac eithrio cludwr, yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 5(1), (3) a (5) o Reoliad y Cyngor.

(2Pan symudir anifail i’w ddaliad neu ohono, rhaid i’r ceidwad gofnodi—

(a)yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Adran B o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor; a

(b)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.

(3Rhaid i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag anifeiliaid a symudir i ddaliad gael ei chofnodi gan y ceidwad gyda chofnod yn y gofrestr ond, fel dewis arall, caniateir i god adnabod unigol pob anifail gael ei gofnodi drwy gadw copi deublyg neu gopi ardystiedig o’r dogfennau symud yn nhrefn eu dyddiadau a chroesgyfeirio’r rheini â’r cofnodion symud perthnasol yng nghofrestr y daliad.

(4Rhaid i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag anifeiliaid a symudir o ddaliad gael ei chofnodi gan y ceidwad drwy naill ai—

(a)ei chofnodi yn y gofrestr; neu

(b)cadw copi deublyg neu gopi ardystiedig o’r ddogfen symud a chadw’r copi deublyg neu’r copi ardystiedig hwnnw gyda’r gofrestr yn eu trefn gronolegol ar y cyd ag unrhyw ddogfennau symud eraill a gedwir.

(5Cyflawnir trosedd os cedwir y gofrestr mewn ffurf ac eithrio ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(6Rhaid i’r ceidwad lenwi’r gofrestr—

(a)yn achos symud anifail i ddaliad neu ohono ac eithrio drwy bwynt cofnodi canolog, o fewn 36 awr ar ôl ei symud;

(b)yn achos symud anifail i ddaliad neu ohono drwy bwynt cofnodi canolog, o fewn 48 awr ar ôl ei symud;

(c)yn achos amnewid marc adnabod, o fewn 36 awr ar ôl ei amnewid;

(d)yn achos cod adnabod anifail, blwyddyn ei eni, dyddiad ei adnabod ac, os yw’n hysbys, ei frîd a’i genoteip, o fewn 36 awr ar ôl ei adnabod;

(e)yn achos marwolaeth anifail, o fewn 36 awr ar ôl darganfod ei farwolaeth.

(7Pan fo’r ceidwad yn symud ei anifeiliaid i ddaliad arall ac yntau’n parhau yn geidwad yr anifeiliaid, nid oes rhaid iddo gadw’r gofrestr ar y daliad arall hwnnw ond rhaid iddo allu dangos y gofrestr o fewn amser rhesymol i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.

(8At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod pan fo rhaid sicrhau bod y gofrestr, gan gynnwys y copïau deublyg neu’r copïau ardystiedig o’r dogfennau symud os cânt eu cadw yn unol â pharagraff (4)(b), ar gael yw tair blynedd o’r diwrnod olaf y bydd anifail y cyfeirir ato yn y ddogfen naill ai’n marw neu’n ymadael â’r daliad.

(9Pan ailadnabyddir anifail rhaid i’r ceidwad gofnodi dyddiad ei ailadnabod yn y gofrestr.

RHAN 8Dogfennau symud

Cronfa ddata ganolog a dogfen symud

24.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i weithredu cronfa ddata ganolog gyfrifiadurol ar gyfer cofnodi symudiadau anifeiliaid, a fydd â’r gallu i dderbyn hysbysiadau o symudiadau yn electronig.

(2Yn y Rhan hon, ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog.

(3Mae gweithredwyr lladd-dai, marchnadoedd, canolfannau casglu a chanolfannau crynhoi wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel pwyntiau cofnodi canolog, a rhaid i’r gweithredwyr hyn hysbysu ynghylch symudiadau anifeiliaid, i mewn i’w mangreoedd ac allan ohonynt, yn electronig.

(4Caniateir i geidwaid eraill hysbysu yn electronig ynghylch symudiadau anifeiliaid i mewn i’w mangreoedd ac allan ohonynt.

(5Pan fo ceidwad yn hysbysu, yn electronig, ynghylch symud anifail o’i ddaliad, rhaid iddo gofnodi’r manylion sy’n ofynnol gan Adran C o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, ac eithrio llofnod y ceidwad, yn y gronfa ddata ganolog o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad.

(6Pan fo gweithredwr pwynt cofnodi canolog yn hysbysu yn electronig ynghylch symud anifeiliaid a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10, rhaid i’r gweithredwr, yn ychwanegol—

(a)cofnodi yn y gronfa ddata ganolog yr holl ddynodiadau unigol ar gyfer yr anifeiliaid hynny; a

(b)cynnwys yn y ddogfen symud niferoedd cyfanswm yr anifeiliaid a adnabuwyd sydd â phob nod geifre neu nod diadell.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) a (10), pan fo ceidwad yn symud anifail o’i ddaliad rhaid iddo lenwi dogfen symud yn unol ag Adran C o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor a hynny mewn ffurf a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo ddarparu copi o’r ddogfen i’r cludwr.

(8Pan fo ceidwad yn hysbysu yn electronig ynghylch symud anifail o’i ddaliad, nid oes rhaid iddo lofnodi’r ddogfen symud.

(9Pan fo ceidwad yn hysbysu yn electronig ynghylch symudiad o’i ddaliad, a bod y cludwr, ar ei hynt, yn gallu argraffu dogfen mewn perthynas â’r holl anifeiliaid a gludir, sy’n rhoi—

(a)yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (5); a

(b)mewn perthynas â’r anifeiliaid a symudir o farchnadoedd, canolfannau casglu a chanolfannau crynhoi ac a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b),

nid oes rhaid i’r ceidwad lenwi dogfen symud.

(10Caniateir i fanylion adnabod anifail gael eu cofnodi yn y daliad ar ben y daith os—

(a)pwynt cofnodi canolog yw’r daliad ar ben y daith; a

(b)cludir yr anifail yn unol ag Adran C.2(a) o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

(11Pan fo gweithredwr pwynt cofnodi canolog wedi cofnodi manylion adnabod anifail yn unol â pharagraff (10), rhaid i’r gweithredwr hysbysu ceidwad y daliad y symudwyd yr anifail ohono ynghylch manylion adnabod yr anifail, yn unol ag Adran C.2(c) o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

(12Rhaid i geidwad, y symudir anifail i’w ddaliad, gadw copi o’r ddogfen symud a ddarperir iddo gan gludwr yr anifail hwnnw, am dair blynedd—

(a)oni hysbysir yn electronig ynghylch y symudiad o’r daliad blaenorol a’r symudiad i ddaliad y ceidwad, neu

(b)oni fydd y ceidwad yn sganio’r ddogfen symud ac yn cadw copi electronig ohoni am dair blynedd,

a rhaid i’r ceidwad gadw unrhyw gopïau o’r fath yn eu trefn gronolegol.

Cyflenwi dogfen symud

25.—(1Pan symudir anifail i ddaliad, rhaid i gludwr yr anifail hwnnw roi i’r ceidwad yn y daliad hwnnw—

(a)copi o’r ddogfen symud, neu

(b)os, yn unol ag erthygl 24(9), nad oes dogfen symud, allbrint o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr erthygl honno.

(2Rhaid i weithredwr pwynt cofnodi canolog hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch symudiadau anifeiliaid i mewn ac allan o’i fangre, yn electronig, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad.

(3Pan nad yw’r daliad ar ben y daith yn bwynt cofnodi canolog, rhaid i’r ceidwad yn y daliad ar ben y daith hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch cael yr anifeiliaid hynny, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl cael yr anifeiliaid.

(4Yn achos anifail a symudir o ddaliad i borthladd ac a fwriedir ar gyfer ei draddodi allan o Brydain Fawr, rhaid i’r ceidwad yn y daliad hwnnw hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch y symudiad hwnnw, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl symud yr anifail.

RHAN 9Cronfa ddata ganolog

Stocrestr o anifeiliaid

26.  At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, rhaid i geidwad sy’n cadw anifeiliaid yn barhaol wneud stocrestr flynyddol o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru.

27.  Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio ag erthygl 26.

Cyflenwi gwybodaeth

28.—(1Ar ôl cael hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor fod person wedi dod yn geidwad mewn daliad, rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ddyrannu nod diadell mewn cysylltiad â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod geifre mewn cysylltiad â phob geifre o eifr ar y daliad.

(2Os lladd-dy neu farchnad yw’r daliad, nid oes rhaid i Weinidogion Cymru ddyrannu nod diadell neu nod geifre onid ydynt o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny.

(3Rhaid i’r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen ynghylch unrhyw newid yn yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 8(2)(a) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod ar ôl newid o’r fath.

(4O fewn 30 diwrnod ar ôl dod yn geidwad, rhaid i’r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen ynghylch y newid hwnnw.

(5Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio â pharagraffau (3) neu (4).

RHAN 10Marchnadoedd

Marchnadoedd

29.—(1Rhaid i weithredwr marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu’n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad ac y dyrennir rhif lot i bob un o’r lotiau.

(2Ni chaiff neb brynu anifail mewn marchnad onid yw’n prynu’r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae’r anifail yn perthyn iddi ac yn symud y lot gyfan o’r farchnad i’r un daliad.

(3Ni chaiff neb werthu anifail mewn marchnad onid yw’n gwerthu’r holl anifeiliaid eraill yn y lot i’r un prynwr.

(4Ni chaiff gweithredwr marchnad dderbyn anifail i farchnad oni bai—

(a)bod yr anifail wedi ei adnabod yn unol â’r Gorchymyn hwn; a

(b)bod dogfen symud yn dod ynghyd â’r anifail, a’r ddogfen honno wedi ei llenwi yn unol â Rhan 8.

Amnewid marciau adnabod a gollir mewn marchnadoedd

30.—(1Nid yw gofynion yn y Gorchymyn hwn o ran amnewid marc adnabod yn gymwys i weithredwr marchnad nac i weithredwr lladd-dy.

(2Os tynnir ymaith neu os collir marc adnabod neu os canfyddir ei fod yn annarllenadwy tra bo’r anifail mewn marchnad, rhaid i’r ceidwad sy’n prynu’r anifail yn y farchnad osod farc adnabod amnewid arno yn unol â’r Gorchymyn hwn.

Cynlluniau wrth gefn ar gyfer methiant pŵer ac offer

31.—(1Caiff awdurdodau lleol esemptio gweithredwyr pwyntiau cofnodi canolog rhag yr angen i gofnodi’r canlynol yn electronig—

(a)rhif unigryw anifail ar ddogfen symud;

(b)rhif unigryw anifail yng nghofrestr daliad; neu

(c)y niferoedd o anifeiliaid mewn unrhyw lwyth sy’n dwyn nod diadell neu nod geifre penodol,

pan fo cynllun wrth gefn wedi ei gytuno rhwng yr awdurdod lleol a gweithredwr y pwynt cofnodi canolog.

(2Caiff awdurdod lleol dynnu unrhyw esemptiad o’r fath yn ôl os nad yw’n fodlon mwyach ar delerau’r cynllun wrth gefn neu ar y modd y rhoddir y cynllun ar waith.

(3Rhaid i gynllun wrth gefn y cytunir arno o dan baragraff (1) nodi’r amodau y mae’n rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog eu bodloni, ac o dan ba amgylchiadau y bydd yr esemptiadau ym mharagraff (1), cyhyd ag y bodlonir yr amodau hynny, yn gymwys. Rhaid i’r amodau hynny gynnwys gofyniad bod gweithredwr y pwynt cofnodi canolog yn hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch symudiadau i mewn ac allan o’i fangre, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad o anifeiliaid.

(4Rhaid i weithredwr pwynt cofnodi canolog ofyn am gydsyniad yr awdurdod lleol ymlaen llaw ar bob achlysur pan yw’n dymuno cymhwyso’r esemptiadau ym mharagraff (1) a rhaid iddo beidio â derbyn anifeiliaid heb gofnodi’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) os gwrthodir y cydsyniad hwnnw.

(5Pan fo anifeiliaid yn cyrraedd pwynt cofnodi canolog sy’n cymhwyso’r esemptiadau ym mharagraff (1) ar ôl cael cydsyniad yr awdurdod lleol ymlaen llaw, rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog—

(a)hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch manylion adnabod yr anifeiliaid hynny a gofnodwyd ar y ddogfen symud sy’n dod ynghyd â’r anifeiliaid, o fewn 3 diwrnod ar ôl cael yr anifeiliaid; neu

(b)os nad yw manylion adnabod yr anifeiliaid hynny wedi eu cofnodi ar ddogfen symud sy’n dod ynghyd â’r anifeiliaid, yn unol ag erthygl 24(9), rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog ddarparu cadarnhad ysgrifenedig, i’r ceidwad yn y daliad y cyrhaeddodd yr anifeiliaid ohono, fod y methiant i ddarparu manylion adnabod yr anifeiliaid unigol i’r ceidwad wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol.

RHAN 11Anifeiliaid a ddygir i mewn i Gymru

Derbyn anifeiliaid o Aelod-wladwriaeth arall

32.—(1Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall onid yw’r anifail wedi ei adnabod yn unol â’r canlynol—

(a)Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

(2Cyflawnir trosedd os tynnir ymaith neu os amnewidir dull adnabod gwreiddiol anifail sy’n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.

Derbyn anifeiliaid o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Diriogaethau Dibynnol y Goron

33.  Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban. Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw onid yw’r anifail wedi ei adnabod a bod dogfen symud yn dod ynghyd â’r anifail yn unol ag—

(a)yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu

(b)yn achos anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, y Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol a osodwyd mewn deddfwriaeth sy’n gorfodi Rheoliad y Cyngor mewn perthynas â’r anifeiliaid hynny; neu

(c)yn achos anifeiliaid o Diriogaethau Dibynnol y Goron a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC.

Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd

34.—(1Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon.

(2At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 diwrnod.

(3Rhaid i fodd adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydedd wlad fod o’r un math â’r hyn a nodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor, a’r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad yw—

(a)y llythrennau “UK”; a

(b)rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

(4Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a’i ailadnabod yn unol â’r erthygl hon, rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth ynghylch ychwanegu’r modd adnabod newydd yn y gofrestr, ynghyd â’r cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod newydd a’r cod llawn sydd ar y dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad.

Colli dulliau adnabod a osodwyd mewn trydedd wlad

35.  Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a’i ailadnabod wedyn yn unol ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor, nid yw’n ofynnol i’r ceidwad amnewid dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad os bydd hwnnw wedyn yn cael ei golli neu’n mynd yn annarllenadwy.

RHAN 12Amrywiol

Adnabod a chofnodi anifeiliaid i’w hallforio

36.—(1Rhaid i geidwad adnabod pob anifail a draddodir i’w allforio yn unol ag Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(2Pan fo anifail a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 yn cael ei draddodi i’w allforio rhaid i’r ceidwad gofnodi ei fanylion adnabod unigol yng nghofrestr y daliad ac ni chaiff allforio’r anifail hwnnw cyn diwedd cyfnod o 30 diwrnod ar ôl cofnodi ei fanylion adnabod.

Amddiffyniad mewn perthynas â symud ar gyfer triniaeth filfeddygol frys

37.  Mae’n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb osod neu roi arno’r modd adnabod sy’n ofynnol, neu o beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath, os profir bod yr anifail wedi ei symud o’r daliad er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.

Pwerau arolygwyr

38.—(1Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â gorfodi’r Gorchymyn hwn—

(a)casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r ceidwad ddangos neu wneud copi o unrhyw ddogfen neu gofnod;

(c)symud ymaith a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;

(d)cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;

(e)pan gedwir cofnod gan ddefnyddio cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu’r cofnod hwnnw mewn ffurf sy’n caniatáu ei symud ymaith;

(f)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddyfeisiau adnabod nas defnyddir, a chofnodi eu rhifau;

(g)mynd â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o’r farn bod eu hangen.

(2Rhaid i berson y mae arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud unrhyw beth, onid oes ganddo achos rhesymol, wneud hynny yn ddi-oed, ac ar y person hwnnw y mae’r baich o brofi bod ganddo achos rhesymol o’r fath.

Pŵer i wahardd symud anifeiliaid

39.—(1Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud defaid i’r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os bodlonir yr arolygydd fod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn briodol mewn perthynas â’r ddiadell honno.

(2Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifr i’r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os bodlonir yr arolygydd fod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn briodol mewn perthynas â’r eifre honno.

(3Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon ar unrhyw adeg drwy hysbysiad bellach.

Gwybodaeth ffug

40.  Ni chaiff neb roi gwybodaeth y gŵyr ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol i berson sy’n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.

Addasu marciau adnabod

41.  Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno’r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi ei osod ar anifail o dan y canlynol—

(a)Rheoliad y Cyngor;

(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)y Gorchmynion blaenorol; neu

(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â’r Gyfarwyddeb honno.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

42.—(1Os profir bod trosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Os rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli fel pe bai’r aelod yn gyfarwyddwr i’r corff.

(3Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

43.—(1Caniateir dwyn achos o dan y Gorchymyn hwn, am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(2At ddibenion achos o’r fath—

(a)bydd rheolau llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

(b)bydd adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(24) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(25) yn gymwys o ran y bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys o ran corff corfforaethol.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y Gorchymyn hwn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4Pan brofir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli’r drosedd honno i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(5At ddibenion paragraff (4), mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni gweithredu fel partner.

(6Pan brofir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r gymdeithas, neu y gellir priodoli’r drosedd honno i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog i’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7At ddibenion paragraff (6), ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog i’r gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu neu berson sy’n honni gweithredu mewn swydd o’r fath.

Gorfodi

44.—(1Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodwyd ar awdurdod lleol gan y Gorchymyn hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

45.  Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009(26) wedi ei ddirymu.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3364 (Cy. 296)) (“Gorchymyn 2009”). Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu a gorfodi, yng Nghymru, Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (sy’n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid defeidiog a gafraidd ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC).

Mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i’r dyfeisiau adnabod a ddefnyddir er mwyn cydymffurfio â’r Gorchymyn hwn fod o fath a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, ac yn nodi rhai darpariaethau cyffredinol o ran gosod dyfeisiau adnabod.

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer moddion adnabod defaid a geifr, gan gynnwys gofyniad i osod tag clust electronig er mwyn adnabod defaid y bwriedir eu cigydda cyn eu bod yn 12 mis oed. Os gosodwyd tag clust anelectronig cyn 1 Ionawr 2016 ar ddefaid y bwriedid eu cigydda cyn cyrraedd 12 mis oed, ni fydd rhaid newid y tag hwnnw am un electronig tan 30 Mehefin 2017.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a adnabuwyd o dan Ran 3.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaethau ar gyfer adnabod geifr nas adnabuwyd o dan Ran 3.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaethau ar gyfer amnewid marciau adnabod ar bob anifail a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 ac ar eifr a adnabuwyd yn unol â Rhan 5.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer cadw cofrestr daliad gyfoes gan bob ceidwad, ac yn nodi pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chofnodi yn y gofrestr a pha bryd.

Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod gweithredwyr pwynt cofnodi canolog yn adrodd yn electronig am symudiadau anifeiliaid, ac yn caniatáu i geidwaid eraill wneud hynny.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofyniad bod ceidwaid yn cadw stocrestr flynyddol ac yn cyflenwi gwybodaeth am eu daliad i Weinidogion Cymru, a’r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny.

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer dyrannu rhifau lot i anifeiliaid mewn marchnad ac yn gwahardd prynu neu werthu anifeiliaid oni phrynir neu werthir yr holl anifeiliaid sydd yn y lot. Mae’n esemptio marchnadoedd a lladd-dai o’r angen i ailadnabod anifeiliaid sydd a’u nodau adnabod yn eisiau, ac yn darparu ar gyfer cytuno ar drefniadau i ganiatáu i bwyntiau cofnodi canolog beidio â chofnodi’n electronig os yw’r pŵer neu’r offer yn methu.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion adnabod anifeiliaid a ddygir i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaethau eraill, rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, Tiriogaethau Dibynnol y Goron a thrydydd gwledydd.

Mae Rhan 12 yn cynnwys darpariaethau amrywiol a darpariaethau gorfodi gan gynnwys y gofynion ynghylch anifeiliaid sydd i’w hallforio. Mae erthygl 37 yn nodi amddiffyniad rhag cyhuddiad o fethu ag adnabod anifail yn gywir mewn achos o driniaeth filfeddygol frys. Mae erthygl 38 yn rhoi nifer o bwerau i arolygwyr ac mae erthygl 39 yn galluogi arolygwyr i wahardd symud diadell o ddefaid neu eifre o eifr i ddaliad neu allan ohono. Mae erthyglau 40 a 41 yn ymwneud â darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ac addasu marciau adnabod. Mae erthygl 42 yn ymwneud â throseddau gan gyrff corfforaethol, ac erthygl 43 yn ymwneud â throseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig. Gorfodir y Gorchymyn gan awdurdod lleol neu, os cyfarwyddir felly, gan Weinidogion Cymru (erthygl 44).

O dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mae torri’r Gorchymyn yn drosedd, y gellir ei chosbi yn unol ag adran 75 o’r Ddeddf honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen11 i’r Ddeddf honno.

(2)

OJ Rhif L 355, 5.12.92, t. 32 a ddiddymwyd gan Gyfarwyddeb 2008/71/EC. Bydd yr anifeiliaid hynaf yn parhau i gael eu hadnabod yn unol â’r Gorchymyn hwn.

(9)

O.S. 2009/3219, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/331.

(11)

O.S. 2005/3100, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2987.

(12)

O.S. 2002/2153, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/29, 2003/502 a 2003/1728.

(13)

O.S. 2002/240, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/764 a 2002/1349.

(14)

O.S. 2000/2027, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/281.

(21)

O.S.A. 2002/38, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/221.

(23)

OJ Rhif L 5, 9.1.04, t. 8.

(24)

1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.

(25)

1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p. 25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, ac fe’i diddymwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a) ac Atodlen 37, rhan 4; diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) ac (13)(b).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources