- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
36.—(1) Rhaid i geidwad adnabod pob anifail a draddodir i’w allforio yn unol ag Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.
(2) Pan fo anifail a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016 yn cael ei draddodi i’w allforio rhaid i’r ceidwad gofnodi ei fanylion adnabod unigol yng nghofrestr y daliad ac ni chaiff allforio’r anifail hwnnw cyn diwedd cyfnod o 30 diwrnod ar ôl cofnodi ei fanylion adnabod.
37. Mae’n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb osod neu roi arno’r modd adnabod sy’n ofynnol, neu o beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath, os profir bod yr anifail wedi ei symud o’r daliad er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.
38.—(1) Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â gorfodi’r Gorchymyn hwn—
(a)casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r ceidwad ddangos neu wneud copi o unrhyw ddogfen neu gofnod;
(c)symud ymaith a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;
(d)cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;
(e)pan gedwir cofnod gan ddefnyddio cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu’r cofnod hwnnw mewn ffurf sy’n caniatáu ei symud ymaith;
(f)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddyfeisiau adnabod nas defnyddir, a chofnodi eu rhifau;
(g)mynd â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o’r farn bod eu hangen.
(2) Rhaid i berson y mae arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud unrhyw beth, onid oes ganddo achos rhesymol, wneud hynny yn ddi-oed, ac ar y person hwnnw y mae’r baich o brofi bod ganddo achos rhesymol o’r fath.
39.—(1) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud defaid i’r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os bodlonir yr arolygydd fod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn briodol mewn perthynas â’r ddiadell honno.
(2) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifr i’r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os bodlonir yr arolygydd fod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Gorchymyn hwn yn briodol mewn perthynas â’r eifre honno.
(3) Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon ar unrhyw adeg drwy hysbysiad bellach.
40. Ni chaiff neb roi gwybodaeth y gŵyr ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol i berson sy’n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.
41. Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno’r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi ei osod ar anifail o dan y canlynol—
(a)Rheoliad y Cyngor;
(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(c)y Gorchmynion blaenorol; neu
(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â’r Gyfarwyddeb honno.
42.—(1) Os profir bod trosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli fel pe bai’r aelod yn gyfarwyddwr i’r corff.
(3) Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.
43.—(1) Caniateir dwyn achos o dan y Gorchymyn hwn, am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achos o’r fath—
(a)bydd rheolau llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;
(b)bydd adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(1) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(2) yn gymwys o ran y bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys o ran corff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y Gorchymyn hwn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Pan brofir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli’r drosedd honno i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni gweithredu fel partner.
(6) Pan brofir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r gymdeithas, neu y gellir priodoli’r drosedd honno i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog i’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) At ddibenion paragraff (6), ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog i’r gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu neu berson sy’n honni gweithredu mewn swydd o’r fath.
44.—(1) Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodwyd ar awdurdod lleol gan y Gorchymyn hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
45. Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009(3) wedi ei ddirymu.
1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.
1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p. 25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, ac fe’i diddymwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a) ac Atodlen 37, rhan 4; diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) ac (13)(b).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: