Search Legislation

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Dosbarth 1” (“Class 1”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 4;

ystyr “Dosbarth 2” (“Class 2”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 5;

ystyr “Dosbarth 3” (“Class 3”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 6;

ystyr “Dosbarth 4” (“Class 4”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 7;

ystyr “Dosbarth 5” (“Class 5”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 8;

ystyr “Dosbarth 6” (“Class 6”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 9;

ystyr “Dosbarth 7” (“Class 7”) yw’r dosbarth ar anheddau a ddisgrifir yn rheoliad 10;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

mae cyfeiriadau at briod person yn cynnwys cyfeiriadau at berson sy’n byw gyda’r llall fel petai’n briod i’r person hwnnw; ac

mae cyfeiriadau at bartner sifil person yn cynnwys cyfeiriadau at berson o’r un rhyw sy’n byw gyda’r llall fel petai’n bartner sifil y person hwnnw.

Dosbarthau rhagnodedig

3.—(1Mae Dosbarthau 1, 2, 3 a 4 wedi eu rhagnodi’n ddosbarthau ar annedd at ddibenion adrannau 12A(4) a 12B(5) o’r Ddeddf.

(2Mae Dosbarthau 5, 6 a 7 wedi eu rhagnodi’n ddosbarthau ar annedd at ddiben adran 12B(5) o’r Ddeddf.

Dosbarth 1

4.—(1Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 1”) wedi ei ffurfio o bob annedd sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) onid yw wedi bod yn annedd o’r fath am gyfnod o un flwyddyn neu fwy—

(a)annedd sydd yn cael ei marchnata i’w gwerthu am bris sy’n rhesymol ar gyfer ei gwerthu;

(b)annedd lle mae cynnig i brynu’r annedd wedi ei dderbyn (p’un a yw’r derbyniad yn ddarostyngedig i gontract ai peidio) ond bod y gwerthiant heb ei gwblhau.

(2Ar ôl diwedd cyfnod a eithrir nid yw annedd yn dod o fewn Dosbarth 1 am gyfnod pellach onid yw’r annedd wedi bod yn destun trafodiad perthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn—

(a)mae marchnata annedd i’w gwerthu yn cynnwys marchnata i werthu—

(i)y rhydd-ddaliad; neu

(ii)lesddaliad am dymor o saith mlynedd neu fwy;

(b)y “cyfnod a eithrir” (“excepted period”) yw’r cyfnod pryd y mae annedd yn dod o fewn Dosbarth 1;

(c)ystyr “trafodiad perthnasol” (“relevant transaction”) yw trosglwyddiad wrth werthu’r rhydd-ddaliad neu drosglwyddiad wrth werthu’r lesddaliad am dymor o saith mlynedd neu fwy.

Dosbarth 2

5.—(1Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 2”) wedi ei ffurfio o bob annedd sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) onid yw wedi bod yn annedd o’r fath am gyfnod o un flwyddyn neu fwy—

(a)annedd sydd yn cael ei marchnata i’w gosod o dan denantiaeth ar delerau ac amodau, gan gynnwys y rhent arfaethedig, sy’n rhesymol ar gyfer gosod yr annedd honno;

(b)annedd lle mae cynnig i rentu’r annedd wedi ei dderbyn (p’un a yw’r derbyniad yn ddarostyngedig i gontract ai peidio) ond nad yw’r denantiaeth wedi dechrau.

(2Ar ôl diwedd cyfnod a eithrir nid yw annedd yn dod o fewn Dosbarth 2 am gyfnod pellach onid yw wedi bod yn ddarostyngedig i denantiaeth a roddwyd am dymor o chwe mis neu fwy.

(3At ddiben y rheoliad hwn y “cyfnod a eithrir” (“excepted period”) yw’r cyfnod pryd y mae annedd yn dod o fewn Dosbarth 2.

Dosbarth 3

6.—(1Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 3”) wedi ei ffurfio o bob annedd—

(a)sy’n rhan o eiddo unigol sy’n cynnwys o leiaf un annedd arall; a

(b)sy’n cael ei defnyddio gan breswylydd yr annedd arall honno, neu yn ôl y digwydd, yr anheddau eraill hynny, fel rhan o’i breswylfa.

(2At ddiben paragraff (1), ystyr “eiddo unigol” (“single property”) yw eiddo a fyddai, ar wahân i Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy) 1992(1), yn un annedd o fewn ystyr adran 3 o’r Ddeddf.

Dosbarth 4

7.—(1Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 4”) wedi ei ffurfio o bob annedd a fyddai’n unig neu brif breswylfa unigolyn pe na bai’r unigolyn hwnnw yn preswylio mewn llety’r lluoedd arfog.

(2At ddiben y rheoliad hwn—

(a)“llety’r lluoedd arfog” (“armed forces accommodation”) yw llety a ddarperir i—

(i)aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi; neu

(ii)aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi;

at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi;

(b)mae person yn aelod o deulu rhywun arall—

(i)os yw’n briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw; neu

(ii)os yw’n rhiant, yn fam-gu/nain neu’n dad-cu/taid, yn blentyn, yn ŵyr neu’n wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai neu’n nith i’r person hwnnw.

Dosbarth 5

8.—(1Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 5”) wedi ei ffurfio o bob annedd sy’n cynnwys llain a feddiennir gan garafán neu angorfa a feddiennir gan gwch.

(2At ddiben y rheoliad hwn dehonglir “carafán” yn unol â dehongliad “caravan” yn adran 7 o’r Ddeddf(2).

Dosbarth 6

9.—(1Mae’r dosbarth ar anheddau sydd wedi ei ragnodi at ddiben y rheoliad hwn (“Dosbarth 6”) wedi ei ffurfio o bob annedd y mae ei meddiannu wedi ei gyfyngu gan amod cynllunio sy’n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau o leiaf mewn unrhyw gyfnod o un flwyddyn.

(2At ddiben y rheoliad hwn ystyr “amod cynllunio” (“planning condition”) yw unrhyw amod a osodir ar ganiatâd cynllunio sydd wedi ei roi neu y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3).

Dosbarth 7

10.—(1Mae’r dosbarth ar annedd sydd wedi ei ragnodi at ddibenion y rheoliad hwn (“Dosbarth 7”) wedi ei ffurfio o bob annedd—

(a)pan fo person cymhwysol mewn perthynas â’r annedd honno yn preswylio mewn annedd arall sydd, ar gyfer y person hwnnw, yn gysylltiedig â swydd; neu

(b)sydd, ar gyfer person cymhwysol, yn gysylltiedig â swydd.

(2At ddiben y rheoliad hwn mae annedd yn gysylltiedig â swydd ar gyfer person os yw’n dod o fewn un o’r disgrifiadau a nodir ym mharagraffau 1, 2 neu 3 o’r Atodlen.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw—

(a)person sy’n atebol(4) am dalu treth gyngor mewn cysylltiad ag annedd ar ddiwrnod penodol, p’un ai ar y cyd â pherson arall ai peidio; neu

(b)person a fyddai’n atebol am dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad ag annedd ar ddiwrnod penodol, p’un ai ar y cyd â pherson arall ai peidio, os nad oedd yr annedd honno’n dod o fewn—

(i)Dosbarth O o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992(5); neu

(ii)Dosbarth E o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992(6).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources