- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Trethi, Cymru
Gwnaed
28 Tachwedd 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 18(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).
Yn unol ag adran 189(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2. Mae adran 18(1) (datgelu a ganiateir) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (g);
(b)ym mharagraff (h) yn lle “.” rhodder “,”; ac
(c)ar ôl paragraff (h) mewnosoder—
“(i)os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu
(j)os gwneir hynny i Gyllid yr Alban(2) mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46)(3).”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 18(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae’r diwygiadau i’r Ddeddf a wneir gan y Rheoliadau hyn yn caniatáu i “swyddog perthnasol”, fel y’i diffinnir gan adran 17(2) o’r Ddeddf, ddatgelu “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr”, fel y’i diffinnir gan adran 17(3) o’r Ddeddf, i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi ac i Gyllid yr Alban, mewn cysylltiad â’u priod swyddogaethau neu ag un o swyddogaethau Awdurdod Cyllid Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Sefydlwyd Cyllid yr Alban (Revenue Scotland) gan adran 2 o Ddeddf Cyllid yr Alban a Phwerau Trethi 2014 (dsa 16) .
1998 p. 46. Mae adran 80A(4) o Ddeddf yr Alban 1998 yn diffinio “devolved tax” at ddibenion y Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: