- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Seilwaith
Gwnaed
29 Tachwedd 2017
Yn dod i rym
8 Rhagfyr 2017
Mae Innogy Renewables UK Limited(1) wedi cyflwyno cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008(2) ar gyfer newidiadau i Orchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014(3) nad ydynt yn sylweddol.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried effaith y newidiadau ar Orchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 fel y’i gwnaed yn wreiddiol, ac maent yn fodlon nad yw’r newidiadau’n sylweddol.
Ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a oedd yn ofynnol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad i Ddatblygiad) 2011(4), mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu gwneud y newidiadau ar delerau nad ydynt yn sylweddol wahanol i’r rheini a gynigiwyd yn y cais gwreiddiol, ym marn Gweinidogion Cymru.
Yn unol â hynny, wrth arfer y pwerau ym mharagraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 8 Rhagfyr 2017.
2. Mae Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5.
3.—(1) Mae erthygl 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle’r diffiniad o “the works plan” rhodder y diffiniad a ganlyn—
““the works plan” means the revised works plan submitted with the application dated 23 Awst 2017 for a non-material change to this Order under paragraph 2 of Schedule 6 to the 2008 Act and certified by the Welsh Ministers in accordance with article 36(1A).”
4.—(1) Mae erthygl 36 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Mewnosoder y paragraff a ganlyn ar ôl paragraff (1)—
“(1A) The undertaker must, as soon as practicable after the coming into force of the Clocaenog Forest Wind Farm (Amendment) Order 2017, submit to the Welsh Ministers a copy of the works plan for certification that it is a true copy.”
5.—(1) Yn y cyfeiriad at Waith Rhif 3 yn Rhan 1 (datblygiad awdurdodedig) o Atodlen 1, yn lle’r geiriau “A series of new tracks, existing tracks subject to improvement and widening and public roads subject to widening” rhodder “A series of new tracks, existing tracks subject to improvement and widening, public roads subject to widening and a series of turning heads located adjacent to tracks”.
(2) Mae’r tablau sy’n ymwneud â Gwaith Rhif 3 yn Rhan 1 (datblygiad awdurdodedig) o Atodlen 1 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(3) Yn y tabl sydd â’r pennawd “New tracks”—
(a)yn y rhes sydd ag “N7” fel y cofnod cyntaf—
(i)yn lle “300779” rhodder “300704”; a
(ii)yn lle “357705” rhodder “357556”; a
(b)mewnosoder y canlynol ar ôl y rhes sydd ag “N4” fel y cofnod cyntaf—
“N25 | 300509 | 357483 | 300277 | 357467 |
N26 | 300596 | 357354 | 300614 | 357029 |
N27 | 301133 | 355580 | 300866 | 355375 |
N28 | 300784 | 355332 | 300534 | 355065”. |
(4) Yn y tabl sydd â’r pennawd “Existing tracks subject to improvement and widening”, yn y rhes sydd ag “E6” fel y cofnod cyntaf—
(a)yn lle “300635” rhodder “300614”; a
(b)yn lle “357032” rhodder “357029”.
(5) Mewnosoder y tabl canlynol ar ôl y tabl sydd â’r pennawd “Public roads subject to widening”—
Grid reference | ||
---|---|---|
Turning head number | Easting | Northing |
TH1 (at T3) | 301166 | 357866 |
TH2 (between T7 and T9) | 300226 | 356920 |
TH3 (at T10) | 301344 | 356350 |
TH4 (at T13) | 301221 | 355570 |
TH5 (at T15) | 301436 | 355089 |
TH6 (at T17) | 301501 | 354506 |
TH7 (at T18) | 301833 | 354061 |
TH8 (at T24) | 300672 | 352492 |
TH9 (at T25) | 301854 | 352484 |
TH10 (at T28) | 300817 | 352143 |
TH11 (at T30) | 301367 | 351613 |
TH12 (at T31) | 300989 | 350791 |
TH13 (at T32) | 301314 | 350614”. |
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Tachwedd 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 (y “prif Orchymyn”), a oedd yn rhoi caniatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais am newid ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.
Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi newidiadau i’r cynlluniau gwaith i adlewyrchu newidiadau yn nherfynau’r gwyro ac i fannau cychwyn a therfynu’r traciau mynediad ac ychwanegu’r gwaith o adeiladu mannau troi yng Ngwaith Rhif 3.
Rhaid cyflwyno’r cynlluniau gwaith coed diwygiedig i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu hardystio o dan erthygl 36(1A) newydd y prif Orchymyn. Mae gofyniad 7 yn Rhan 3 o Atodlen 1 i’r prif Orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r datblygiad awdurdodedig gael ei gyflawni’n unol â’r cynlluniau a ardystiwyd o dan erthygl 36.
Cwmni rhif: 2550622, Innogy Renewables UK Limited (RWE Innogy UK Limited gynt) yw’r person sydd wedi cyflwyno cais ar gyfer Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014.
2008 p. 29. Diwygiwyd paragraff 2 o Atodlen 6 gan baragraff 4 o Atodlen 8 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); gan baragraff 72 o Atodlen 13 a chan Atodlen 25 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20); gan adran 28 o Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7); a chan baragraff 8(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
O.S. 2011/2055. Diwygiwyd rheoliadau 6 a 7 gan O.S. 2012/635 a 2015/760.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: