Search Legislation

Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1216 (Cy. 249)

Adnoddau Dŵr, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Y Diwydiannau Da Byw

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Lles Anifeiliaid

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Y Diwydiant Dŵr, Cymru

Dŵr, Cymru

Garddwriaeth, Cymru

Gwastraff, Cymru

Hadau, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Pysgodfeydd Môr, Cymru

Cadwraeth Pysgod Môr

Rhyddid Gwybodaeth, Cymru

Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed

20 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;

(b)adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;

(c)adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003(3), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;

(d)adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(4), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;

(e)adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(5), i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(6) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—

(a)ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd(7);

(b)mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(8);

(c)atal, lleihau a rheoli gwastraff(9);

(d)atal halogi tir ac adfer tir halogedig(10);

(e)rheoli perygl llifogydd(11);

(f)mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr(12);

(g)diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(13);

(h)y polisi amaethyddol cyffredin(14);

(i)y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(15);

(j)mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau(16);

(k)polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(17);

(l)y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(18).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 1LL+CCyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994LL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council(20),”;

(b)yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.

(3Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000LL+C

3.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000(21), ar ôl “human consumption)” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive (EU) 2015/1787(22),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002LL+C

4.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

F1(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—

(c)unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(24),.

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004LL+C

5.  Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(25), yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005LL+C

6.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(26) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC(27)” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff(28)”.

(3Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006LL+C

7.  Yn rheoliad 3(b)(ii) o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006(29), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU(30)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009LL+C

8.—(1Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(31) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—

(A1) Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.

(3Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—

5.(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—

(a)Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(32);

(b)Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001(33);

(c)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(34);

(d)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(35);

(e)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(36).

(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(37).

(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011LL+C

9.—(1Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011(38) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/160(39),”.

(3Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/870(40)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011LL+C

10.  Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011(41)

(a)yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)(42)”;

(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;

(c)ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;

(d)yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012LL+C

11.  Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012(43), ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008 of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures(44), as amended from time to time,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013LL+C

12.  Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013(45), ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013LL+C

13.—(1Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(46) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.

(3Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787(47)”.

(4Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/2013(48)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016LL+C

14.  Yn Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(49), ym mharagraff 5—

(a)yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/852 of the European Parliament and of the Council on mercury(50)”;

(b)hepgorer is-baragraff (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017LL+C

15.  Yn rheoliad 9 o Reoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017(51), yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) In paragraph (1), an abstraction of more limited extent does not include—

(a)a Qn95 hands-off flow constraint on a licence where the licensed abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply does not support good ecological potential, good ecological status or good quantitative status, or

(b)75% of Qn99 hands-off flow constraint on a licence where the licenced abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply supports good ecological potential, good ecological status or good quantitative status.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017LL+C

16.—(1Mae Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017(52) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “the 2010 Regulations” rhodder—

“the 2017 Regulations” means the Conservation of Habitats and Species Regulations 2017(53);;

(b)yn y diffiniad o “conservation site”—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “regulation 10(5) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 12(5) of the 2017 Regulations”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “regulation 11 of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 13 of the 2017 Regulations”;

(iii)ym mharagraff (c), yn lle “regulations 12A and 12B, respectively, of the 2010 Regulations” rhodder “regulations 15 and 16, respectively, of the 2017 Regulations”;

(c)yn y diffiniad o “protected species”, ym mharagraff (a), yn lle “regulation 40(1) of, and Schedule 2 to, the 2010 Regulations” rhodder “regulation 42(1) of, and Schedule 2 to, the 2017 Regulations”.

(3Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “regulation 99(2) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 102(2) of the 2017 Regulations”.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CDiwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chynllunio

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004LL+C

17.—(1Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(54) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC” rhodder “, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

(3Yn rheoliad 5(2)(b), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC” rhodder “Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar y amgylchedd(55), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015LL+C

18.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(56) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1—

(a)yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(b)yn Rhan 4—

(i)ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(ii)ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(iii)ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

(3Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/2008(57), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016LL+C

19.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(58) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(59), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997(60)”.

(3Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(61)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017LL+C

20.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(62) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.

(3Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 4LL+CDiwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995LL+C

21.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(63) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(d)(i), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993(64)” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012(65)”.

(3Yn rheoliad 8(4), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012”.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999LL+C

22.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999(66) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “Directive 77/93/EEC”;

(b)yn y diffiniad o “Directive 98/56/EC”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Regulation (EU) No 652/2014 of the European Parliament and of the Council(67)”;

(c)ar ôl y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—

Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community(68);.

(3Yn rheoliad 9(2), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhodder “Directive 2000/29/EC”.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009LL+C

23.  Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(69), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) rhodder—

Ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol(70), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016LL+C

24.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(71)

(a)yn y diffiniad o “y Penderfyniad” (“the Decision”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320(72)”;

(b)yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317(73)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 5LL+CDiwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid

Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980LL+C

25.—(1Mae Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980(74) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981(75)” rhodder “the Act”;

(b)ym mharagraff (b), yn lle “section 84(3)(a) and (b)” rhodder “section 88(1) and (3)”.

(3Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950(76)” rhodder “the Animal Health Act 1981”.

(4Hepgorer erthygl 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980LL+C

26.—(1Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980(77) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2—

(a)yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981 (“the 1981 Act”)” rhodder “the Act”;

(b)ym mharagraffau (a) a (b), yn lle “the 1981 Act” rhodder “the Act”.

(3Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950” rhodder “the Animal Health Act 1981”.

(4Hepgorer erthygl 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003LL+C

27.—(1Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(78) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3(1)—

(a)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC” (“Council Directive 2005/94/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau’r Gymuned i reoli ffliw adar(79);;

(b)yn y diffiniad o “diheintio” (“disinfect”), yn lle “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(80)” rhodder “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 2007(81)”.

(3Yn erthygl 6(4), yn lle “Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC(82)” rhodder “Erthygl 50 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC, ac Atodiad I iddi” rhodder “Erthygl 7(2)(f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ac Atodiad 3 iddi”;

(b)yn Rhan 2, ym mharagraff 11, yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC” rhodder “Atodiad 6 i Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006LL+C

28.—(1Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006(83) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 8(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

(3Yn erthygl 43(1)(b)(ii), yn lle’r geiriau o “regulation 9” hyd at y diwedd rhodder “the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011(84)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006LL+C

29.—(1Mae Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(85) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2, yn y diffiniad o “border inspection post”, yn lle’r geiriau o “Schedule 2” hyd at y diwedd rhodder “regulation 11 of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011”.

(3Yn erthygl 3—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998(86)” rhodder “the Specified Animal Pathogens (Wales) Order 2008(87)”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “Regulation 19” hyd at y diwedd rhodder “Article 6 of Commission Implementing Regulation (EU) No 139/2013 laying down animal health conditions for imports of certain birds into the Union and the quarantine conditions thereof(88)”.

(4Yn erthygl 4(7), yn lle “Department for Agriculture and Rural Development of Northern Ireland” rhodder “Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs, Northern Ireland”.

(5Yn erthygl 66(5)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

(6Yn erthygl 71(3)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “section 8(2) of the Medicines Act 1968(89)” rhodder “regulation 17 of the Human Medicines Regulations 2012(90)”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “Regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 2005(91)” rhodder “regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 2013(92)”;

(c)yn is-baragraff (d), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998” rhodder “the Specified Animals Pathogens (Wales) Order 2008”.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006LL+C

30.  Yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006(93), yn lle “reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005” rhodder “reoliad 3(2)(b) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006LL+C

31.—(1Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006(94) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 12—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl is-baragraff (a) hepgorer “or”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b);

(b)hepgorer paragraff (2).

(3Yn erthygl 17(1)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006LL+C

32.  Yn erthygl 18(1)(a) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006(95), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007LL+C

33.  Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007(96)

(a)yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/630/EEC(97)” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/120/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch(98)”;

(b)ar ôl is-baragraff (b), hepgorer “ac”;

(c)yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/629/EEC(99)” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/119/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod lloi(100)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008LL+C

34.  Yn rheoliad 17 o Reoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008(101), yn lle “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011(102)” rhodder “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009LL+C

35.—(1Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009(103) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2, yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012” (“Commission Regulation (EU) No 200/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012 dyddiedig 8 Mawrth 2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o frwyliaid, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor (104).

(3Yn erthygl 3, yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012;.

(4Yn erthygl 5(1)—

(a)yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”;

(b)yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”;

(c)yn lle “express post” rhodder “express mail”.

(5Yn erthygl 8, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010LL+C

36.—(1Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010(105) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2(2)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor(106), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, ;

(b)hepgorer is-baragraff (b).

(3Yn erthygl 4(1)—

(a)yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;

(b)yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.

(4Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011LL+C

37.  Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(107), yn Rhan 2, ym mharagraff 9(1), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 139/2013 sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i’r Undeb, a’r amodau cwarantin ar eu cyfer(108)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

DirymiadauLL+C

38.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005(109);

(b)Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006(110).

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 6LL+CDiwygiad i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd

Gorchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992LL+C

39.  Yn erthygl 2 o Orchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992(111), yn y diffiniad o “length”, yn lle’r geiriau o “Council Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/1130 of the European Parliament and of the Council defining characteristics for fishing vessels(112)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

20 Tachwedd 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd, cynllunio a materion gwledig.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) i derfynu cymhwysiad adran 53 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 32) (eithrio rhag dyletswydd i gydymffurfio â hysbysiad o benderfyniad neu hysbysiad gorfodi) i’r Rheoliadau hynny. Mae hyn yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn R (on the application of Evans) and another v Attorney General [2015] UKSC 21 bod dyroddi unrhyw dystysgrif o dan reoliad 18(6) mewn cysylltiad â gwybodaeth amgylcheddol yn anghydnaws ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2003/4/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fynediad y cyhoedd at wybodaeth amgylcheddol (OJ Rhif L 41, 14.2.2003, t. 26).

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”) i’w gwneud yn ofynnol i weithredwyr ganfod mesurau adfer posibl a’u cyflwyno i’r awdurdod gorfodi. Mae rheoliad 8 hefyd yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb 2004/35/EC (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56) ei throsi’n briodol. Mae’r diwygiad yn mynd i’r afael â difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol sydd hefyd yn Safle Ewropeaidd (fel y’i diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (O.S. 2017/1012)). Mae’r diwygiad yn darparu nad yw difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (“Deddf 1981”) wedi ei eithrio’n awtomatig rhag cwmpas Rheoliadau 2009. Bydd difrod o’r fath yn parhau i gael ei eithrio os rhoddwyd yr awdurdodiad o dan Ddeddf 1981 yn unol â deddfwriaeth sy’n trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 92/42/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7).

Mae rheoliad 15 yn diwygio Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017 (O.S. 2017/1047) i gywiro gwall yn y disgrifiad o ba amgylchiadau y mae’n gymwys i roi trwydded tynnu dŵr fwy cyfyngedig oddi tanynt na’r drwydded y gwnaed cais amdani.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau amrywiol eraill i ddeddfwriaeth ym meysydd amaethyddiaeth, iechyd a lles anifeiliaid, diogelu’r amgylchedd, pysgodfeydd môr, hadau, cynllunio gwlad a thref, gwastraff a dŵr, yn enwedig diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth Ewropeaidd mewn deddfwriaeth ddomestig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(2)

2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 58B gan adran 20(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4). Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan baragraffau 27 a 34 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad sydd i’w benodi. Mae adran 58B yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel pe baent yn un o Weinidogion y Goron neu’n un o adrannau’r llywodraeth a ddynodwyd gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan y ddarpariaeth honno, ar yr amod y byddai deddfwriaeth o’r fath o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel arall. Mae adrannau 107 a 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ynghyd â pharagraff 171 o Ran 2 o Atodlen 7A i’r Ddeddf honno, yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud cyfreithiau mewn perthynas â gwybodaeth y caniateir i’r cyhoedd ei gweld a gedwir gan y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad, Llywodraeth Cymru neu unrhyw Awdurdod Cyhoeddus Cymreig, oni bai bod yr wybodaeth wedi ei ddarparu gan un o Weinidogion y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth ac yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Mae i “Awdurdod Cyhoeddus Cymreig” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh Public Authority” yn adran 83 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36), ond nid yw’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl o fewn yr ystyr a roddir i “reserved authority” ym mharagraff 8 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

2003 p. 37. Trosglwyddwyd y pŵer a oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud Rheoliadau o dan adran 103(7) i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

1991 p. 57. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 33A a 219(2), i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidogion o dan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhinwedd O.S. 2004/3044. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(6)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw.

(7)

O.S. 2004/3328. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2004/3328 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(8)

O.S. 2005/850, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2005/850 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(10)

O.S. 2007/193, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2007/193 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(12)

O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(13)

O.S. 2001/2555. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2001/2555 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(15)

O.S. 2008/1792, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

O.S. 2003/2901, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(19)

O.S. 1994/2841, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90); mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(20)

OJ L Rhif 311, 21.11.2008, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2014/32/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 96, 29.3.2014, t. 149).

(21)

O.S. 2000/1297, a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/996; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t. 6.

(23)

O.S. 2002/3188 (Cy. 304), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(24)

O.S. 2014/1663, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(25)

O.S. 2004/3391, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(26)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(27)

OJ Rhif L 30, 6.2.1993, t. 1, fel y’i diddymwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1).

(28)

OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/2002 (OJ Rhif L 294, 11.11.2015, t. 1).

(30)

OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32.

(31)

O.S. 2009/995 (Cy. 81), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(32)

1994/2716, a ddiwygiwyd gan baragraff 233(1) o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25); O.S. 1996/525; 1997/3055; 2000/192 a 1973; 2003/2155; 2005/3389; 2006/1282; 2007/1843 a 3538; 2008/2172; 2009/6, 1307, 2438 a 3160; a pharagraff 4(1) o Atodlen 11 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); ac a ddirymwyd (o ran Cymru a Lloegr) gan O.S. 2010/490.

(33)

O.S. 2001/1754, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/77 a 1842; a 2010/1513.

(39)

OJ Rhif L 27, 1.2.2017, t. 1.

(40)

OJ Rhif L 142, 6.6.2015, t. 3.

(41)

O.S. 2011/2829 (Cy. 302) ), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(42)

OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 193.

(43)

O.S. 2012/811, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(44)

OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1.

(45)

O.S. 2013/1675, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(46)

O.S. 2013/2506 (Cy. 245), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(47)

OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t. 6.

(48)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 487.

(49)

O.S. 2016/1154, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(50)

OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.

(55)

OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1.

(56)

O.S. 2015/1597 (Cy. 196), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(57)

OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.

(59)

OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.

(60)

OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t. 1.

(63)

O.S.1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy. 174); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(64)

O.S.1993/2008, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2005/3035 (Cy. 223).

(65)

O.S. 2012/245 (W. 39), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(67)

OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1.

(68)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1920 (OJ Rhif L 271, 20.10.2017, t. 34).

(69)

O.S. 2009/1551 (Cy. 151), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320); mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(70)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671.

(72)

OJ Rhif L 60, 5.3.2016, t. 88.

(73)

OJ Rhif L 60, 5.3.2016, t. 72.

(74)

O.S. 1980/12, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/2920; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(76)

1950 p. 36, a ddiddymwyd gan Atodlen 6 i Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(77)

O.S. 1980/14, a ddiwygiwyd gan O.S. 1982/948; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(78)

O.S. 2003/1079 (Cy. 148), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(79)

OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t. 40).

(80)

O.S. 1978/32, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2007/2803 (Cy. 236).

(82)

OJ Rhif L 167, 22.6.1992, t. 1, fel y’i diddymwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC (OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16).

(83)

O.S. 2006/179 (Cy. 30), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(84)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(85)

O.S. 2006/2927 (Cy. 262), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(86)

O.S. 1998/463, a ddirymwyd o ran Cymru gan O.S. 2008/1270 (Cy. 129).

(87)

O.S. 2008/1270 (Cy. 129), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(88)

OJ Rhif L 47, 20.2.2013, t. 1.

(89)

1968 p. 67; diddymwyd adran 8 gan O.S. 2012/1916.

(90)

O.S. 2012/1916, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(91)

O.S. 2005/2745, a ddirymwyd gan O.S. 2006/2407.

(92)

O.S. 2013/2033, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(93)

O.S. 2006/2932 (Cy. 265), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(94)

O.S. 2006/3309 (Cy. 299), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(95)

O.S. 2006/3310 (Cy. 300), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(96)

O.S. 2007/3070 (Cy. 264), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(97)

OJ Rhif L 340, 11.12.1991, t. 33, fel y’i diddymwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/120/EC (OJ Rhif L 47, 18.2.2009, t. 5).

(98)

OJ Rhif L 47, 18.2.2009, t. 5.

(99)

OJ Rhif L 340, 11.12.1991, t. 28, fel y’i diddymwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/119/EC (OJ Rhif L 10, 15.1.2009, t. 7).

(100)

OJ Rhif L 10, 15.1.2009, t. 7.

(101)

O.S. 2008/1090 (Cy. 116), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/2403 (Cy. 257); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(102)

O.S. 2011/2159, a ddirymwyd gan O.S. 2013/2033.

(104)

OJ Rhif L 71, 9.3.2012, t. 31.

(106)

OJ Rhif L 340, 13.12.2012, t. 29.

(107)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(108)

OJ Rhif L 47, 20.2.2013, t. 1.

(111)

O.S. 1992/2633, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/2291, mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(112)

OJ Rhif L 169, 30.6.2017, t. 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources