- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Datgelu Gwybodaeth, Cymru A Lloegr
Gwnaed
8 Mawrth 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 118(5) a (7) o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2017” yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn—
(a)adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath, yn unig;
(b)adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath, yn unig; ac
(c)adran 44 (rheoliadau), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r dibenion a bennir ym mharagraffau (a) a (b).
3.—(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath—
(a)adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at bob diben sy’n weddill;
(b)adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at bob diben sy’n weddill;
(c)adran 39 (datgelu gwybodaeth gan ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.);
(d)adran 40 (darpariaethau pellach ynghylch datgeliadau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 35 i 39);
(e)adran 41 (cyfrinachedd gwybodaeth bersonol);
(f)adran 42 (gwybodaeth a ddatgelir gan Gyllid a Thollau);
(g)adran 43 (cod ymarfer);
(h)adran 44 (rheoliadau), at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(i)adran 45 (dehongli’r bennod hon etc.);
(j)Atodlen 4 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adran 35);
(k)Atodlen 6 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adrannau 38 a 39).
(2) Daw Penodau 5 a 6 o Ran 5 o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018, i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn cychwyn darpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn, at ddiben gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath.
Mae rheoliad 3 yn cychwyn darpariaethau ym Mhennod 1 o Ran 5 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018, at yr holl ddibenion sy’n weddill ac i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath.
Mae rheoliad 3 hefyd yn cychwyn Penodau 5 a 6 o Ran 5 o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym, neu maent i’w dwyn i rym, drwy reoliadau cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Rheoliadau hyn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 4 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 4 (dibenion pellach) | 22 Tachwedd 2017 | 2017/1136 |
Adran 4 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Rhagfyr 2017 | 2017/1286 |
Adran 5 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 6 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 8 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 14 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 15 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 16 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 17 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 21(5) (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 22 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 25 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 26(2) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 27 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 30(1) a (2) (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 32 | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 33 | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 34 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 35 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 36 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 43 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 44 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 46 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 47 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 48 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 52 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 54 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 56 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 60 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 62 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 70 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 74 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 76 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 77 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 78 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 79, ac eithrio is-adran (3) (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 80 (yn rhannol) | 1 Hydref 2017 | 2017/765 |
Adran 81 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 87 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 92 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 93, ac eithrio is-adran (3) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 95 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 98 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 100 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 101 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 102 | 1 Hydref 2018 | 2017/765 |
Adran 104 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 106 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 108 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 109 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Adran 110 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Atodlen 1 (yn rhannol) | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Atodlen 1 (darpariaethau pellach) | 22 Tachwedd 2017 | 2017/1136 |
Atodlen 1 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Rhagfyr 2017 | 2017/1286 |
Atodlen 2 | 28 Rhagfyr 2017 | 2017/1286 |
Atodlen 3, paragraff 47 | 31 Gorffennaf 2017 | 2017/765 |
Atodlen 3 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Rhagfyr 2017 | 2017/1286 |
Gweler hefyd adran 118 o’r Ddeddf ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 27 Ebrill 2017 a 27 Mehefin 2017.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: