- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
4 Ionawrr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Ionawr 2018
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Ionawr 2018
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, pennir mai 272.8 yw B.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
4 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”).
O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig ym mhob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae 2018 yn flwyddyn pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio.
Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf i bennu, drwy Orchymyn, swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r swm gwahanol a bennir felly fod yn is na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol yw 275.1.
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu mai swm eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018 yw 272.8.
Yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ni fydd y Gorchymyn yn dod i rym ond os yw’n cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Trethi Lleol, yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41.
Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y pwerau o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r pwerau bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: