Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 721 (Cy. 140)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gwastraff, Cymru

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed

11 Mehefin 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mehefin 2018

Yn dod i rym

5 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag—

(a)mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(3);

(b)atal, lleihau a rheoli gwastraff(4).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

2.  Yn adran 62A(2)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(5) (rhestrau o wastraff sy’n arddangos nodweddion peryglus), ar ôl “Directive 2008/98/EC” mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

3.  Yn lle rheoliad 2(1)(a) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(6) (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr Gwastraff), rhodder—

(a)“ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997;.

Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007

4.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007(7) (dehongli a hysbysiadau), yn y diffiniad o “the Waste Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011

5.  Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011(8) (dehongli), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder, “as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

6.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(9) (dehongli: Cyfarwyddebau), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.

Dirymiadau

7.  Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015(10);

(b)rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016(11).

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

11 Mehefin 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac yn diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.)

Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EU) 2017/997 dyddiedig 8 Mehefin 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y nodwedd beryglus HP 14 ‘Ecowenwynig’ (OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t. 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) mewn perthynas ag unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi mewn perthynas â’r mater hwnnw neu at y diben hwnnw.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(5)

1990 p. 43, mewnosodwyd adran 62A gan O.S. 2005/894 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1360; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2007/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/738; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(8)

O.S. 2011/988, a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/691 (Cy. 189); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2016/1154; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources