Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 3

YR ATODLEN

1.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.

(2Wrth gyfrifo’r targed, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 87(4) o Ddeddf 2013.

2.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

3.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio data sy’n deillio o’i adolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ei ardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016(1)) er mwyn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

4.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.

(2Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

5.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd ceisiadau y mae’r awdurdod lleol yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion a gynhelir ganddo yn ystyried y targed i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

6.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd er mwyn sicrhau parhad mewn trefniadau ar gyfer personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i’w ardal.

7.  Datganiad sy’n nodi trefniadau’r awdurdod lleol o ran ei ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid(2) i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gwarcheidwaid.

8.  Datganiad sy’n nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â’i fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg (os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol) i lunio cynllun yr awdurdod a sut y bydd y fforwm yn goruchwylio ei weithredu a’i werthuso.

9.  Datganiad sy’n nodi—

(a)sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir;

(b)sut y bydd yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid sy’n datgan bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau ni waeth beth fo’u cefndir ieithyddol;

(c)sut y bydd yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y manteision a all ddod yn sgil dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.

10.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod personau a addysgir yn Gymraeg yn parhau i gael eu haddysgu felly wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i grŵp blwyddyn arall, a chynllunio yn unol â hynny os yw’r cyfraddau cadw yn destun pryder i’r awdurdod.

11.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

(2Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

12.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

13.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i barhau â’r addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir ar gyfer personau ym mlwyddyn 10 ac uwch drwy gydweithio ag ysgolion eraill a SABau eraill os bydd angen.

14.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio a’i ysgolion a SABau (os bydd angen) i gyd-drefnu darpariaeth Gymraeg fel pwnc i bersonau sydd ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir.

15.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn gwella sgiliau Cymraeg personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhelir ganddo er mwyn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg.

16.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio canfyddiadau ei adolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(3) er mwyn gwella darpariaeth Gymraeg ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.

17.  Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i adnabod y gweithlu y mae ei angen arno er mwyn darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y cynllun yn unol â thargedau’r cynllun, ac i gyfrifo unrhyw ddiffyg disgwyliedig yn ei weithlu.

18.  Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cymorth er mwyn gwella sgiliau Cymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion, mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

19.  Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill ac asiantaethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

20.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill fel y bo angen, yn hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant i ddysgwyr yn unol â’r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(4).

(2)

Plant (sy’n 7 oed neu drosodd) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno cael addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl diwedd y cyfnod sylfaen.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources