Search Legislation

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1618 (Cy. 339)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

am. 5.00 p.m. ar 21 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

22 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2020.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) dylai ffurfio is-baragraff eu hunain a cael ei rifo fel is-baragraff(2).

(b)Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Cymhwyso

3.  Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiadau tir a ganlyn sydd â dyddiad effeithiol ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020—

(a)trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch y mae Tabl 2 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt;

(b)trafodiadau eiddo amhreswyl y mae Tabl 3 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt; a

(c)cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent y mae Tabl 4 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddi.

4.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) (trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch)—

(a)y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020; neu

(b)y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020 ac nad yw wedi ei hepgor gan reoliad 5.

5.  Mae trafodiad wedi ei hepgor gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3(a) y rhoddwyd effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 22 Rhagfyr 2020—

(a)pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020;

(b)pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020; neu

(c)pan geir, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drawsgludiad o ganlyniad iddo.

Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

6.—(1Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(2Yn lle Tabl 2 rhodder—

Tabl 2: Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Y band treth cyntafNid mwy na £180,0004%
Yr ail fand trethMwy na £180,000 ond nid mwy na £250,0007.5%
Y trydydd band trethMwy na £250,000 ond nid mwy na £400,0009%
Y pedwerydd band trethMwy na £400,000 ond nid mwy na £750,00011.5%
Y pumed band trethMwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,00014%
Y chweched band trethMwy na £1,500,00016%;

(3Yn lle Tabl 3 rhodder—

Tabl 3: Trafodiadau eiddo amhreswyl

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd seroNid mwy na £225,0000%
Y band treth cyntafMwy na £225,000 ond nid mwy na £250,0001%
Yr ail fand trethMwy na £250,000 ond nid mwy na £1,000,0005%
Y trydydd band trethMwy na £1,000,0006%; a

(4Yn lle Tabl 4 rhodder—

Tabl 4: Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero LANid mwy na £225,0000%
Y band treth cyntafMwy na £225,000 ond nid mwy na £2,000,0001%
Yr ail fand trethMwy na £2,000,0002%.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

Am 10.20 a.m. ar 21 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128) (“Rheoliadau 2018”) er mwyn mewnosod bandiau treth a chyfraddau treth canrannol diwygiedig ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, trafodiadau eiddo amhreswyl a chydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent.

Mae rheoliad 3 yn cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig at y trafodiadau tir a nodwyd uchod pan fo dyddiad effeithiol y trafodiad hwnnw yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020.

Mae rheoliad 4 yn mynd ymlaen i nodi eithriadau i gymhwysiad cyffredinol y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn unig. Pan fo dyddiad effeithiol y trafodiadau hyn yn syrthio ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020, ond pan gafodd contractau eu cyfnewid neu pan gafodd y contract hwnnw ei gyflawni i raddau sylweddol cyn 22 Rhagfyr 2020, bydd y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol blaenorol yn dal yn gymwys, oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 5 yn gymwys.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig a fydd yn gymwys i’r trafodiadau a bennir yn rheoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources