- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2021.
2. Nid yw dod â’r Rheolau hyn i rym yn effeithio ar gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, pe ceid gornest yn yr etholiad, cyn 5 Mai 2022.
3.—(1) Yn y Rheolau hyn—
ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—
yn ddydd Sadwrn;
yn ddydd Sul;
yn Noswyl Nadolig;
yn Ddydd Nadolig;
yn ddydd Gwener y Groglith;
yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);
mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—
yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a
yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;
ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw sir neu fwrdeistref sirol;
ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(2);
ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru.
(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—
(a)etholiad seneddol;
(b)etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned;
(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(3);
(d)etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(4).
(3) Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler adran 202(1)(5) o’r Ddeddf honno)—
“anabledd” (“disability”);
“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);
“cofnod dienw” (“anonymous entry”);
“deiseb etholiad” (“election petition”);
“etholwr” (“elector”);
“llys etholiad” (“election court”);
“pleidleisiwr” (“voter”);
“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);
“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);
“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);
“swyddog priodol” (“proper officer”).
4. At ddibenion adran 22(3)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(6), caniateir rhoi’r disgrifiad “Annibynnol” mewn papur enwebu ymgeisydd wrth ethol cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn lle, neu yn ogystal â’r disgrifiad “Independent”.
5.—(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.
(2) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(3) Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
(5) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.
(6) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)ar-lein, a
(b)mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.
(7) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—
(a)cael ei anfon drwy’r post,
(b)cael ei anfon yn electronig, neu
(c)cael ei ddanfon yn bersonol.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2021
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: